Skip to content

1,046,414 books read so far

Darllenwch y Rheolau

10 rheol am sut i ymddwyn ar y wefan

Mae’r wefan hon wedi’i bwriadu ar gyfer plant sy’n 13 oed ac iau.

Mae’n rhaid ichi addo cadw at y 10 rheol hon. Caiff pob neges ac adolygiad llyfr ei ddarllen a’i wirio gan gymedrolwyr i sicrhau ei fod yn addas. Os byddwch yn torri unrhyw un o’r rheolau, bydd eich neges yn cael ei gwrthod!

  • Cadwch yn ddiogel – peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol yn eich negeseuon. Mae hyn yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad stryd na rhif ffôn.
  • Peidiwch â chynnwys manylion personol unrhyw un arall y eich negeseuon, gan gynnwys rhieni, gofalwyr, athrawon neu arweinwyr grwpiau.
  • Peidiwch â phostio negeseuon anweddus, hiliol, bygythiol, treisgar neu ddi-chwaeth at y safle.
  • Cofiwch drin pawb gyda pharch – hyd yn oed os oes gan rywun farn wahanol i chi; peidiwch â’i adael i fynd yn bersonol.
  • Peidiwch â mawrygu gweithgareddau anghyfreithlon neu beryglus – mae’n iawn siarad am yr hyn sy’n digwydd mewn llyfr, ond peidiwch ag annog eraill i’w hefelychu
  • Peidiwch â sgwennu unrhyw beth cas am unrhyw un, gan gynnwys defnyddwyr eraill, rheini, gofalwyr, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, arweinwyr grwpiau na phobl enwog.
  • Peidiwch â sgwennu popeth mewn PRIFLYTHRENNAU neu emojis – dydy hi ddim yn hawdd i bawb ddarllen ac ni chaiff eich neges ei chyhoeddi.
  • Peidiwch â phostio negeseuon cyfan mewn iaith testun – mae’n iawn byrhau rhai geiriau ond nid pawb sy’n deall iaith testun nac yn ei chael hi’n rhwydd ei darllen.
  • Peidiwch â phostio dolenni i wefannau eraill – does dim modd rheoli beth sydd yn y gwefannau hyn.
  • Peidiwch â thorri rheolau hawlfraint. Mae hyn yn golygu na ddylech bostio neges destun o lyfrau rhywun arall.

Mwynhewch ac edrychwn ymlaen at eich cael ar y safle!

Cymerwch fi’n ôl at y dudalen gofrestru

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy