-
1. Cofrestra
Cofrestrwch - cliciwch ar ‘Ymuno nawr’ i greu eich cyfrif
-
2. Darllena lyfrau
Darllenwch! Gosodwch eich nod darllen a darllenwch unrhyw beth rydych chi'n ei hoffi! Bob tro y byddwch chi'n gorffen llyfr, ychwanegwch ef at eich proffil a gadewch adolygiad.
-
3. Enilla wobrau digidol
Byddwch yn datgloi gwobrau digidol, gan gynnwys bathodyn ar-lein arbennig a thystysgrif i'w hargraffu a'i chadw pan fyddwch chi'n cyrraedd eich nod Sialens!
Creu Proffil
Derbyn gwobrau, chwarae gemau ac ennill bathodynnau wrth ichi ddarganfod llyfrau anhygoel i’w darllen yr haf hwn!
Ymuno nawrSut mae’n gweithio
Croeso i Sialens Ddarllen yr Haf! Gallwch ymuno â'r Sialens yn bersonol yn eich llyfrgell leol NEU gymryd rhan ar-lein.
Gwybodaeth i oedolion
Cyfrolau’n Canu!
Yn 2026, mae The Reading Agency yn partneru gyda Universal Music Group UK i ddod â thema Cyfrolau’n Canu! yn fyw.
Mae’r thema’n dathlu llawenydd cerddoriaeth a’r grym sydd ganddi i symud, ysbrydoli a chysylltu pobl – oll drwy hud darllen.
Eleni, daw’r Sialens yn fyw drwy ddarluniau’r awdur a’r darlunydd, Harry Woodgate.
Diolch!
WAW, rydym wedi cael gaeaf gwych o ddarllen.
Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cwblhau Sialens Fach y Gaeaf!
Daliwch ati gyda’ch darllen anhygoel ac ymunwch â ni ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf yn fuan…
Gwybodaeth ddiweddaraf
Archwiliwch y Casgliad Llyfrau: Ar eich marciau, Darllenwch!
Paratowch am lwyth o ysbryd tîm, eich hoff arwyr (neu beidio!) chwaraeon, a digon o antur gyda’n casgliad diweddaraf o lyfrau ar thema chwaraeon a gemau.
Casgliad Llyfrau Teclynwyr
Mae’r Casgliad Llyfrau Teclynwyr yn llawn llyfrau difyr ar thema gwyddoniaeth ac arloesedd a ddewiswyd ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2022.
Os ydych chi’n chwilio am argymhellion er mwyn dechrau arni, rydych chi yn y lle iawn!