Luned Aaron
Mae’r artist a’r gwneuthurwr llyfrau Luned Aaron, yn trafod yr ysbrydoliaeth a’r siwrnai a arweiniodd at greu ei llyfr diweddaraf Mae’r Cyfan i Ti (Atebol)
Daw yr artist a’r gwneuthurwr llyfrau Luned Aaron o Fangor yn wreiddiol. Bellach mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u plant. Mae hi’n arddangos ei gwaith yn aml mewn orielau ar hyd a lled Cymru, ac fe enillodd ei llyfr cyntaf i blant, ABC Byd Natur, wobr categori cynradd Tir na n-Og 2017. O ran technegau, mae Luned wrth ei bodd yn arbrofi gyda chyfryngau amrywiol, ond paent acrylig ydi ei hoff gyfrwng gan ei fod yn caniatáu iddi weithio mewn haenau sy’n cynnig naws atgofus i’r gwaith. Mae ei phaentiadau i gyd yn deillio o le cadarnhaol ac yn dathlu adegau llawen.
Llyfrau Luned
Mae’r Cyfan i Ti (Atebol) gan Luned Aaron
Mae Mae’r Cyfan i Ti yn dilyn diwrnod ar ei hyd, o wawrio’r haul ben bore tan iddi nosi yn yr hwyr, ac yn cyflwyno’r pum synnwyr trwy wahanol olygfeydd o fyd natur.
Mi ges i lawer o bleser yn creu’r gyfrol yma, a hynny yn ystod y cyfnodau clo y llynedd. Fel llawer ohonom, roedden ni fel teulu wedi cael boddhad yn ailddarganfod yr ardd a mynd am dro yn lleol, ac roedd sylwi gyda’r plant ar rai o fanylion rhyfeddol byd natur yn rhan ganolog o’r broses greu wrth imi lunio’r delweddau – o hel mwyar duon gyda’n gilydd i werthfawrogi gwead unigryw blodau a dail.
Dwi’n meddwl fod y cyfnodau clo wedi peri i ni werthfawrogi ein milltir sgwâr yn fwy nag erioed, ac roeddem fel teulu, fel y rhan fwyaf ohonom ni, yn mwynhau dod i adnabod ein milltir sgwâr yn well wrth fynd am dro. Mewn ffordd, ro’n i’n awyddus i gyfleu yn y gyfrol fod cymaint o bethau rhyfeddol o fyd natur reit ar ein stepen drws – does dim angen mynd dramor i ryfeddu!
Hefyd, o bosib, ar ryw lefel isymwybodol wrth fynd ati i greu’r llyfr, ro’n i am annog rhieni i sylwi o’r newydd ar y pethau yma yng nghwmni’r plentyn, gan ddeffro’r plentyn ynddyn nhw, o bosib. Ac yn fwriadol, dewisais gynnwys elfennau cyfarwydd i blant Cymru yn y gyfrol – pethau fel cân yr adar yn y bore, arogl rhosod neu deimlad garw rhisgl coeden.
Elfen arall sy’n dod drosodd yn gynnil yn y llyfr, dwi’n meddwl, ydi’r ffaith fod cyfrifoldeb arnom ni i ofalu am y greadigaeth ryfeddol yma, yn ogystal â’i mwynhau. Doedd hon ddim yn neges ro’n i’n ei chyfleu’n amlwg, ac yn sicr doeddwn i ddim am fod yn bregethwrol, ond mae’r neges yno o dan yr wyneb, dwi’n meddwl.
Ro’n i’n awyddus i greu cyfrol dyner, addfwyn a chadarnhaol a fyddai’n help i’r plentyn ymdawelu wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno i’r pum synnwyr. Mae’r gyfrol ar ffurf mydr, ac mae clywed rhieni’n dweud bod y rhythm sydd yn llif y llyfr yn gymorth i suo eu rhai bach i gysgu yn galondid i mi, gan mai dyma oedd rhan o weledigaeth y gyfrol.
Wrth ysgrifennu, ro’n i’n awyddus i gyfathrebu mewn modd a fyddai’n glir a diwastraff. Felly mi wnes i ofyn barn ambell riant (gan gynnwys rhieni Cymraeg ail iaith), cyn-athrawon ac ambell fardd ro’n i’n eu parchu yn ystod y broses o ysgrifennu, er mwyn cael gwahanol safbwyntiau ynglŷn â ffyrdd o symleiddio’r dweud rhyw gymaint. Ro’n i am iddi fod yn gyfrol hawdd ei darllen, a do’n i’n sicr ddim eisiau dieithrio rhieni, yn enwedig rhieni ail iaith. Dwi’n falch bod cyfieithiad syml yng nghefn y llyfr sy’n llwyddo i ehangu apêl y llyfr, gobeithio.
O ran arddull weledol y llyfr, techneg collage sydd yma gan mwyaf, gan gynnwys technegau argraffu a pheintio hefyd ar brydiau. Dwi wrth fy modd gyda thechneg collage – mae’n bosib ymgolli a gwirioneddol fwynhau’r broses yma o greu. Mewn ffordd, mae’r gyfrol yma’n ddatblygiad naturiol o’r cyfrolau yn fy nghyfres Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch), sy’n cynnwys technegau tebyg, ond bod mwy o gynnwys geiriol a stori’n perthyn i’r gyfrol yma, ochr yn ochr â’r lluniau.
Dwi’n gobeithio y bydd y darllenwyr ifanc a hŷn yn mopio o’r newydd at rai o ryfeddodau byd natur wrth fwynhau’r gyfrol gyda’i gilydd, ac y byddan nhw’n cael eu hysgogi i chwilio am rai o’r elfennau hynny eu hunain o ganlyniad i’w darllen.
Tasg Greadigol
Mae yna gymaint o ysbrydoliaeth i’w chanfod o ran darlunio a hel syniadau creadigol ynghanol byd natur. Beth am i chi ddewis hoff lecyn fel teulu, a mynd yno gyda’ch papur neu lyfr braslunio a deunyddiau fel creonau neu bensiliau lliw?
Unwaith y cyrhaeddwch eich llecyn, meddyliwch am y creaduriaid gwahanol sy’n byw yno (gall fod yn bryfyn neu’n aderyn bach neu’n greadur mwy o faint). Efallai eich bod yn gallu gweld rhai ohonyn nhw, ac os hynny, daliwch ar y cyfle i’w darlunio yn y fan a’r lle.
Nesaf, ewch ati i lunio stori fach gyda chyfres o luniau yn dangos creadur o’ch dewis yn byw a bod yn y lleoliad hwn. Beth ydi profiad yr anifail o fyw yn y lle dan sylw, tybed? Sut bethau mae’n eu gweld / arogli / clywed / blasu a theimlo yn ystod y dydd a’r nos? Ceisiwch eich gorau glas i ddychmygu ei brofiadau wrth ichi greu eich stori. Gorau oll os oes rhywbeth anodd yn digwydd i’r creadur yng nghwrs y stori, cyn iddo oresgyn y broblem honno mewn rhyw fodd. Ac wrth gwrs, peidiwch ag anghofio rhoi enw i’ch creadur!
Gallech ddefnyddio elfennau o’r lle yn eich stori hefyd – er enghraifft, beth am i chi osod dail, cerrig neu risgl coeden o dan eich papur a rhwbio drostyn nhw ar y papur gyda chreonau er mwyn cal gweadau (textures) diddorol? Ewch amdani!