Skip to content

1,046,386 books read so far

Ynghylch ein rhaglenni

Summer Reading Challenge

Mae Sialens Ddarllen yr Haf, a gyflwynir gan Y Reading Agency, yn cael ei chyflenwi mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus a’i noddi gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Yng Nghymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru, sy’n elusen gofrestredig, yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf trwy nawdd uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Sialens yn annog plant rhwng 4 a 11 oed i fwynhau manteision darllen fel hamdden dros wyliau’r haf, gan ddarparu llawer o hwyl a mwynhad, yn ogystal â helpu atal gostyngiad mewn darllen dros yr haf.

Pob blwyddyn, mae’r Sialens yn ysgogi dros 700,000 o blant i ddal ati i ddarllen er mwyn adeiladu eu sgiliau a’u hyder.

Eleni, thema Sialens Ddarllen yr Haf yw Teclynwyr, a grëwyd mewn partneriaeth â’r Grŵp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth ac a ddarluniwyd gan yr awdur plant a’r darlunydd llwyddiannus Julian Beresford.

Bydd y thema Teclynwyr eleni yn helpu i ennyn chwilfrydedd plant am y byd o’u hamgylch. Gydag adnoddau a gweithgareddau gan y Grŵp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth, mae’r Sialens yn canolbwyntio ar ysbrydoli plant i weld y wyddoniaeth a’r dyfeisgarwch y tu ôl i wrthrychau bob dydd, gan ddangos bod darllen a gwyddoniaeth i bawb.

Bydd y Sialens a’r casgliad llyfrau sy’n cyd-fynd ag ef yn dangos y gall dychymyg ddatgloi posibiliadau diddiwedd, a’r llyfrgell yw lle mae hyn yn dechrau. Trwy gymryd rhan yn y Sialens, gyda phecynnau am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus neu ar wefan y plant, bydd plant yn gallu ymuno â chwech o ‘Declynwyr.’ Mae’r cymeriadau yn defnyddio eu chwilfrydedd a’u rhyfeddod i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i ystod gyfan o ddiddordebau o ffasiwn a thechnoleg i goginio a cherddoriaeth.

Bydd yr Sialens yn lansio mewn llyfrgelloedd yn yr Alban ac N.I. ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin ac yng Nghymru a Lloegr ar ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf. Gall plant hefyd ymuno yn yr hwyl ar-lein, yma ar wefan swyddogol y Sialens.

Sialens Fach y Gaeaf

Mae Sialens Fach y Gaeaf yn annog plant i gadw i fyny â’u harferion darllen dros wyliau’r gaeaf, gyda gwefan rhad ac am ddim sy’n cynnwys gwobrau am ddarllen ac adolygu llyfrau.

I gymryd rhan yn Sialens Fach y Gaeaf, mae plant yn darllen tri llyfr neu fwy – gall y rhain fod yn unrhyw lyfrau o’u dewis. Bob tro y byddant yn gorffen llyfr, maent yn ei ychwanegu at eu proffil ar wefan y Sialens ac yn gadael adolygiad llyfr byr.

Bydd cyrraedd eu nod darllen ar-lein yn datgloi bathodyn rhithwir cyfyngedig a thystysgrif arbennig Sialens Fach y Gaeaf i’w hargraffu a’i chadw!

Ar gyfer Gaeaf 2021, fe wnaethom barhau â’n partneriaeth wych gyda WWF o Sialens Ddarllen yr Haf 2021. Dychwelodd cymeriadau ein Arwyr y Byd Gwyllt i archwilio natur a gweithredu dros yr amgylchedd trwy ddarllen.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl weithgareddau a chynigion plant diweddaraf yr Asiantaeth Ddarllen trwy ein dilyn ar Facebook. Facebook

Os ydy eich plentyn yn mwynhau cymryd rhan yn y Sialens Ddarllen yr Haf, medrwch fod o gymorth inni rannu’r profiad gyda hyd yn oed fwy o blant, cewch gyfrannu trwy bwyso yma.

Os hoffech roi cyfraniad mwy, adduned o gymynrodd neu gefnogi ein hymgyrch codi arian, anfonwch e-bost at Rebecca.Kendall@readingagency.org.uk.

Mae’r Reading Agency yn derbyn 100% o’ch cyfraniad. Cofiwch sicrhau caniatâd talwr y biliau.

Gofal cwsmeriaid 08448479800. Rhif Elusen 1085443.

Dychwelyd at yr Adran Amdanon ni

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy