Skip to content

1,046,415 books read so far

Telerau ac Amodau

Mae gwefan y Sialens Darllen yr Haf yn cael ei chynnal a’i chadw er mwyn i chi ei gweld a’i defnyddio. Mae mynediad at a defnydd o’r wefan hon ganddoch chi’n golygu eich bod yn derbyn y Telerau a’r Amodau hyn, sy’n dod i rym ar ddyddiad cyntaf eich defnydd ohoni.

Er bod gofal wedi’i gymryd wrth baratoi’r wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon, dydyn ni ddim yn gwarantu ei chywirdeb, a dydy’r Reading Agency ddim yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau neu ddiffygion nag unrhyw golled neu ddifrod a achosir i ddefnyddwyr unrhyw ran o’r wybodaeth a gyhoeddir yn y tudalennau hyn.

Mae’r holl wybodaeth ar y safle hwn yn cael ei ddarparu ‘fel y mae’, heb warant ei bod yn gyflawn, yn gywir nag yn amserol nag o’r canlyniadau a ddaw yn sgil defnydd o’r wybodaeth hon, a heb warant o unrhyw fath, p’un ai’n bendant neu ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau goblygedig ansawdd boddhaol, addasrwydd pwrpas, heb dor-cyfraith, cysondeb, diogelwch a chywirdeb.

Dydyn ni ddim yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd sydd ar y wefan hon yn ddi-dor nag heb eu gwallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nag y bydd y wefan hon na’r gweinydd sy’n ei darparu yn rhydd o feirysau nac yn cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb na dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Fyddwn ni ddim, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw golled neu niwed, gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled neu niwed uniongyrchol neu ganlyniadol, nag unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath yn codi o ddefnydd neu ddiffyg defnydd, data neu elw’n codi o neu mewn cysylltiad â defnydd gwefan Sialens Darllen yr Haf.

Bydd y Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu rheoli gan a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod a gwyd o dan y Telerau a’r Amodau hyn yn destun deddfwriaeth neilltuol llysoedd Cymru a Lloegr.

Mae’r cystadlaethau a geir ar y wefan yn amodol ar y Telerau a’r Amodau uchod, yn ogystal â’r pwyntiau ychwanegol hyn:

  • Mae cystadlaethau yn agored i drigolion y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn unig, ac mae’n rhaid i gystadleuwyr fod yn 12 oed neu iau. Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol.
  • Os byddwch yn ennill gwobr, bydd aelod o dîm Sialens Darllen yr Haf yn cysylltu â chi trwy e-bost i drefnu ei bostio atoch. Bydd unrhyw wobr na chaiff ei hawlio o fewn tair wythnos yn cael ei ail-ddyfarnu i’r ail-orau.

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy