
Darllenwyr Cynnar 2025
Bwystil Bryn Bugail Meilyr Sion
Warden ym Mharc Cenedlaethol Bryn Bugail yw tad-cu Owain ac yno yn ystod y gwyliau lleolir yr helyntion – dwyn pysgod ac anifeiliaid, pwma mawr du yn troedio’r mynyddoedd a lladron cefn gwlad yn cael eu dal.
Camau Corsiog Meilyr Siôn
Pwy sy’n byw yn Y Gors? Mae yno sioncyn y gwair sy’n rapio, pysgod sy’n herio’i gilydd o dan y dŵr, gwas y neidr sy’n ofni uchder, a llwyth o greaduriaid difyr eraill. Dewch am dro i’r Gors yn y casgliad hwyliog hwn o straeon byrion.

Cnwcyn a’i Ffrindiau Meinir Pierce Jones
Cnocell y coed yw Cnwcyn sy’n byw mewn coedlan hyfryd. Mae bywyd yn braf i Cnwcyn a’i ffrindiau hyd nes bod ymwelwyr â‘r ardal yn newid eu bywyd yn llwyr! Stori hyfryd sy’n ymwneud â chyfeillgarwch a sut mae pawb, drwy gydweithio â‘i gilydd, yn ennill y dydd.
Coeden Cadi Bethan Gwanas
Mae Cadi’n hoffi dringo coed, ond un diwrnod caiff ei chwythu i Wlad yr Enfys lle mae hi’n gorfod dysgu gwers bwysig.
Cyfres Maes y Mes: Mwyaren a’r Lleidr Nia Gruffydd
Mae hi’n hydref yng nghoedwig Maes y Mes, ac mae Mwyaren yn edrych ymlaen at gasglu mwyar duon i wneud teisen flasus. Ond mae helbul mawr yn y goedwig. Mae Swnyn ar goll. Ac mae rhywun yn dwyn teisennau oddi ar sil ffenest Nain Derwen. A fydd Mwyaren yn dod o hyd i Swnyn ac yn datrys dirgelwch y lleidr?
Cyfres Roli Poli: Bwch Anni Llŷn
Bwch gafr bach yw Bwch sy’n byw ar fferm Tyddyn Od gyda’i berchennog blin Cefin y Dewin. Mae pob un o’i ffrindiau ar y fferm wedi torri record byd. Dyma’r Anifeiliaid Ansbaradigaethus. Mae Bwch yn ysu i fod yn arbennig hefyd. Un diwrnod mae Sali a’i sglefrfwrdd yn cyrraedd y fferm ac mae Bwch yn darganfod ei fod o’n seren wedi’r cyfan! Y gwir yw bod gan bawb ei dalent ei hun.
Cyfres Rwdlan: 14. Dan y Dail Angharad Tomos
Mwy o anturiaethau’r Dewin Dwl, Rala Rwdins a Rwdlan mewn llyfr newydd am y Tŷ Pen Coeden yng nghyfres Rwdlan. Mae Rala Rwdins yn adeiladu tŷ coeden i’r Dewin Dwl gael chwarae ynddo. Mae’n cael amser cyffrous yng nghanol y coed a’r dail, ond mae’n dringo rhaff i mewn i dŷ rhywun arall. Camgymeriad dwl iawn!
Dymuniad Dylan: I Ble Aeth Yr Adar? Joanna Davies
Cyfrol ffuglen wyddonol ynghyd â darluniau am Dylan, bachgen 10 oed, sy’n darganfod bod ganddo’r gallu hudol i wneud i’w ddymuniadau ddod yn wir. Ond tybed beth sy’n digwydd pan fo’n dymuno cael gwared ar bethau sy’n ei ddigio?
Edrych! Ecolegydd Ydw I! DK – Foreword by Iolo Williams
Gydag YMENNYDD gwych a SYNHWYRAU arbennig – rwyt ti wedi dy eni i fod yn ecolegydd anhygoel! Brysia i ti gael CYFFWRDD, AROGLI, GWELD, CLYWED a BLASU dy ffordd i fod yn ecolegydd anfarwol. Cei ddarganfod: SUT i greu dy gompost dy hun. BETH sydd angen ar blanhigion i dyfu. PAM fod gwenyn a ieir bach yr haf mor bwysig. A llawer, llawer mwy!
Fferm Cwm Cawdel: Amser Da Gwennan Evans
Dydi Ffion y ffermwraig ddim yn gallu mynd ar ei gwyliau, oni bai ei bod hi’n mynd â‘r holl wartheg gyda hi. Does dim amdani felly ond gwyliau gwirion i bawb! Y tro hwn maen nhw’n mynd i ERYRI.
Edrych! Ecolegydd Ydw I! DK – Foreword by Iolo Williams
Gydag YMENNYDD gwych a SYNHWYRAU arbennig – rwyt ti wedi dy eni i fod yn ecolegydd anhygoel! Brysia i ti gael CYFFWRDD, AROGLI, GWELD, CLYWED a BLASU dy ffordd i fod yn ecolegydd anfarwol. Cei ddarganfod: SUT i greu dy gompost dy hun. BETH sydd angen ar blanhigion i dyfu. PAM fod gwenyn a ieir bach yr haf mor bwysig. A llawer, llawer mwy!
Gwyrdd Ein Byd Duncan Brown
Ydych chi wedi clywed am y pysgodyn hynafol sy’n byw yn Llyn Tegid? Beth am yr aderyn sy’n nythu mewn tyllau cwningod ar Ynys Sgomer? Ac oeddech chi’n gwybod bod gennym ni fforestydd glaw yma yng Nghymru? Dewch am dro drwy Gymru gyda’r naturiaethwr Duncan Brown. O’r môr i’r mynydd ac o’r trefi i’r ffermydd, mae bywyd gwyllt rhyfedd.
Llanddafad Gareth Evans-Jones
Dewch i gwrdd â Bet, brenhines y defaid, Enfys, y ddafad amryliw, Seren, y ddafad lawn steil, Tomos Tatws, Mari fach, a llawer mwy! Mae 12 stori yn y gyfrol hon, pob un yn canolbwyntio ar fis o’r flwyddyn, ac felly mae digon o amrywiaeth pynciau sy’n mynd â‘r plentyn drwy’r flwyddyn ym myd fferm o ddefaid.
Mae Mwy i’r Wy Nicola Davies
Dilynwch ei hanturiwr ifanc wrth iddi archwilio wyau o bob lliw a llun, lle mae dod o hyd iddyn nhw, a beth yw’r cyfrinachau maen nhw’n eu cuddio. Wedi’r cyfan, mae mwy i’r wy!
Merch y Mel Caryl Lewis
Mae Elsi’n byw gyda’i mam-gu, sy’n gofalu ar ôl gwenyn. Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy’n digwydd yn yr ardd yn ystod y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.
Mira a’r Goeden Luned Aaron
Yn y stori hon, mae’r teulu yn mynd i wersylla. Ond sut fydd Mira yn ymdopi mewn pabell? Ac a fydd hi’n dod yn ffrindiau ag aelodau’r teulu arall sy’n gwersylla gyda nhw? Efallai y bydd coeden arbennig yng nghanol y goedwig yn help iddi …
Nefoedd yr Adar Ceris James
Mae un aderyn bach yn y goedwig yn cael syniad gwych o greu band, ond tybed a fydd y criw yn cael llwyddiant wrth gystadlu yn eisteddfod y goedwig?
Y Gragen Casia Wiliam
Ond ni ddes adre’n waglaw, o’r gwyliau ger y lli, roedd cragen yn fy mhoced a rhywbeth ynddi hi. Dyma stori mewn mydr ac odl am blent yn o’r ddinas fawr yn ymweld â thraeth mewn pentref ar lan y môr am y tro cyntaf. Yno mae’r plant yn chwerthin wrth fwyta hufen iâ, y gwymon yn gwichian a byd natur yn canu’n un. Mae cod QR yng nghefn y llyfr sy’n arwain at adnoddau addysg ar-lein.
Y Gwningen a’r Arth: Beth yn y Byd? Julian Gough
LLONYDD A THAWELWCH, gwaeddodd y Gwningen, DYNA’R CYFAN DWI EISIAU. Stori ddoniol am gwningen ac arth, ac am gnocell y coed swnllyd sy’n gosod prawf ar gyfeillgarwch y ddau ffrind.
Y Lanternwyr Karin Celestine
Wrth i’r goleuni gilio o’r tir, mae llonyddwch oer, llwm y gaeaf yn disodli ffrwythlondeb yr hydref. Ond yn nyfnder y ddaear, yn yr holltau a’r tyllau lle mae’r creaduriaid bach yn byw, mae’r goleuni’n parhau, yn cael ei anwylo a’i amddiffyn. A phan ddaw galwad y Sgwarnog, mae’r rheiny sy’n ei warchod yn ymateb. Stori o obaith.
Y Pwll Nicola Davies
Llyfr teimladwy yw Y Pwll am fachgen ifanc, a’i deulu, wrth iddo ddygymod â cholli ei dad. Mae’r llyfr yn lliwgar, yn emosiynol, yn rymus ac yn llawn lluniau natur; mae’n mynd i’r afael â themâu anodd marwolaeth a cholled, ond hefyd â bywyd, cariad a phwysigrwydd byd natur.