Jac Jones
Adnabod Darlunydd: Jac Jones
Sut brofiad oedd darlunio’r llyfr?
Daeth Pobol Drws Nesaf o feddwl anhygoel Manon Steffan Ros. Cymaint yw ei dychymyg fel y gallai yn hawdd fod wedi ysgrifennu stori am bâr o esgidiau rhedeg a dorrodd record 100 metr y byd heb neb yn eu gwisgo, neu dwrch daear a oedd yn adeiladu twmpath pridd wyneb i waered fel nad oedd neb yn gwybod ei fod yno. Na, y tro hwn roedd y stori’n ymwneud ag estroniaid gwyrdd a phorffor. Easy peasy? Na! Er mor wallgof oedd y syniad, roedd mewn gwirionedd yn stori hyfryd am oddefgarwch a chydnabyddiaeth nad yw lliw yn cyfri.
Mae’r stori’n sôn am garedigrwydd a dealltwriaeth, a dyma sy’n ei gwneud yn bosib i Tim a Bob ddod yn ffrindiau gorau. Fe wnes i gymysgu porffor llachar a gwyrdd gwallgof i ddangos gwahaniaeth nad oedd yno mewn gwirionedd. Mae’r gath a’r ci chwe choes wedi dod yn ffrindiau, hyd yn oed – job wedi’i gwneud!
Dwed ychydig amdanat a sut ddoist ti’n ddarlunydd.
Amser maith yn ôl, pan oeddwn ynblentyn, dim ond dauddymuniad oedd geni ar gyfer fy nyfodol –bod yn ofodwr (astronaut) neu gael gwisgo crys rhif 9 i dîm pêl-droed rhyngwladol Cymru. Ni chyflawnais y naill na’r llall, ond darganfyddais ddrôr ddirgel yn nhŷ fy nain a oedd yn llawn pensiliau o wahanol liwiau, wedi’u cnoi’n rhannol. Roedd hyn yn amser cyn y teledu, consolau gemau, ffonau clyfar a McDonalds, ac felly dechreuais dynnu llun o’r hyn oedd yn fy mhen.
Mewn byr amser darganfyddais y gallwn fynd i’r lleuad y ffordd honno, neu sgorio’r penalti gorau a sgoriwyd erioed i’m gwlad. Nawr mae pob llyfr rydw i’n rhan ohono yn dod o’r un pen, ac os ydw i’n gweithio’n galed arno efallai fy mod i’n gallu ei osod yn eich pen chi – dyna fy mraint i. Pwy a ŵyr, efallai am ychydig y byddwch chi’n cerdded ar y lleuad hefyd, neu’n well fyth, y byddwch yn bwy bynnag rydych chi am fod.
Oes gyda ti gyngor ar gyfer darpar ddarlunwyr?
Meddyliwch am yr holl lyfrau rydych chi wedi’u darllen. Meddyliwch hefyd am yr holl wahanol fathau ac arddulliau
o ddarluniau rydych chi wedi’u mwynhau. Fe wnaethon nhw, efallai, i chi chwerthin, teimlo’n hapus, yn drist, neu hyd yn oed ychydig yn ofnus.
Os penderfynwch yr hoffech chi fod yn ddylunydd llyfrau a darlunydd mae’n fantais bod mor amryddawn ag y gallwch. Mae pob syniad yn cychwyn fel lle gwyn gwag; mae hynny’n dal i fy nychryn, hyd yn oed ar ôl yr holl amser. Eich her fydd creu rhywbeth i wneud i’r darllenydd fynd “Waw!” Os y gallwch chi hefyd fynd “Waw!” rydych yn enillydd. Ewch amdani!