Parth Llyfrgell
Sut i gwblhau’r Sialens drwy’r llyfrgelloedd
Lansiwyd Sialens Ddarllen yr Haf mewn llyfrgelloedd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon Ddydd Sadwrn 25 Mehefin ac mewn llyfrgelloedd yng Nghymru a Lloegr Ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf. Gall plant hefyd ymuno yn yr hwyl ar-lein, yma ar wefan swyddogol y Sialens.
I gymryd rhan gyda’ch llyfrgell leol galwch heibio’r llyfrgell a gadael iddyn nhw wybod eich bod am gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf. Byddant yn eich cofrestru ar gyfer Teclynwyr, yn eich helpu i ddod o hyd i lyfrau i’w benthyg, ac yn eich darparu â gweithgareddau darllen difyr er mwyn ichi ddechrau arni!
I dderbyn poster a sticeri casglwr Teclynwyr, mi fydd angen ichi gofrestru ar gyfer y Sialens mewn llyfrgell sy’n cymryd rhan.
Sut i gofrestru gyda’ch llyfrgell leol
Gallwch ymuno â’ch gwasanaeth llyfrgell yn rhad ac am ddim, ac unwaith y byddwch chi’n aelod o’r llyfrgell mae croeso ichi ddefnyddio unrhyw lyfrgell o fewn yr awdurdod. Bydd y llyfrgell yn gwneud hi’n hawdd iawn ichi gael cerdyn er mwyn ichi allu benthyg llyfrau.
Does dim angen cerdyn arnoch i ddarllen llyfrau, cwrdd â ffrindiau, astudio, neu ymuno mewn gweithgareddau am ddim yn y llyfrgell. Mae angen cerdyn llyfrgell arnoch i fynd â llyfrau, ffilmiau a cherddoriaeth allan o’r llyfrgell. I gael cerdyn llyfrgell mae angen ichi ymuno â’r llyfrgell. Os ymunwch chi ar-lein, mi gewch chi’ch cerdyn pan fyddwch chi’n mynd i’r llyfrgell am y tro cyntaf.
Mae’r union broses ar gyfer ymuno ar-lein yn dibynnu ar eich llyfrgell leol. Defnyddiwch y blwch ar dop y dudalen hon i ddewis eich rhanbarth a chwilio am wasanaeth llyfrgell yn eich ymyl chi. Bydd y botwm ‘Ymweld â’r Wefan’ yn mynd â chi i wefan eich awdurdod llyfrgell lleol, lle cewch wybodaeth am gofrestru ar gyfer cerdyn llyfrgell. Efallai y gwelwch chi fotwm ‘Gwneud Cais Ar-lein’, gyfeiriad e-bost, neu gyfarwyddiadau eraill.
Hyd yn oed os yw eich llyfrgell leol ar gau, mae’n bosib y gallwch chi gofrestru ar gyfer cerdyn ar-lein. Os oes gennoch chi gerdyn llyfrgell yn barod, does dim angen ichi gofrestru eto – dim ond mynd i wefan eich llyfrgell leol a chymryd golwg ar yr adnoddau am ddim sydd ar gael ganddynt. Bydd y cerdyn llyfrgell a ddefnyddiwch chi i fenthyg llyfrau yn y llyfrgell hefyd yn rhoi mynediad ar-lein ichi.
Beth yw awdurdod llyfrgell?
Mae eich llyfrgell leol yn rhan o grŵp, neu awdurdod, o nifer o wasanaethau llyfrgell sy’n agos at ei gilydd. Bydd y chwiliad Parth Llyfrgell yn dod o hyd i awdurdodau yn eich rhanbarth chi, a bydd yn dangos pa rai sy’n rhedeg Teclynwyr yn eu llyfrgelloedd.
Yna gallwch glicio i fynd i dudalen we eich awdurdod lleol chi, lle cewch wybodaeth ddefnyddiol fel oriau agor eich llyfrgell leol, a chyfarwyddiadau ar fenthyg llyfrau ar-lein ac o’r llyfrgell ei hun.
Os nad yw’r Sialens ar gael yn eich llyfrgell leol chi, gallwch gymryd rhan yn Teclynwyr ar-lein! Cofrestrwch i gael proffil gwefan a gosod eich nod darllen dros yr haf. Rhowch farc ac adolygiad ar y llyfrau rydych wedi’u darllen i ddatgloi bathodynnau a gwobrau digidol, gan gynnwys tystysgrif Teclynwyr pan fyddwch wedi cyrraedd eich nod darllen.
Sbotolau ar Lyfrgelloedd
Trwy gydol yr haf byddwn yn rhoi sylw i weithgareddau Teclynwyr anhygoel sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd!
Paratowch ar gyfer Teclynwyr drwy wylio’r fideo rhaghysbysebu swyddogol: