
Gradd Canol 2025
Chwedlau’r Copa Coch: Oes yr Eira Elidir Jones
Yn dilyn Yr Horwth a Melltith yn y Mynydd, mae arwyr y Copa Coch yn mentro o’u cartref am y tro cyntaf, ar drywydd dirgelwch sy’n cuddio ym mryniau a chorsydd teyrnas Bryn Hir.

Cors Caron Meleri Wyn James
‘Ble yffach wyt ti, Caron fach? O, na… Dwyt ti ddim ar y gors, wyt ti?! Gobeithio i’r nefoedd nad wyt ti ar y gors.’ Mae’r gors hudolus fel cartref i Caron 15 oed ac Iwan, ei ffrind gorau. Sut y gall hi fod ar goll yno felly? Nofel ddirgelwch sy’n symud yn gyflym rhwng dau fyd, ac am berthyn, cariad a’r newid yn ein hagwedd at yr amgylchedd.
Cyfres Genod Gwyrdd: Achub Afon! Holly Webb
Mae’r pethau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth MAWR! Mae Ffion yn cael sioc o weld yr holl sbwriel a llanast sy’n llenwi’r afon leol. Pan mae ci ei ffrind bron â boddi oherwydd hen feic rhydlyd, mae hi’n benderfynol o newid pethau er gwell. Ond sut y gall un person berswadio cymuned gyfan i achub yr afon?
Cyfres Strach: Yr Haf Gorau Erioed Gwenno Hughes
Nofel gyffrous wedi’i lleoli yn ardal Tregaron am anturiaethau criw o blant. Mae’r suon am drysor, cyffuriau a chyfrinachau o’r gorffennol yn peri i wyliau’r haf wibio heibio – yr haf gorau erioed!
Cynefin, Cymru a’r Byd Gwasg Carreg Gwalch
Dechrau wrth ein traed ac ehangu gorwelion i bob cwr o’r ddaear yw nod y gyfrol hon. Mae’n cynnwys holl elfennau Daearyddiaeth: nodweddion ffisegol, dinasyddiaeth a’r amgylchedd naturiol.
Dirgelwch y Dieithryn Elgan Philip Davies
Pan mae Iwan, Mair a’i ffrindiau’n gweld dyn dieithr, blin yn y tŷ gwag wrth y parc maen nhw’n gwybod yn syth beth yw e lleidr! Eu tasg nhw dros wyliau’r haf yw ei ddal. Rhaid cael cynllun, a hynny ar unwaith – ymunwch â‘r ffrindiau yn eu hantur gyffrous!
Galwad yr Alarch Gill Lewis
Nofel fer yw hon am gymeriadau crwn sy’n denu’r darllenwyr i deimlo eu bod yn rhan o’r stori. Mae Dylan dan y don. Ers iddo ddechrau yn yr ysgol uwchradd, mae popeth wedi mynd yn drech nag ef. Erbyn hyn mae wedi cael ei ddi-arddel o’r ysgol ac mae’n rhaid i’w fam ac yntau symud i bentref bychan ar arfordir gorllewin Cymru. Yno y magwyd ei fam ac yno mae ei daid yn byw.
Hedyn Caryl Lewis
Dyma nofel gyntaf yr awdures doreithiog ar gyfer yr oed yma. Ar ei ben-blwydd mae Marty yn derbyn hedyn gan ei dad-cu – hedyn hudol. Nofel ddoniol, anghyffredin, sy’n ysbrydoli ac yn codi pynciau dwys. Mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydion.
Hufen Afiach Dai Meilyr Siôn
Llyfr ysgafn a dilyniant i Hufen Afiach. Mae’r stori’n dilyn helyntion y cawr, Dai Bola Bach, a’i wraig, Blodwen Bling, y cwpwl anghyffredin sy’n rheoli canolfan awyr agored i blant o’r enw Gwersyll Hyll Glan Llan.
Manawydan Jones: Y Twrch Trwyth Alun Davies
Dilyniant i’r nofel Manawydan Jones: Y Pair Dadeni. Mae Manawydan yn byw’n fodlon ei fyd ar Ynys Fosgad ymysg y Cyfeillion a’i ffrindiau pennaf, Alys a Mogs. Ond daw si ar led bod Gweuflyn, arweinydd y Marchogion, yn ceisio creu fersiwn cyfoes o’r Twrch Trwyth er mwyn achosi dinistr ac anrhefn ar hyd a lled y wlad. A fydd Manawydan a’r Cyfeillion yn gallu ei atal?
Nico Leusa Fflur Llewelyn
Mae Nico yn cydblethu digwyddiadau ar lan Llyn Celyn heddiw ag elfennau ffantasi gwlad Selador.
Rhedyn, Merlyn y Mawn Myrddin ap Dafydd
Nofel am byllau glo ardal yr Wyddgrug yng nghyfnod Terfysg 1869, gan ddilyn merlyn a gaiff ei yrru o fynydd Hiraethog i weithio dan ddaear.
Sara Mai ac Antur y Fferm Casia Wiliam
Mae Sara Mai yn ôl, a’r tro hwn mae Blwyddyn 5 yn mynd ar drip diwedd tymor i fferm gyfagos. Ochr yn ochr â lluniau gan Gwen Millward, ceir y doniol a’r dwys yng nghwmni llond gwlad o anifeiliaid.
Trwy’r Darlun Manon Steffan Ros
Nofel ffantasi am fachgen sy’n cael ei ddenu i wlad o hud a lledrith. Awn gyda Cledwyn a Siân drwy’r darlun ac ar hyd twnnel i wlad Crug. Yno cawn gwrdd â Gili Dŵ caredig – cymeriad rhychiog a moel, byr ond hynod o gryf.
Y Llwynog Melfed Catherine Fisher
Wedi iddi achub Tomos o’r swyn a roddwyd arno, mae Seren Rhys yn mwynhau ei haf cyntaf ym Mhlas-y-Frân. Ond pan ddaw’r hydref, daw athrawes newydd, ryfedd yno sy’n benderfynol o dynnu Tomos oddi wrth Seren ac oddi wrth ei deulu. Mae Seren yn galw ar y frân glocwaith i’w helpu, ond a all hi gyrraedd mewn pryd a helpu Tomos i ddianc?
Y Llwynog Tân Olaf Lee Newbery
Daw Charlie yn warcheidwad cenau llwynog tân, a rhaid iddo ei amddiffyn yn ddewr rhag heliwr arallfydol… Stori dwymgalon am deulu, cyfeillgarwch a chanfod eich egni mewnol.
Yn Llais yr Anifail Amrywiol
Straeon yn llais yr adar a’r anifeiliaid yw’r gyfrol hon. Yn y chwedlau Celtaidd, mae anifail neu aderyn yn amlwg iawn. Cawn ryfeddu at y galluoedd neu’r pwerau anarferol sydd gan y creaduriaid, ac at eu dylanwad ar wahanol gymeriadau. O glywed llais yr anifail neu’r aderyn, cawn olwg newydd sbon ar y straeon arbennig hyn.
Y Planhigyn Mihangel Morgan
Nofel yn seiliedig ar stori wir, tybed … ?