Skip to content

1,046,386 books read so far

Preifatrwydd

Pa wybodaeth ydyn ni’n casglu?

Os ydych chi’n ymweld â gwefan Sialens Darllen yr Haf, rydyn ni’n casglu ac yn storio’n awtomatig yr wybodaeth ganlynol am eich ymweliad inni allu dilyn eich defnydd o’n gwefan er mwyn gwneud gwelliannau:

  1. y cyfeiriad IP rydych chi’n ei ddefnyddio i gyrraedd ein gwefan
  2. enw’r parth rydych chi’n ei ddefnyddio i fynd ar y rhyngrwyd (e.e. aol.com, os ydych chi’n cysylltu o gyfrif America Ar-lein)
  3. y math o borwr a system weithredu a ddefnyddir i gyrraedd ein gwefan
  4. dyddiad ac amser eich ymweliad â’r wefan
  5. y tudalennau, ffeiliau, dogfennau a dolenni rydych yn ymweld â nhw
  6. cyfeiriad rhyngrwyd y wefan a ddefnyddiwyd ganddoch i gysylltu â’n safle ni (h.y. y safle blaenorol ichi ymweld â hi cyn dod aton ni)

Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth a gesglir?

Ni fydd Silanes Darllen yr Haf yn gwneud unrhyw ymdrech i adnabod defnyddwyr unigol na’u gweithgareddau pori. Mae’r wybodaeth uchod yn cael ei storio a’i ddefnyddio yn ei grynswth yn unig, er mwyn darparu gwybodaeth inni am ddefnydd cyffredinol ein safle. Rydyn ni’n dadansoddi ein ffeiliau log er mwyn gwneud gwelliannau i’r safle: er enghraifft, os canfyddwn ni nad oes fawr o ddefnydd yn cael ei wneud o rai tudalennau , mae’n bosib y gwnawn ni eu dileu neu eu hailwampio.

Beth ydy cwcis?

Gall cwcis fod un ai’n gyson neu’n ddibynnol ar sesiwn. Mae cwcis cyson yn ddarnau bach o wybodaeth a anfonir at eich porwr gan wefan rydych chi’n ymweld â hi. Maen nhw’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur, yn cynnwys dyddiad dod-i-ben, a gellir eu defnyddio i ddilyn eich tueddiadau pori wedi dychwelyd at y wefan sy’n gyfrifol am eu danfon. Wrth ichi gofrestru ar wefan, mae cwcis yn caniatáu i’r wefan gofio eich gwybodaeth, fel na fydd raid ichi eu hoi i gael mynediad iddi y tro nesaf ichi ymweld. Cewch osod eich porwr i wrthod cwcis gan unrhyw wefan yr ewch iddi. Os ydych yn dewis gwneud hynny, medrwch barhau i allu cael mynediad i’r rhan fwyaf, os nad y cyfan o’r safle, ond mae’n bosib na fydd modd ichi ymgymryd â rhai mathau o drafodion (megis siopa) na manteisio ar rai o’r elfennau rhyngweithiol a gynigir. Mae cwcis sesiwn yn fyrhoedlog ac yn cael eu defnyddio fel arfer yn ystod sesiwn bori’n unig, gan ddod i ben wrth ichi gau eich porwr. Wrth gau eich porwr, mae cwci’r sesiwn yn cael ei ddifa a does dim gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw a fyddai’n bosib eich adnabod petai chi’n digwydd ymweld â’r wefan yn y dyfodol.

A ydy gwefan Sialens Darllen yr Haf yn defnyddio cwcis?

Mae gwefan Sialens Darllen yr Haf yn defnyddio cwcis sesiwn i gofnodi cynnydd trwy gydol ymweliad â’r safle.

Cyfeiriadau e-bost a gwybodaeth bersonol

Ceir log dewisol ar gyfer gwefan Sialens Darllen yr Haf, sy’n caniatáu ymwelwyr i gadw cofnod o’u cynnydd. Fel rhan o’r broses gofrestru, gofynnwn i blant roi eu hoedran, awdurdod llyfrgell, a chyfeiriad e-bost. Yn ystod y cofrestriad, mae’r wefan yn neilltuo enw defnyddiwr ar hap i blant yn awtomatig. Caiff y cyfeiriad e-bost ei ddefnyddio i gadarnhau’r cofrestriad ac i anfon e-bost atgoffa cyfrinair ar gais. I blant sy’n rhoi cynnig ar gystadleuaeth, fe fyddwn yn ei ddefnyddio i’w hysbysu os ydyn nhw wedi ennill gwobr. Os ydy plant yn mewngofnodi ar y safle, ac yn dewis anfon negeseuon ar y dudalen Sgwrs neu adael adolygiad llyfr, mae eu henw defnyddiwr yn cael ei arddangos. Gofynnwn i blant gyflwyno dyddiad geni wrth gofrestru fel y gellir teilwra argymhellion y Chwilotlyfr ar gyfer y gwahanol grwpiau oedran. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r wybodaeth hyn ar gyfer unrhyw beth arall. Ni ddefnyddir dim o’r wybodaeth a gesglir wrth gofrestru ganddon ni, heblaw yn ei grynswth, er mwyn darparu gwybodaeth i ni am ddefnydd cyffredinol ein safle. Fyddwn ni ddim yn trosglwyddo unrhyw fanylion at unrhyw drydydd parti.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd llawn yma

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy