Skip to content

1,046,414 books read so far

Parth Cartref

Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae’r wefan hon yn gartref i raglenni darllen er pleser blynyddol Sialens Ddarllen yr Haf a Sialens Fach y Gaeaf, sy’n cael eu rhedeg gan yr elusen genedlaethol Yr Asiantaeth Ddarllen.

Ceir mynediad am ddim i’r wefan ac mae’n darparu lle i blant roi marc ac adolygiad ar y llyfrau maent yn eu darllen wrth iddyn nhw symud tuag at eu nodau darllen.

Gall plant ddefnyddio’r wefan trwy’r flwyddyn gron i gadw cofnod o’r llyfrau maent yn eu darllen, i gael argymhellion am lyfrau, ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chystadlaethau difyr ar y thema llyfrau gan ein partneriaid cyhoeddi.

Pam fod darllen er pleser mor bwysig?

  • Mae darllen er pleser yn bwysicach i lwyddiant academaidd plentyn na lefel addysg neu statws economaidd-gymdeithasol ei rieni.
  • Gall meithrin cariad tuag at ddarllen mewn plant helpu eu lles yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae 19% o oedolion sy’n darllen yn dweud ei fod yn eu hatal rhag teimlo’n unig.
  • Mae astudiaethau wedi canfod bod gan y rhai sy’n darllen er pleser lefelau uwch o empathi, mwy o hunan-barch, a’r gallu i ymdopi’n well â sefyllfaoedd anodd.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf a Sialens Fach y Gaeaf yn cynnig fframwaith difyr i blant a theuluoedd ar gyfer darllen er pleser a dathlu darllen gyda’i gilydd.


Sialens Ddarllen yr Haf 2022

Mae Sialens Ddarllen yr Haf, a gyflwynir gan Yr Asiantaeth Ddarllen, yn annog plant 4 i 11 oed i osod Sialens ddarllen iddyn nhw’u hunain fel nad ydynt yn darllen llai dros yr haf.

Bob blwyddyn mae gan Sialens Ddarllen yr Haf thema wahanol. Yn 2022, mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio mewn partneriaeth â’r Grŵp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth ar gyfer Teclynwyr, sef thema’n ymwneud â gwyddoniaeth ac arloesi fydd yn helpu i ennyn chwilfrydedd plant am y byd o’u hamgylch.

Gydag adnoddau a gweithgareddau gan y Grŵp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth, mae’r Sialens yn canolbwyntio ar ysbrydoli plant i weld y wyddoniaeth a’r dyfeisgarwch y tu ôl i wrthrychau bob dydd, gan ddangos bod darllen a gwyddoniaeth i bawb.

Lansiwyd Sialens Ddarllen yr Haf mewn llyfrgelloedd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon Ddydd Sadwrn 25 Mehefin ac mewn llyfrgelloedd yng Nghymru a Lloegr Ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf. Gallwch hefyd gymryd ran ar-lein yma ar wefan y Sialens.

Archwiliwch fwy o ffeithiau darllen yma

Ymuno â gwefan y Sialens

Os ydych chi dan 16 oed, bydd angen rhiant neu ofalwr arnoch i’ch helpu i gofrestru ar gyfer cyfrif gwefan.

Bydd angen i’ch rhiant neu ofalwr greu eu cyfrif oedolyn eu hunain yn gyntaf, ac yna gallant greu cyfrif plentyn ar eich cyfer chi.

Mae hyn er mwyn i’ch rhiant neu ofalwr allu gofalu am eich gwybodaeth bersonol a rhoi eu caniatâd ichi gael cyfrif.

Creu cyfrif gwefan am y tro cyntaf

  1. Dewiswch y botwm ‘Ymuno’ ar dop y dudalen hon i ddechrau arni.
  2. Rhowch eich dyddiad geni a dewiswch ‘Parhau’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich dyddiad geni eich hun fan hyn, nid un eich plentyn.
  3. Llenwch y dudalen ‘Creu proffil newydd’ gyda’ch manylion eich hun a dewiswch ‘Creu proffil’ i’w chyflwyno.
  4. Unwaith bod gennych chi gyfrif (oedolyn), dewiswch y botwm ‘+Ychwanegu plentyn newydd’.
  5. Llenwch y dudalen ‘Ychwanegu proffil plentyn’ gan ddefnyddio manylion eich plentyn, yna dewiswch y botwm ‘Creu proffil newydd’ pan fyddwch chi’n barod i’w chyflwyno.

Gallwch ailadrodd Cam 5 i greu cyfrifon newydd ar gyfer mwy o blant. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio manylion Enw Defnyddiwr a Chyfrinair unigryw ar gyfer bob cyfrif plentyn a grëir. Gallwch reoli manylion cyfrif eich plentyn – gan gynnwys enw defnyddiwr a chyfrinair – drwy’r tab ‘Plant’ ar eich proffil chi.

Enwau sgrin ar gyfer y wefan

Gall plant ddewis eu henw defnyddiwr a’u cyfrinair eu hunain wrth lenwi’r ffurflen gofrestru. Bydd y manylion hyn yn caniatáu iddyn nhw mewngofnodi i‘w proffil bob tro maen nhw’n ymweld.

Fel haenen ychwanegol o ddiogelwch, mae pob defnyddiwr yn cael enw sgrin hefyd i’w ddefnyddio ar y wefan.

Dangosir yr enw sgrin bob tro mae defnyddiwr yn mewngofnodi. Mae’r enw sgrin yn helpu i warchod hunaniaeth unrhyw blant sy’n rhoi eu henw iawn fel eu henw defnyddiwr. Bydd adolygiadau o lyfrau a negeseuon ar y dudalen Sgwrs bob amser yn ymddangos dan enw sgrin, i helpu i gadw pawb yn ddiogel ar-lein.

Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Nid yw’r cyfeiriad e-bost a gesglir gennym pan grëir proffil newydd yn cael ei basio ‘mlaen i unrhyw drydydd parti ac eithrio trydydd parti sy’n darparu’r gwasanaethau dan sylw, neu gyda chydsyniad penodol. Rydym yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i alluogi defnyddwyr sydd wedi anghofio’u manylion mewngofnodi i gael mynediad at y safle eto. Gyda phlant sy’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth, byddwn yn ei ddefnyddio i roi gwybod iddyn nhw os ydyn nhw wedi ennill gwobr.

Mae’r Llwythwr Llyfrau’n rhoi argymhellion darllen yn seiliedig ar lyfrau mae plant eraill wedi’u mwynhau. Mae’r holl lyfrau wedi’u hargymell, wedi cael marc, ac wedi‘u hadolygu gan blant sy’n defnyddio’r wefan hon. Gofynnwn i blant roi dyddiad geni pan maent yn cofrestru er mwyn gallu teilwra argymhellion y Llwythwr Llyfrau ar gyfer grwpiau oedran gwahanol.

Mae gan blant yr opsiwn o bostio negeseuon ar y dudalen Sgwrs i ddweud sut hwyl maen nhw’n ei gael ar eu Sialens a siarad â darllenwyr eraill. Mae’r holl negeseuon yn mynd yn uniongyrchol i’n tîm cymedroli, ac ni arddangosir unrhyw beth ar y safle sy’n torri rheolau ein cod ymddygiad llym.

Ni all y plant anfon negeseuon at ei gilydd yn annibynnol – dim ond trwy bostio negeseuon ar y dudalen Sgwrs.

Ni fyddwn byth yn defnyddio enwau go iawn plant nac yn caniatáu i negeseuon gydag enwau go iawn gael eu postio ar ein safle. Yn yr un modd, ni ddangosir unrhyw wybodaeth bersonol megis cyfeiriadau a rhifau ffôn. Bydd negeseuon sy‘n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol yn cael eu hatal gan ein cymedrolwyr.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd llawn yma

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy