Help
Fe gewch ddarllen am Sialens Ddarllen yr Haf eleni ar ein tudalen Amdanon ni yma
Am wybodaeth i rieni a gofalwyr, cymerwch olwg ar ein Parth Ysgol
Am wybodaeth i ysgolion, cymerwch olwg ar ein School Zone
Isod fe gewch atebion i rai cwestiynau ynglŷn â defnyddio’r wefan hon.
Pwyswch ar benawdau a chwestiynau’r adrannau i ganfod atebion i’ch ymholiadau.
Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau ein gwefan Cymraeg newydd ac rydyn ni’n gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i barhau i’w gwella. Os byddwch chi’n gweld unrhyw beth nad yw’n edrych yn iawn, anfonwch e-bost atom ar summerreadingchallenge@readingagency.org.uk fel y gallwn ei drwsio
Eich Cyfrif Ar-lein
Ar gyfer cwestiynau ynglŷn â chofrestru ar y wefan hon; mewngofnodi ar eich cyfrif; enwau defnyddiwr, cyfrineiriau, a sgrîn-enwau
Cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf
Ar gyfer cwestiynau ynglŷn â chymryd rhan yn Sialens 2020; canfod llyfrau i ddarllen; cofnodi eich cynnydd gan ddefnyddio eich tudalen proffil
Cwestiynau Pellach
Sut i gysylltu â’r Reading Agency os nad oes ateb i’ch cwestiwn ar y dudalen hon
Sut ydw i’n cofrestru i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf?
Dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi derbyn e-bost o gadarnhad. Beth ddylwn i ei wneud?
Mae fy Sgrîn-enw Sgwad Gwirion yn Anhysbys. Beth mae hyn yn ei olygu?
Rydw i wedi anghofio fy Enw Defnyddiwr – beth wna i?
Rydw i wedi anghofio fy Nghyfrinair – beth wna i?
Rhiant ydw i ac rydw i wedi anghofio fy manylion – beth wna i?
Sut ydw i’n cofrestru i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf?
Os oes ganddoch chi eisoes gyfrif Sialens Ddarllen yr Haf, ewch i’r dudalen hafan a dewis y botwm MEWNGOFNODI pinc. Rhowch eich Enw Defnyddiwr a’ch Cyfrinair er mwyn ymuno â’ch proffil.
I ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf am y tro cyntaf, fe fydd arnoch angen:
- Caniatâd gan eich rhiant neu ofalwr
- Cyfeiriad e-bost yn perthyn i’ch rhiant neu ofalwr
Ewch i’r dudalen hafan a phwyso ar y botwm glas YMUNO NAWR i ddechrau.
Dilynwch y camau isod i gwblhau’r cofrestriad:
- Rhowch eich dyddiad geni pan ofynnir ichi a phwyswch Ymlaen
- Rhowch y cyfeiriad e-bost sy’n perthyn i’ch rhiant/gofalwr
- Dewisiwch Enw Defnyddiwr a Chyfrinair sy’n unigryw i chi – gallwch gynnwys rhifau neu lythrennau ychwanegol. Rydyn ni’n argymell ichi beidio â defnyddio eich enw go iawn. Fe fydd gofyn cael yr Enw Defnyddiwr a’r Cyfrinair i fewngofnodi i’ch cyfrif unwaith y bydd wedi’i sefydlu.
- Rhowch eich enw i mewn a phwyswch Anfon er mwyn symud ymlaen at y dudalen nesaf
Beth ddylwn i ei wneud os ydy’r dudalen yn diweddaru a dydw i ddim yn symud ymlaen at y dudalen nesaf?
Dewiswch Enw Defnyddiwr arall, gan ei bod hi’n bosib fod rhywun arall eisoes wedi cofrestru gan ddefnyddio’r un enw i chi ddewis.
Fe wnawn ni anfon e-bost at gyfeiriad y rhiant/gofalwr a gawson ni ganddoch chi, er mwyn gadael iddyn nhw wybod eich bod wedi dechrau’r broses gofrestru.
Fe fydd gofyn wedyn i’ch rhiant/gofalwr gwblhau’r rhan nesaf o’r broses ar eich rhan
Fe fyddwch wedi derbyn e-bost o gadarnhâd o’r cyfeiriad passport@readingagency.org.uk
Darllenwch yr e-bost hon yn ofalus cyn parhau gyda’r broses gofrestru.
I sefydlu proffil Sialens Ddarllen yr Haf eich plentyn, mae gofyn inni, yn ôl y gyfraith, i gadarnhau eich caniatâd cyn ein bod yn cwblhau cofrestru’r cyfrif.
Mae’n bosib fod ganddoch chi eisoes gyfrif gyda’r Reading Agency, trwy un o’n rhaglenni eraill, megis World Book Night neu Reading Groups for Everyone. Os felly, byddwch â’r manylion hyn wrth law er mwyn cwblhau gweddill y broses.
Os nad oes ganddoch eisoes gyfrif gyda’r Reading Agency, medrwch gofrestru am un yma.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi eich dyddiad geni eich hun. Os ydych yn cofrestru fel plentyn (dan 16), fyddwch chi ddim yn gallu parhau gyda’r broses gadarnhau.
Fe ddylai fod ganddoch chi eich set eich hunan o fanylion cyfrif y Reading Agency.
Yn yr e-bost o gadarnhâd a anfonwyd ganddon ni atoch, ceir dolen o’r enw ‘Adolygu cais cyfrif plentyn’ Pwyswch ar y ddolen hon. Fe gewch eich cyfeirio at sgrin fewngofnodi’r wefan. Rhowch eich Enw Defnyddiwr a’ch Cyfrinair eich hun er mwyn mewngofnodi.Peidiwch â rhoi Enw Defnyddiwr a Chyfrinair eich plentyn, gan na fydd modd ichi barhau.
Wrth ichi fewngofnodi, fe fyddwch yn mynd at dudalen o’r enw ‘Cyfrif eich plentyn’. Cwblhewch y meysydd ar y dudalen hon, a rhowch tic yn y blwch/blychau perthnasol i gadarnhau eich bod yn rhoi eich caniatâd.
Wedi cyflwyno eich caniatâd, fe welwch neges Diolch. Mae eich cyfrif Sialend Darllen yr Haf wedi’i sefydlu ac yn barod i’w ddefnyddio.
Ewch i’r dudalen hafan a dewis y botwm Mewngofnodi.
Rhowch yr Enw Defnyddiwr a’r Cyfrinair a ddewiswyd gan eich plentyn yng Ngham 3 uchod.
Dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi derbyn e-bost o gadarnhâd. Beth ddylwn i ei wneud?
Medrwn ail-anfon eich e-bost gadarnhau rhiant. I wneud hyn, mae gofyn inni wybod Enw Defnyddiwr y cyfrif rydych chi’n ceisio cymeradwyo, er mwyn inni ei ganfod yn ein system. Anfonwch Enw Defnyddiwr y cyfrif at ein tîm ac fe wnawn ni wneud cais am e-bost newydd. Efallai y bydd angen ichi hefyd edrych yn eich ffolderi Sothach (‘Junk’).
Diweddariad Mehefin 12: Rydyn ni wedi darganfod fod e-byst cadarnhau a anfonwyd at gyfeiriadau hotmail a gmail wedi’u blocio gan Microsoft, ac felly heb gyrraedd eich mewnflwch. Erbyn hyn, rydyn ni wedi gweithio gyda Microsoft i gywiro hyn ac maen nhw’n gwneud newidiadau i symud y gwaharddiad. Fe fyddwn ni’n dechrau ailddosbarthu e-byst coll ar Fehefin 15 unwaith y bydd eu newidiadau wedi’u gwneud. Fe ddylech dderbyn eich e-bost o gadarnhâd yn fuan wedyn.
Peidiwch â phoeni! Mae pawb ar wefan Sialens Darllen yr Haf yn derbyn Sgrîn-enw Sgwad Gwirion i’w helpu cadw’n ddiogel. Mae enwau’r Sgwad Gwirion yn dri gair, er enghraifft, ‘Doctor Llyfrbryf Jones’.
Bydd yr Enw Defnyddiwr a’r Cyfrinair a ddewisoch chi wrth ichi lenwi’r ffurflen gofrestru yn dal i weithio – fe fydd gofyn ichi gofio’r manylion hyn er mwyn mewngofnodi i’ch proffil pob tro y byddwch yn ymweld â’r wefan hon.
Mae rhai pobl yn rhoi eu henw’u hunan go iawn fel eu Henw Defnyddiwr ac i’ch cadw’n ddiogel, dydyn ni ddim am i hwn ymddangos pan fyddwch yn gadael sylwadau neu anfon adolygiad llyfr. Dyna pam fod ganddoch chi Sgrîn-enw Sgwad Gwirion hefyd. Pan fyddwch yn dechrau Sialens Ddarllen yr Haf am y tro cyntaf, cewch ddefnyddio’r symbylydd enwau i greu eich enw eich hunan.
Mae fy Sgrîn-enw Sgwad Gwirion yn Anhysbys. Beth mae hyn yn ei feddwl?
Os ydy’r dyddiad geni a ddefnyddioch chi i greu eich cyfrif yn dangos ei fod yn perthyn i oedolyn, fe fyddwch yn derbyn y sgrîn-enw Anhysbys yn lle sgrîn-enw tri gair.
Mae hyn oherwydd defnyddir yr un system gofrestru ar draws holl wefannau’r Reading Agency, lle caiff oedolion rannu sylwadau gan ddefnyddio’u henwau’u hunain os ydyn nhw’n dymuno. Dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw wybodaeth bersonol i ymddangos ar y wefan hon, felly mae Oedolion yn ymddangos fel Anhysbys yn lle hynny.
I dderbyn Sgrîn-enw Sgwad Gwirion, mae gofyn ichi sicrhau eich bod yn rhoi eich dyddiad geni eich hun wrth ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru. Cewch barhau i ddefnyddio’r wefan hon a chymryd rhan yn yr Her os ydych chi wedi mewngofnodi ar gam fel oedolyn.
Rydw i wedi anghofio fy Enw Defnyddiwr – beth wna i?
Fe all eich rhiant/gofalwr gael hyd i’ch Enw Defnyddiwr ar eu cyfrif eu hunain. Mewngofnodwch ar gyfri’r rhiant a phwyswch ‘Plant’. Pwyswch ar enw cyfri’r plentyn i weld eich manylion.
Rydw i wedi anghofio fy Nghyfrinair – beth wna i?
Fe all eich rhiant/gofalwr ailosod eich cyfrinair ichi gan ddefnyddio’u cyfrif eu hunain. Mewngofnodwch ar gyfri’r rhiant a phwyswch ‘Plant. Pwyswch ar enw cyfri’r plentyn ac fe fydd gan y dudalen nesaf ddolen ichi gael ailosod eich cyfrinair.
Rydw i’n oedolyn ac wedi anghofio fy manylion – beth wna i?
Fe gewch adfer manylion angof eich cyfrif trwy roi eich cyfeiriad e-bost yma.
Pan fo’ch plentyn yn cofrestru am gyfrif, dydyn ni ddim ond yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost er mwyn inni allu cysylltu â chi am ganiatâd, ac felly dydy’r e-bost ddim ‘wedi’i chymryd’ gan eu cyfrif nhw.
Os ydych yn derbyn neges sy’n datgan fod eich e-bost eisoes yn cael ei defnyddio, mae hyn yn golygu eich bod eisoes wedi’ch cofrestru am gyfrif oedolyn gyda’r Asiantaeth Ddarllen. Cewch adfer eich manylion cyfrif angof trwy deipio eich cyfeiriad e-bost yma.
Cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf
Pwy sy’n cael cymryd rhan yn y Sialens Ddarllen yr Haf?
Beth sy’n rhaid i mi ei wneud er mwyn cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf?
Sut ydw i’n ychwanegu llyfr dwi wedi’i ddarllen at fy mhroffil?
Beth ydy fy rhestr llyfrau-awydd-darllen?
Ydw i’n darllen llyfrau ar y wefan hon?
Pwy sy’n cael cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf?
Mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi’i anelu at blant 4-11 oed.
Mae plant iau/hŷn hefyd yn cael cofrestru os fasen nhw’n hoffi cymryd rhan.
Fel arfer, mae’r her yn digwydd mewn llyfrgelloedd ledled y wlad. Eleni, gyda’r holl darfu o ganlyniad i COVID-19 ac effaith yr ymbellhau cymdeithasol ar ysgolion a llyfrgelloedd cyhoeddus, mae’r llwyfan Sialens Ddarllen yr Haf digidol newydd yn annog plant i ddal ati i ddarllen dros yr hyn sydd wedi datblygu’n dymor haf llawer hirach.
Fel menter arloesol, dydy’r llwyfan ddim yn cynnwys Sialens Fach ar wahân i blant dan oed ysgol, ond caiff teuluoedd ddal i ymuno yn yr holl hwyl trwy greu proffil gwefan a dewis nod darllen gyda’i gilydd. Ewch i’n tudalennau Casgliad Llyfrau i ganfod llawer o awgrymiadau am lyfrau darluniadol hyfryd sy’n berffaith ar gyfer darllen yn uchel gyda phlant bach.
Beth sy’n rhaid i mi ei wneud er mwyn cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf?
Wrth ichi ymuno â’r Sialens, fe ofynnir ichi osod nod darllen i chi eich hunan dros yr haf.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn gosod nod o chwe llyfr i chi eich hunan, ond mae croeso ichi ddewis pa rif bynnag sy’n addas i chi.
Cewch ddefnyddio unrhyw lyfrau yr hoffech i gwblhau eich Sialens: mae ffuglen, llyfrau ffeithiol, barddoniaeth, llyfrau jôcs, llyfrau darluniadol, llyfrau llafar i gyd yn cyfrif! Ewch at wefan eich gwasanaeth llyfrgell lleol er mwyn benthyg e-lyfrau a llyfrau llafar yn rhad ac am ddim. Darllenwch ein harweiniad hwylus i ganfod mwy am gael gafael ar lyfrau tra eich bod gartref.
Pob tro y byddwch wedi gorffen llyfr, ychwanegwch y llyfr at eich proffil Sgwad Gwirion, rhowch raddfa werthuso iddo a gadael adolygiad.
Bydd eich proffil yn dangos ichi eich cynnydd yn y Sialens – daliwch ati i ddarllen er mwyn cyrraedd eich nod!
Fe fyddwch yn datgloi gwobrau digidol ar hyd y ffordd. Ceir hefyd tystysgrif i’w lawrlwytho a’i chadw pan fyddwch yn cyrraedd eich nod!
Sut ydw i’n ychwanegu llyfr dwi wedi’i ddarllen at fy mhroffil?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi ar eich cyfrif Sialens Ddarllen yr Haf. Fe fyddwch yn glanio ar eich tudalen proffil wrth ichi fewngofnodi, ac fe fedrwch chi bwyso’r botwm pinc, FY HER, yn y gornel uchaf ar y dde er mwyn cael eich cyfeirio yno.
Pwyswch y blwch pinc sy’n dweud ‘Ychwanegu llyfr at eich Her’. Rhowch deitl y llyfr rydych wedi’i gwblhau er mwyn chwilio amdano, ac yna dewis o’r rhestr o ganlyniadau. Rhowch raddfa werthuso i’ch llyfr, teipiwch eich adolygiad yn y blwch, yna pwyso’r botwm i gyflwyno. Da iawn ti! Rydych wedi ychwanegu llyfr.
Beth ydy fy rhestr llyfrau-awydd-darllen?
Dyma’r rhestr ichi allu cadw golwg ar yr holl lyfrau yr hoffech chi eu darllen dros yr haf. Cewch ddefnyddio eich rhestr llyfrau-awydd-darllen i nodi’r llyfrau sy’n ymddangos yn ddiddorol ichi, yna defnyddio eich gwasanaeth llyfrgell lleol neu lwyfan e-fenthyg dewisol i chwilio amdanyn nhw i’w darllen.
Mae hyn yn wahanol i’r nod darllen ar eich proffil – dylech chi ddim ond ychwanegu llyfr at eich tudalen cynnydd ar ôl ei orffen.
Ydw i’n darllen llyfrau ar y wefan hon?
Mae’r wefan hon yn rhoi llawer o syniadau ichi am lyfrau gwych i’w darllen, gweithgareddau a gemau’n ymwneud â llyfrau ichi fwynhau, a phroffil i gadw cofnod o’ch nod am yr haf.
I ddarllen llyfr ar-lein, fe fydd gofyn ichi fynd at wefan eich gwasanaeth llyfrgell lleol, lle cewch fenthyg eu e-lyfrau a llyfrau llafar yn rhad ac am ddim – mae’n union fel mynd i’r llyfrgell ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf arferol, ond fod hyn ar-lein! Darllenwch ein harweiniad hwylus i ganfod mwy am gael hyd i lyfrau tra eich bod gartref, ar-lein neu fel arall.
Mae’r Llwythwr Llyfrau yn defnyddio awgrymiadau plant o ar draws y DU ac mae’r mwyafrif o’r rhain yn deitlau Saesneg. Gall plant yng Nghymru ychwanegu unrhyw deitl i’w proffil Sialens Ddarllen yr Haf (mewn unrhyw iaith). Rydym yn eu hannog i ychwanegu cynifer o deitlau Cymraeg ag sy’n bosib, er mwyn i’r Llwythwr Llyfrau ddechrau llenwi gydag awgrymiadau o deitlau Cymraeg ar gyfer plant eraill. Mae’r Reading Agency yn edrych ar ffyrdd o ychwanegu opsiwn i hidlo’r canlyniadau chwilio, fel bod cyfranwyr yn gallu dewis gweld teitlau Cymraeg yn unig. Yn y cyfamser, archwiliwch drwy’r wefan lle gewch nifer o awgrymiadau am deitlau Cymraeg gan y Reading Agency, Cyngor Llyfrau Cymru a’n partneriaid llyfrgell.
Cwestiynau pellach
Os ydy eich ymholiad yn ymwneud â gweithgaredd Sialens Ddarllen yr Haf a drefnir gan wasanaeth llyfrgell eich awdurdod lleol, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol, gan mai nhw sy’n gwybod orau beth sy’n digwydd yr haf hwn yn eich ardal leol. Bydd eich gwasanaeth llyfrgell lleol hefyd yn gallu eich helpu gydag unrhyw gwestiynau ynghylch cael gafael ar e-lyfrau a llyfrau llafar trwy eu llwyfannau e-fenthyg.
Os ydych chi’n riportio problem dechnegol gyda gwefan Sialens Ddarllen yr Haf, byddwch yn barod i rannu’r wybodaeth ganlynol gyda ni pan fyddwch yn cysylltu, gan ei fod yn ein galluogi i’ch helpu’n gynt:
Os ydy eich ymholiad yn ymwneud â chyfrif gwefan, gadewch inni wybod y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i gofrestru’r cyfrif a, lle bo’n bosib, yr Enw Defnyddiwr rydych wedi’i ddewis wrth gwblhau’r ffurflen gofrestru.
Ar gyfer cyfrifon plant, os fedrwch anfon Sgrîn-enw Sgwad Gwirion eich plentyn hefyd, bydd hyn yn ein helpu i adnabod y defnyddiwr yn ein system.
Os ydy eich ymholiad yn ymwneud â agwedd o’r wefan sy’n ymddangos nad ydy’n gweithio’n iawn, cofiwch gynnwys dolen at y dudalen benodol a sgrîn lun o’r broblem sydd ganddoch chi.
Gallwch gysylltu â thîm Sialens Ddarllen yr Haf yma: summerreadingchallenge@readingagency.org.uk
Gallwch gysylltu â thîm y wasg a chyfathrebu’r Reading Agency yma: comms@readingagency.org.uk
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau am raglenni eraill Y Reading Agency at: info@readingagency.org.uk, ac fe wnawn ni eich cysylltu â thîm y rhaglen berthnasol.
Cydnabod
Rydym yn darparu’r Sialens Darllen yr Haf gyda chefnogaeth ein partneriaid.