Manon Steffan Ros
Adnabod Awdur: Manon Steffan Ros
Dwed ychydig wrthon ni am Pobol Drws Nesaf.
Mae gen i blant fy hun, ac wrth iddyn nhw fod yn edrych ar beth sy’n mynd ymlaen yn y byd ac yn clywed y newyddion ar y radio yn y tŷ – ro’n i’n teimlo bod o’n syniad sgwennu rhywbeth i’n atgoffa ni fel rhieni, ond i ddweud wrth blant hefyd, ei bod hi’n ocê bod pawb ’chydig bach yn wahanol. Mae’r stori am aliens: mae ’na aliens gwyrdd ac aliens piws a mae eu ffordd nhw o fyw’n wahanol, maen nhw’n siarad gwahanol ieithoedd ac mae’r stori’n sôn am ffitio cyfeillgarwch o gwmpas y pethau yna.
Sut brofiad oedd ysgrifennu’r llyfr?
Dwi wastad wir yn mwynhau’r broses o sgwennu ond dwi’n casáu ailddrafftio’r peth. Dwi’n casáu gwneud unrhyw waith ar rywbeth pan dw i wedi ei orffen unwaith. Dwi’n eitha diamynedd ond wnes i fwynhau hon yn enwedig achos ’mod i’n gallu cydweithio efo Jac Jones unwaith eto, achos neith Jac ddim jest gwneud y lluniau. Mae o’n fy holi i ac yn trio gwthio’r stori ac yn trio rhoi rhyw haen wahanol yn y lluniau hefyd, felly mae gennyt ti’r geiriau dwi wedi eu creu ond hefyd mae gennyt ti’r byd dwi a Jac wedi ei greu ar y cyd.
Dwed ychydig amdanat a sut ddoist ti’n awdur.
Mi wnes i ddod yn awdur pan oeddwn i’n un ar hugain – wnes i ddechrau sgwennu’r adeg honno. Ro’n i’n feichiog efo fy mhlentyn cynta ac ro’n i’n methu cario ’mlaen i weithio achos ro’n i’n sâl iawn. Ro’n i eisiau rhywbeth i lenwi’r amser felly wnes i ddechrau sgwennu llyfrau i blant, a bellach dwi’n sgwennu lot o wahanol fathau o sgwennu creadigol, ac ychydig bach o sgwennu ffeithiol, ond y rhan fwya o ’ngwaith ydy sgwennu llyfrau.
Oes gyda ti gyngor ar gyferdarpar awduron?
Y cyngor dwi’n rhoi ydy hyn – mae pob awdur yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd, ac mae hyn yn grêt. Mae rhai awduron yn cynllunio’n hynod o ofalus ac yn gwneud lot o waith ymchwil; dwi ddim yn gwneud y pethau ’na. Dwi byth byth, byth yn gwneud cynllun – dwi byth yn gwybod be sy’n mynd i ddigwydd ar ddiwedd y stori pan dwi’n dechrau sgwennu. Felly fedra i gael syniad yn fy mhen am gymeriad a jest dechrau sgwennu am y cymeriad yna.
O ran lleoliad – yn aml iawn, fedra i weld y lle yn fy mhen, a chyn belled â ’mod i’n nabod y cymeriad dwi’n sgwennu amdano fo, dwi ddim yn poeni am y stori. Dwi’n gwbod y bydd o’n ddarllenadwy os ydy’r cymeriad yn ddigon difyr.
Fy nghyngor i, felly, yw jest gwnewch o. Stopiwch gwneud esgusodion a stopiwch gorfeddwl. Mae pobol yn meddwl am sgwennu llyfr – neu sgwennu nofel ynenwedig – fel rhywbeth sy’n gorfod brifo a bod rhaid i chi chwysu gwaed. Dydy o ddim yn gorfod bod fel ’na. Mae o’n gallu bod yn hwyl ac yn gatharsis; mae o wir yn eich helpu chi a dach chi fod i’w joio fo. Felly, gwnewch o, rŵan … ewch i sgwennu!