Y Llwynog Melfed
Catherine Fisher (Author), Mared Llwyd
Wrth i’r hydref gyrraedd Plas-y-Frân, daw athrawes newydd sydd fel pe bai’n benderfynol o achosi trafferth i Seren Rhys, y plentyn amddifad. Daw â thegan gyda hi – carwsél sydd â swyn tywyll. Wrth ofni’r gwaethaf, galwa Seren ar y Frân Glocwaith i’w helpu – ond a fedr ef gyrraedd mewn pryd, ac achub Plas-y-Frân rhag yr hud peryglus … a’r Llwynog Melfed sinistr?