Skip to content

1,046,425 Llyfr wedi’u Darllen

Llun a Stori 2025

Am Dro gyda Maia / Maya’s Walk    Moira Butterfield

Mae Maia wrth ei bodd yn mynd am dro gyda Dad. Wrth chwilio am chwilod yn y goedwig neu’n gwrando ar synau’r stryd – mae pob dim yn antur! Bydd y stori hon a’i darluniau prydferth yn ein hatgoffa sut gall crwydro yn yr awyr agored wneud cymaint o les i ni.

 




Ble Wyt Ti, Bwci Bo? Where Are You, Bwci Bo?  Joanna Davies


Yn llawn dop o odlau a hwyl a sbri, dyma gyfrol lliwgar i blant bach, sy’n eu cyflwyno i themâu fel diogelu byd natur a’r blaned.


 




Brig-Ddyn  Julia Donaldson


Un bore mae Brig-ddyn yn mynd hyd y ddôl. Gwylia, O! gwylia. Beth sy’n dod ar dy ôl? Mae’r byd yn fyd peryglus i Brig-ddyn. Mae ci eisiau chwarae ag e. Mae alarch yn gwneud ei nyth gydag e. Mae e hyd yn oed yn mynd ar dân! A gaiff e fyth ddychwelyd i goeden y teulu? 


 




Can Troedfedd o’r Llawr / Hundred Feet Tall  Benjamin Scheuer


Dwyt ti byth yn rhy fach i wneud gwahaniaeth mawr! Mae’r stori hon yn dilyn teulu o gwningod wrth iddyn nhw ddod o hyd i hedyn a’i helpu i dyfu i fod yn goeden fawr. Llyfr stori-a-llun ysgafn sy’n dangos i ni y gall hyd yn oed yr hedyn lleiaf, gyda gofal, dyfu i sefyll gan troedfedd o’r llawr.


 




Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll  Carys Haf Glyn
Mae’r wenynen yn drist. Mae hi wedi colli ei ffrindiau i gyd, felly mae’n gofyn i Griw’r Coed – Gwdi-Hw, Carwww, Mwyalchen, Eryr a Chwim yr Eog – am eu help. Llyfr lliwgar a thestun hwyliog sy’n dysgu gwers bwysig am yr amgylchedd.


 




Cyfres Deian a Loli: Deian a Loli a Bai ar Gam  Angharad Elen


Mae Deian a Loli, yr efeilliaid direidus sydd â phwerau hudol, yn cael antur wrth ddysgu am fyd natur, ac am adar yn benodol. Moeswers y stori yw i ofalu ar ôl pethau personol ac hefyd i beidio â rhoi bai ar gam. 


 




Cynan a’r Lindysyn  Julia Rawlinson


Mae Cynan yn dod o hyd i lindysyn o dan ddeilen yn y goedwig. Gyda help ei ffrindiau, mae Cynan yn gwneud ei orau i’w gael i ddod i chwarae. Ond dim ond gwneud sŵn hansh hansh mae’r lindysyn am ei wneud. Mae Cynan yn poeni, ond wrth i’r gwanwyn droi’n haf, mae rhywbeth arbennig iawn ar fin digwydd! Stori dymhorol llawen gyda thestun telynegol a lluniau tyner. 


 




Dere i Dyfu  Adam Jones


Llyfr lliwgar, llawn ffeithiau a lluniau i helpu plant dan 7 oed i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau. Dangosir hefyd sut i ofalu am yr ardd, yng nghwmni dau gymeriad bach hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga. Mae Adam Jones yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae’n postio cynghorion garddio dan yr enw @adamynyrardd. Llyfr arbennig i bob plentyn.


 




Dwi’n Gweld Malwoden / I Spot a Snail  Kay Vincent


Canllaw cyntaf i blant bach sy’n caru byd natur. 


 




Dysgu gyda Cyw: Antur Wyllt Bolgi  Anni Llŷn


Mae Bolgi a chriw Cyw yn mynd ar daith gerdded yn y goedwig ac yn dod o hyd i gliwiau sy’n eu harwain at anifeiliaid o bob math.


 




Dysgu gyda Sali Mali: Byd Natur  Casia Wiliam


Dewch am dro gyda Sali Mali a’i ffrindiau i ddarganfod rhyfeddodau byd natur. Dyma gyfle i fwynhau a dysgu ffeithiau difyr am bob math o greaduriaid, coed a phlanhigion.


 




Cyfres Deian a Loli: Deian a Loli a Bai ar Gam  Angharad Elen


Mae Deian a Loli, yr efeilliaid direidus sydd â phwerau hudol, yn cael antur wrth ddysgu am fyd natur, ac am adar yn benodol. Moeswers y stori yw i ofalu ar ôl pethau personol ac hefyd i beidio â rhoi bai ar gam. 


 




Gardd Gwenno by Isla McGuckin


Mae Gwenno’n byw mewn stafell lwyd, ddiflas, mewn tŷ sydd ddim yn gartref, ond mae’n breuddwydio am fywyd gwell… yn llawn mannau hapus, tawel… a rhywle i chwarae. Ond mae pob hedyn mae Gwenno’n ei blannu yn gwrthod gwreiddio, ac mae ei breuddwydion yn mynd yn bellach o’i chyrraedd.


Gardd Gwenno

Isla McGuckin, Catalina Echeverri, Anwen Pierce

  1. star 1
  2. star 2
  3. star 3
 




Gwenynen / Bee  Brendan Kearney


Mae Eifion a’i gi, Sboncyn, yn mwynhau picnic tawel yn y parc gydag wyrion Eifion. Ond yna, maen nhw’n clywed sŵn suo. GWENYN! Wrth i chwilfrydedd droi’n syndod, maen nhw’n darganfod y rheswm dros yr haid o bryfed … Ymuna ag Eifion a Sboncyn wrth iddyn nhw ddysgu beth allan nhw ei wneud i ddiogelu’r gwenyn. Maen nhw’n awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd. Beth wnei di?


 




Huwcyn Puw  Charlotte Middleton


Mae moch cwta Llan-chwyn wrth eu boddau’n bwyta dail dant y llew, ac mae synau crensh a mynsh i’w clywed o fore gwyn tan nos… ond yn ara’ bach, mae’r planhigion blasus yn diflannu o’r fro. A all un mochyn cwta dewr a chraff o’r enw Huwcyn Puw achub y dydd?


 




Lifia Ann a’r Gwenyn  Catherine Jacob


Os bydd unrhyw drychfilyn mewn helynt neu drwbwl daw Lifia Ann O’Hwligan i’w helpu ar y dwbwl! A nawr mae’r gwenyn mewn perygl o golli eu cartref! Gyda dim ond ei chwyddwydr hud, a fydd Lifia yn llwyddo i helpu ei ffrindie rhag colli eu cartref? Dewch i weld! Ar dudalennau blaen a chefn y llyfr hwn, fe ddewch chi ar draws ffeithiau syfrdanol am drychfilod o bob lliw a llun.


 




Ni a Nhw  Sioned Wyn Roberts


Ni ‘dyn ni… a nhw ’dyn nhw. A s’mo ni’n gwneud dim ‘da nhw.Pwy yw’r nhw brawychus sy’n codi ofn ar bawb? Mae’r twrch daear yn tyllu i fyny drwy’r pridd a’r wiwer goch yn dringo i lawr y goeden i chwilio am y nhw. Ac yn darganfod bod nhw yn eitha tebyg i ni!




Straeon Bach y Byd: Y Broga Sychedig / The Thirsty Frog  Kathryn Jewitt


Mae chwedl Tidalik, y broga sychedig yn dod o gymuned y Gunai / Kurnai yn ne-ddwyrain Awstralia. Nhw yw’r genedl gyntaf o Awstraliaid, oedd yn byw yn y wlad cyn neb arall. Mae adrodd straeon yn elfen bwysig i’r gymuned Gunai/Kurnai. Mae’r straeon sy’n cael eu hadrodd yn aml yn cynnwys natur ac anifeiliaid. Stori cyn cysgu sy’n dysgu am bwysigrwydd rhannu.


 




Y Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd  Lleucu Lynch


Mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, ac mae llond lle o waith i’w wneud yn yr ardd, ond mae’r Ci Bach dan draed! Wel, dyna mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei feddwl, o leia’. Ond tybed a fydd y Ci Bach yn medru rhoi help llaw i’r Dyn Dweud Drefn wedi’r cwbl?


 




Y Goeden Ioga  Leisa Mererid


Llyfr stori a llun sy’n cyflwyno symudiadau ioga syml i blant ac oedolion. Mae’r llyfr annwyl hwn yn mynd â ni i fyd natur a chylch bywyd yr hedyn wrth iddo egino a thyfu’n goeden fawr gryf a thyfu dail. Buan iawn daw’r Hydref a’i wynt i chwythu’r hadau ac ailgychwyn ar gylch bywyd natur unwaith eto.


 




Y Sgwarnog Aur  Paddy Donnelly


Cychwynnodd Meara a Taid ar daith i ddod o hyd i’r Ysgyfarnog Aur – creadur chwedlonol sy’n newid ei siâp ac a all neidio i’r lleuad mewn dwy naid a hanner! Ar hyd y daith, maen nhw’n darganfod pob math o drysorau yn y coed, o dan y ddaear ac yn y tonnau. A phwy a ŵyr lle gallai’r Ysgyfarnog Aur glyfar fod yn cuddio. 




Yr Ardd Anweledig  Valérie Picard


Ar ei phen ei hun yng ngardd ei nain, mae Elsi wedi diflasu’n lân. Ond gyda chymorth carreg fach ddel, mae’n darganfod gardd hudolus ynghudd ymhlith y blodau. Aiff Elsi ar daith ryfeddol sy’n ei chludo’n ôl trwy amser. Caiff ras gyda cheiliogod y rhedyn ac aiff ar antur anhygoel wrth iddi farchogaeth deinosoriaid a hela sêr. Caiff ei diwrnod ei drawsnewid yn llwyr mewn ffyrdd annisgwyl.


 




Yr Ardd Hud: Broga  Shann Jones


Mae Macsen, Isabella ac Elis wrth eu boddau’n ymweld ag ‘ardd hud’ Mam-gu. Un diwrnod, dyma’r plant yn cwrdd ag ymwelydd annisgwyl ym mhwll yr ardd – broga o’r enw Wil. Er syndod, dyma Wil yn mynd â’r tri ar antur hudolus drwy gylch bywyd y broga, gan ddysgu sawl ffaith wych amdano ar y daith.