Skip to content

1,046,182 Llyfr wedi’u Darllen

Sut i gael gafael ar lyfrau

Gallwch ddod o hyd i lwyth o lyfrau gwych i’w darllen trwy’ch llyfrgell leol neu’ch siop lyfrau.

Peidiwch â phoeni os nad yw’ch un chi ar agor eto – gallwch archebu neu fenthyg llyfrau ar-lein o hyd.

Benthyca llyfrau o’ch llyfrgell

Gallwch fenthyg llyfrau, e-lyfrau a llyfrau sain i’w mwynhau am ddim o’ch llyfrgell leol.

Ewch i’n Parth Llyfrgell a defnyddio ein chwiliad defnyddiol i ddod o hyd i wasanaethau llyfrgell yn eich ardal chi.

Dewiswch eich gwasanaeth agosaf a dilynwch y ddolen i’w gwefan, lle gallwch ddarganfod mwy am ymuno ac ymweld â’ch llyfrgell leol. Byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau e-fenthyca eich llyfrgell, fel y gallwch fenthyg llyfrau tra’ch bod gartref.

Gwefannau ac apiau

Os ydych chi’n aelod o’r llyfrgell eisoes, gallwch fynd yn uniongyrchol at y benthycwyr e-lyfrau hyn a mewngofnodi gyda’ch gwybodaeth llyfrgell.

Cewch hefyd fynd yn uniongyrchol at y benthycwyr a’r masnachwyr e-lyfrau hyn i gael eich llyfrau Sialens Ddarllen yr Haf:

BorrowBox
Gyda’r ap llyfrgell BorrowBox, gallwch bori, benthyg a lawrlwytho teitlau anhygoel gan eich hoff awduron o gysur eich cartref eich hun neu pan fyddwch chi allan. Lawrlwythwch yr ap heddiw o’r App Store neu Google Play a dechreuwch fwynhau e-lyfrau ac e-lyfrau sain anhygoel ar unwaith trwy eich llyfrgell leol.

OverDrive
Chwilio am e-lyfrau a llyfrau sain? Ewch draw i OverDrive…

OverDrive ydy’r brif lwyfan ddarllen ddigidol ar gyfer llyfrgelloedd ac ysgolion ledled y byd. Rydyn ni’n cyflenwi catalog mwyaf y diwydiant o e-lyfrau, llyfrau llafar a chyfryngau digidol eraill i rwydwaith gynyddol o 43,000 llyfrgell ac ysgol trwy 70 o wledydd. Caiff defnyddwyr fynediad i wasanaethau llyfrgell OverDrive trwy ein hap arobryn, Libby.

Cefnogi siopau llyfrau lleol

I ddarganfod eich siop lyfrau lleol Cymraeg ewch i gwales.com

Bookshop.org
Siop lyfrau ar-lein yw Bookshop.org gyda chenhadaeth i gefnogi siopau llyfrau lleol, annibynnol yn ariannol.
Dewiswch eich llyfr nesaf o’r rhestrau llyfrau ar dudalen gyswllt Yr Asiantaeth Ddarllen i’n cefnogi wrth siopa heb unrhyw gost ychwanegol.

Hive
Manwerthwr moesegol, ar-lein ydy Hive, sy’n gwerthu llyfrau, e-lyfrau, DVDs, cerddoriaeth ac anrhegion. Rydyn ni’n caru’r stryd fawr, ac yn fwyaf oll, siopau llyfrau! Rydyn ni’n falch o gefnogi’r siop lyfrau annibynnol yn ein rhwydwaith, gyda chanran o’r holl werthiant a gawn ar y wefan hon. Cewch archebu ar-lein, a chasglu eich archebion yn eich siop leol, neu eu cyflenwi’n uniongyrchol i’ch cartref – naill ffordd neu’r llall, mae’r siopau’n dal i fanteisio o’ch pryniant

LoveMyRead
Mae LoveMyRead yn wasanaeth tanysgrifio llyfrau Saesneg sy’n dosbarthu gwerthwyr llyfrau gorau’r dyfodol yn syth i’ch drws bob mis ar ddiwrnod eu rhyddhau.

Mae curaduron LoveMyRead yn dewis o blith cannoedd o deitlau, gan gyflwyno’r gorau oll mewn ffuglen, ffeithiol, llyfrau oedolion a llyfrau plant, felly does dim rhaid i danysgrifwyr byth fynd ar goll mewn adolygiadau llyfrau eto. Tanysgrifiwch i flwch plentyn ar gyfer teitlau a ddewiswyd â llaw gan yr awduron plant blaenllaw Malorie Blackman a Frank Cotterell-Boyce. Am bob tanysgrifiad blynyddol newydd, mae LoveMyRead yn rhoi llyfr newydd sbon i ysgol mewn angen yn y DU.

Dychwelyd i Chwilio am lyfr

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy