Casgliad Llyfrau 2025
Crefftwyr Campus
Tyrd o hyd i gasgliad llyfrau Cymraeg y Gardd o Straeon!
Tyrd i ddechrau antur ddarllen newydd yr haf hwn. Cei ryfeddu at y byd natur sydd o dy gwmpas, a chrwydro yn yr awyr agored gyda chasgliad llyfrau Cymraeg Sialens Ddarllen yr Haf, sydd wedi eu dewis gan Gyngor Llyfrau Cymru!
Sgrolia i lawr er mwyn edrych drwy’r teitlau!
Mae llawer o’r llyfrau hyn ar gael i chi eu mwynhau – am ddim! – drwy eich gwasanaeth llyfrgell leol. Ewch i wefan neu ap eich llyfrgell leol i bori drwy ei chatalog ar-lein.
Mae’n bosibl bod eich llyfrgell yn cynnig gwasanaeth Clicio a Chasglu er mwyn i chi gasglu eich llyfrau a’u mwynhau gartref. Cadwch olwg am fersiynau e-lyfr a llyfrau llafar hefyd.
Ewch â fi i…
- Llyfrau Stori a Llun – llyfrau wedi’u darlunio, perffaith ar gyfer darllen yn uchel.
- Llyfrau Darllen Cynnar – straeon byrrach, perffaith ar gyfer darllenwyr newydd.
- Llyfrau Canolradd – penodau hirach, perffaith ar gyfer darllenwyr hyderus.
Bydd y Sialens yn dechrau ar 21 Mehefin yn yr Alban ac 5 Gorffennaf yng Nghymru a Lloegr. Gallwch gymryd rhan naill ai yn y llyfrgell neu ar-lein.
Mwy o wybodaeth yma.
Chwiliwch am fwy o awgrymiadau am lyfrau
Rhowch dro i’r Llwythwr Llyfrau!
Mae’r holl lyfrau y mae’n eu hargymell wedi cael eu graddio a’u hadolygu gan blant ar y wefan hon.