Sioned Erin Hughes
Adnabod Awdur: Sioned Erin Hughes
Dwed ychydig wrthon ni am Byw yn fy Nghroen
Mae’r llyfr yn gasgliad o 12 profiad gwahanol o gyflyrau iechyd – boed rheiny’n gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol. Daw’r cyfranogwyr o bob cwr o Gymru ac mae pob un yn berson ifanc hefyd.
Sut brofiad oedd ysgrifennu’r llyfr?
Dwi wedi mwynhau dod i gysylltiad efo’r cyfranogwyr i gyd achos roedden nhw’n bobl arbennig iawn. Ond ar yr ochr arall, yr her ddaeth i’r amlwg yn fuan iawn oedd sut i fynd o gwmpas defnyddio’r derminoleg gywir. Ar un llaw roedd gen i’r gair ‘ddiodde’ ac ar y llaw arall y gair ‘ymdopi’, ac i fi’n bersonol roeddwn yn diodde gyda fy iechyd ar y pryd a doeddwn i ddim yn ymdopi yn dda iawn o gwbl, ond mi fuase cyfranogwyr eraill, falle, yn dweud eu bod yn ymdopi a ddim yn diodde – felly gan fod 12 ohonom roedd yn anodd trio dod o hyd i’r derminoleg oedd yn addas i bawb. Mi wnes i golli cwsg dros hynny yn y dyddiau cynnar.
Dwed ychydig amdanat a sut ddoist ti’n awdur.
Roedd gen i wastad ddiddordeb mawr mewn geiriau ac ers o’n i’n hogan fach roedd gen i lyfr lle o’n i’n cofnodi dyfyniadau ro’n i’n eu clywed mewn sgyrsiau bob dydd neu mewn ffilmiau a llyfrau ac ati, ond wnaeth y gwir ddiddordeb o sgwennu ddim fy nharo tan i mi gychwyn yn y
brifysgol a dilyn cwrs o wersi rhyddiaith yn y flwyddyn gyntaf, ac ers hynny dwi ddim wedi stopio sgwennu achos dwi wedi gwirioni ar y grefft.
Wyt ti’n hoffi creu i oedolion neui blant a pam?
Dwi wedi bod yn sgwennu i oedolion yn y gorffennol ond hefyd dwi wedi bod yn sgwennu straeon i blant, felly mae gen i grŵp ar Facebook o’r enw Llun a Stori. Y syniad ydi bod plant yn gyrru lluniau imi a dwi wedi bod yn llunio stori yn seiliedig ar eu lluniau nhw wedyn. Mae hyn wedi bod yn brofiad difyr ofnadwy a dwi wedi mwynhau mwy nag oeddwn wedi ei ragweld.
Ble wyt ti’n hoffi ysgrifennu?
Gan amlaf byddaf yn sgwennu allan ar y decing pan fydd yn haul braf felly byddaf yn gwirioni pan fydd yr haf yn dod ac y byddaf yn gallu gwneud pethau felly.
Oes gyda ti gyngor ar gyfer darpar awduron?
Talu sylw at sgyrsiau, mynegiant yr wyneb ac osgo’r corff ac ati, ond y peth wnaeth fy helpu fi’n bersonol yn fwy na dim, ac sy’n dal i fy helpu hyd heddiw, ydi gwylio llwyth o ffilmiau, a darllen mor aml ac eang ag y medra i. Fysech yn synnu gymaint rydych yn gallu dysgu o’r pethau
yma; mae hyn wir yn eich galluogi chi i sgwennu ac yn eich rhoi ar ben ffordd i greu stwff eich hun wedyn.