Wyt ti’n barod am antur dros yr haf? Os wyt ti’n byw neu’n aros yng Nghymru, mae rhywbeth arbennig iawn ar y gweill dros y gwyliau…
Wyt ti’n hoff o ddatrys dirgelwch neu gyfansoddi cerddoriaeth? Wyt ti am greu celf neu archwilio peiriannau? Efallai yr hoffet ti weld y gofod neu fynd o dan y môr! Galli di wneud hyn (a llawer mwy!)… a mwynhau llawer o storïau gwych ar yr un pryd!
Mae dy lyfrgell leol eisoes yn trefnu llawer iawn o weithgareddau cyffrous i ddathlu Sialens Ddarllen yr Haf, a’r thema eleni yw Teclynwyr. Ac os wyt ti yng Nghymru, mae’r llyfrgelloedd yn creu Haf o Hwyl gyda’r Prosiect Teclynwyr – wythnosau lu o weithgareddau a digwyddiadau ychwanegol i danio dy ddychymyg bob dydd gydol y gwyliau (tan fis Medi) – ac mae’r cyfan YN RHAD AC AM DDIM! Cofia gadw llygad am westeion arbennig iawn (yn cynnwys dy hoff awduron!) a fydd yn ymuno yn y dathlu.
Dyma’r Haf o Hwyl! Dyma’r Prosiect Teclynwyr! Wyt ti’n barod?