Skip to content

1,046,415 books read so far

Parth Ysgol

Sialens Ddarllen yr Haf 2022

Mae Sialens Ddarllen yr Haf, a gyflwynir gan Yr Asiantaeth Ddarllen ac a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Yng Nghymru mae Cyngor Llyfrau Cymru, elusen cofrestredig, yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf drwy nawdd uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgyrch hon yn annog plant 4 i 11 oed i osod Sialens ddarllen iddyn nhw’u hunain, fel nad ydynt yn darllen llai dros yr haf.

Bob blwyddyn mae’r Sialens, a ddarperir gyda chymorth llyfrgelloedd cyhoeddus, yn ysgogi dros 700,000 o blant Prydain i ddal ati i ddarllen er mwyn adeiladu eu sgiliau a’u hyder. Drwy annog eich disgyblion i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf, gall eich ysgol:

  • Wella a chefnogi ei mentrau darllen a chynnwys rhieni a’r gymuned ehangach
  • Ddathlu’r pleser o ddarllen, gan sicrhau bod bob plentyn yn gallu darllen yn dda erbyn cyrraedd 11 oed
  • Barhau i helpu disgyblion i ddysgu yn ystod y gwyliau
  • Helpu i atal y duedd i sgiliau darllen plant ddirywio dros y gwyliau

Bob blwyddyn mae gan Sialens Ddarllen yr Haf thema wahanol. Yn 2022, mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth ar Teclynwyr, sef Sialens â thema’n ymwneud â gwyddoniaeth ac arloesi, a fydd yn helpu i ennyn chwilfrydedd plant am y byd o’u hamgylch.

Bydd y Sialens yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin ac mewn llyfrgelloedd yng Nghymru a Lloegr ar ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf.

Gall plant hefyd ymuno yn yr hwyl ar-lein, yma ar wefan swyddogol y Sialens. Mae dyddiadau gorffen ac eitemau gwobrwyo yn amrywio yn ôl lleoliad, felly rydym yn argymell cysylltu â’ch gwasanaeth llyfrgell lleol i ddarganfod mwy am y Sialens yn eich ardal. Cewch y newyddion diweddaraf am y Sialens a chynigion cyffrous eraill ar ein tudalen Facebook.

Adnoddau Teclynwyr

Mae gennym ddewis eang o adnoddau ysgol i’ch helpu i hyrwyddo’r Sialens a helpu’ch disgyblion i ddod yn Declynwyr!

Lawrlwythwch ein cyflwyniad gwasanaeth ysgol i gyflwyno Sialens Ddarllen yr Haf a’r thema eleni i’ch disgyblion. Gellir rhannu’r rhain yn y dosbarth neu ar blatfformau dysgu o bell.

Helpwch i wneud y disgyblion yn gyffrous am y Sialens drwy lawrlwytho a defnyddio’n Posteri Teclynwyr. Mae gennym bosteri i’w argraffu mewn maint A3 ac A4 ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Adnoddau am ddim i’w rhannu gyda’ch dosbarth

Ewch i’n Banc Adnoddau i lawrlwytho deunyddiau rhad ac am ddim gan gynnwys rhestrau llyfrau, adnoddau addysgu, taflenni gweithgaredd a fideos. Mae’r Banc Adnoddau yn cael ei ddiweddaru gydag eitemau newydd bob wythnos, felly gwiriwch yn ôl yn rheolaidd!

Sialens Ddarllen yr Athrawon

Ymunwch â’ch her eich hun drwy gofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Athrawon, a gynhelir rhwng 27 Mehefin a 29 Hydref. Sicrhewch wobrau, adnoddau a dechreuwch sgyrsiau gydag athrawon eraill wrth i chi ddarganfod llyfrau plant gwych yr haf hwn. Mae adnoddau ac argymhellion Sialens 2021 yn dal ar gael i chi weld hefyd!

Ar hyn o bryd mae hwn ar gael yn y Saesneg yn unig ac er mwyn tanysgrifio ewch i – https://summerreadingchallenge.org.uk/school-zone-src

Chatterbooks

Mae’r Reading Agency hefyd yn cydlynu rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau darllen o’r enw Clonclyfrau (Chatterbooks).

Mae grwpiau darllen Chatterbooks yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn ac wedi’u lleoli’n bennaf mewn llyfrgelloedd ac ysgolion lleol. Cewch ganfod mwy trwy arwyddo i’n cylchlythyr Chatterbooks.

Cewch wybod mwy am yr adnoddau sydd ar gael i chi i sefydlu eich grŵp darllen plant eich hun.

Ewch i’n Siop i archebu pecyn arweinydd grŵp Chatterbooks a gweld ein cynigion grwpiau darllen diweddaraf. Fe gewch hefyd hyd i gannoedd o adnoddau’n rhad ac am ddim, gan gynnwys arweiniad a phecynnau gweithgareddau grwpiau darllen ar ein tudalen adnoddau.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Chatterbooks mae croeso ichi gysylltu â ni

Darllen yn Well i blant

Mae Darllen yn Well i blant yn darparu gwybodaeth, storïau a chyngor sydd â sicrwydd ansawdd i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae llyfrau wedi’u dewis a’u hargymell gan weithwyr proffesiynol blaenllaw a’u cynhyrchu ar y cyd â phlant a theuluoedd.

Mae’r rhestr lyfrau wedi’i hanelu at blant Cyfnod Allweddol 2 (oedran 7-11), ond yn cynnwys teitlau sydd wedi’u hanelu at ystod eang o lefelau darllen i gefnogi darllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen gyda’i brodyr a’u chwiorydd a’u gofalwyr. Cewch fwy am y cynllun a gweld adnoddau cefnogi yma.

Bydd Darllen yn Well i blant ar gael o bob llyfrgell yng Nghymru o dymor yr Hydref 2020 trwy gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy