Casgliad Llyfrau Ar eich marciau, Darllenwch!
Casgliad Llyfrau Ar eich marciau, Darllenwch!
Paratowch am lwyth o ysbryd tîm, eich hoff arwyr (neu beidio!) chwaraeon, a digon o hwyl gyda’n casgliad diweddaraf ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2023 ar thema chwaraeon a gemau: Ar eich marciau, Darllenwch!  
 
Mae pob llyfr wedi’i ddewis yn arbennig i bawb sy’n cymryd rhan eu mwynhau. 
Mae llawer o’r teitlau hyn hefyd ar gael i chi eu mwynhau – am ddim! – drwy eich gwasanaeth llyfrgell lleol. Ewch i wefan neu ap eich llyfrgell leol i bori drwy eu catalog ar-lein. 
 
 Mae’n bosibl bod eich llyfrgell yn cynnig gwasanaeth Clicio a Chasglu, felly gallwch chi godi’ch llyfrau i’w mwynhau gartref. Cadwch lygad am fersiynau e-lyfr a llyfrau sain hefyd. 
 
Gallwch ddod o hyd i ganllaw defnyddiol i gael mynediad at lyfrau gartref ar ein tudalen Llyfrau yma. 
Ewch â fi i…
- Llyfrau Stori a Llun – llyfrau wedi’u darlunio, perffaith ar gyfer darllen yn uchel.
- Llyfrau Darllen Cynnar – straeon byrrach, perffaith ar gyfer darllenwyr newydd.
- Llyfrau Canolradd – penodau hirach, perffaith ar gyfer darllenwyr hyderus.

Bydd y Sialens yn dechrau ar 24 Mehefin yn yr Alban ac 8 Gorffennaf yng Nghymru a Lloegr. Gallwch gymryd rhan naill ai yn y llyfrgell neu ar-lein.  
Mwy o wybodaeth yma. 
Chwiliwch am fwy o awgrymiadau am lyfrau
Rhowch dro i’r Llwythwr Llyfrau!  
Mae’r holl lyfrau y mae’n eu hargymell wedi cael eu graddio a’u hadolygu gan blant ar y wefan hon.  
 
       
       
      