Skip to content

1,046,386 books read so far

Cyflwyno... â'r Teclynwyr

Cyflwyno... â'r Teclynwyr

Cyflwyno... â'r Teclynwyr image

Rydym mor gyffrous i ddatgelu thema Sialens Ddarllen yr Haf 2022! Paratowch ar gyfer Teclynwyr, fydd yn cyrraedd ar-lein ac yn eich llyfrgell leol yr haf hwn. Mae gwyddoniaeth o’ch cwmpas! Beth ydych chi’n caru ei wneud? Ydych chi’n bobydd gwych? Neu gefnogwr enfawr o gerddoriaeth? Ai chi yw’r dewin technoleg ymhlith eich ffrindiau? Ymunwch â‘r Teclynwyr ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf i ddarganfod y wyddoniaeth a’r arloesedd anhygoel y tu ôl i’r byd o’ch cwmpas, gan gynnwys rhai o’ch hoff bethau! Rhyfedd? Perffaith! Gall eich dychymyg ddatgloi posibiliadau diddiwedd… Rydyn ni’n ymuno â’r Grŵp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth ar gyfer Sialens arbennig iawn ar thema wyddonol a fydd yn eich ysbrydoli i ddefnyddio’ch dychymyg a’ch creadigrwydd! Bydd Teclynwyr yn cynnwys llyfrau anhygoel, gwobrau anhygoel, a digon o syniadau ar gyfer arbrofion a gweithgareddau cŵl i ddarganfod y wyddoniaeth o’ch cwmpas. Daw’r Sialens yn fyw gan yr awdur a’r darlunydd plant gorau, Julian Beresford. Ydych chi’n gyffrous i ymuno â’r #Teclynwyr yr haf hwn? Cadwch lygad ar ein blog am holl newyddion diweddaraf Sialens Ddarllen yr Haf.

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy