Amdanon ni
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant 4 i 11 oed i fwynhau buddiannau darllen er pleser.
Eleni, thema Sialens Ddarllen yr Haf yw Arwyr y Byd Gwyllt, a grëwyd mewn partneriaeth â WWF, ac a ddarluniwyd gan yr awdur plant a’r darlunydd llwyddiannus Heath McKenzie.
Bydd Arwyr y Byd Gwyllt yn ysbrydoli plant i archwilio ffyrdd o helpu i achub y blaned, gan ganolbwyntio ar weithredu dros fyd natur a thaclo problemau amgylcheddol y byd go iawn, o lygredd plastig a datgoedwigo i ddirywiad bywyd gwyllt a byd natur.
Trwy gymryd rhan yn y Sialens, bydd plant yn gallu ymuno ag Arwyr y Byd Gwyllt i helpu i ddatrys rhai o’r bygythiadau hyn, gan ddysgu am bwysigrwydd yr amgylchedd tra’n helpu i adfer lefelau natur yng nghymdogaeth ‘Caerwyllt’.
Parth Ysgol
Ewch i’n Parth Ysgol newydd i gael hyd i syniadau’r Sialens Darllen yr Haf i’ch dosbarth