Skip to content

1,046,415 books read so far

Llun a Stori 2023

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a’r Gêm Fawr  Morgan Tomos

Wrth fynd i weld gêm rygbi gyda’i dad, mae Alun yn breuddwydio am wisgo’r crys coch a chwarae dros Gymru! Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2006.

 




Sara Jones – Seren Chwaraeon  Morag Hood


Y trydydd teitl yn y gyfres o lyfrau llun-a-stori bywiog, dwyieithog am Sara Jones. Y tro hwn, mae Sara yn serennu ym myd y campau, wrth iddi ymarfer ar gyfer ras farathon. Addasiad Cymraeg Elin Meek o Sara Jones, Sports Superstar.


 




Yr Anweledig  Tom Percival


Pan fo raid i Erin a’i theulu symud i ochr draw’r ddinas, mae Erin yn dechrau teimlo… yn anweledig.


 




Gwylia, Gwion!  Jessie James


Mae teulu’r Llygod yn symud tŷ heddiw, ac mae antur yn y jyngl o’u blaenau nhw. Mae Mrs Llŷg wedi gofyn i bob un ddal yn sownd yng nghynffon y llall rhag i neb fynd ar goll. Ond daliwch yn sownd, ble mae Gwion? Mae Gwion bach yn colli ei ffordd ac wrth iddo geisio cyrraedd ei deulu annwyl, mae’n mynd i drafferth o hyd. Bydd yn ofalus a gwylia, Gwion!


 




Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a’r Gêm Bêl-Droed  Morgan Tomos


Mae Alun wedi cael ei ddewis i ymarfer gyda thîm pêl-droed Cymru. Ond dyw e ddim yn chwarae’n dda iawn felly mae’n penderfynu bod yn ddyfarnwr. Ond sut ddyfarnwr yw Alun tybed? Dyma’r 24ain yng nghyfres boblogaidd Alun yr Arth.


 




 Ffan Bach Pêl-Droed Cymru  Mark Williams


 Mae’r ffan bach o Gymru yn cael cyfle i weld tîm pêl-droed Cymru yn chwarae mewn gêm fawr! Stori i blant 3-5 oed.


 




Cyfres Cyw: Mabolgampau Plwmp  Anni Llŷn


Mae’r gyfrol yn llawn lluniau lliw o daenlenni tudalennau dwbl yn dangos Cyw a’i ffrindiau yn cadw’n heini wrth gystadlu yn y mabolgampau. Pa mor llwyddiannus fyddan nhw, yn arbennig Plwmp yr Plwmp yr eliffant?


 




Cyfres Deian a Loli: Deian a Loli a’r Bai ar Gam   Angharad Elen


Mae Deian a Loli, yr efeilliaid direidus sydd â phwerau hudol, yn cael antur wrth ddysgu am fyd natur, ac am adar yn benodol. Moeswers y stori yw i ofalu ar ôl pethau personol ac hefyd i beidio â rhoi bai ar gam. Cyfrol wreiddiol Gymraeg, lawn lliw, ar gyfer plant hyd at 8 oed.


 




Sara a’r Stranc   Nadia Shireen


Mae Sara yn cael diwrnod gwael. I ddechrau, roedd problem gyda’i hosan, yna roedd un bysen fach ryfedd ar ei phlât… Ac yn sydyn, daeth y Stranc i darfu arni! Beth all Sara ei wneud ar ddiwrnod fel hwn? Mae gan Sara lawer i’w ddysgu am stranciau yn y llyfr doniol hwn sy’n taclo hwyliau drwg, gan Nadia Shireen. Addasiad Cymraeg gan Endaf Griffiths.


 




Diwrnod y Sioe / Show Day  Llenwedd Lawlor


 Llyfr stori a llun gwreiddiol. Dyma stori hyfryd am y ferlen fach sydd â brwdfrydedd a dewrder mawr. Dewch i gwrdd â Ladi a’i ffrindiau ffyddlon yn y stori dwymgalon hon.


 




 Elon  Laura Murphy, Nia Parry


 Dewch i gwrdd ag Elon, eliffant ifanc, direidus sy’n dyheu am antur. Mae’n cychwyn ar daith yng ngolau’r lleuad drwy’r goedwig law ac yn darganfod bod ganddi hi bŵer i newid pethau er gwell.


Elon

Laura Murphy, Nia Parry, Elin Vaughan Crowley

  1. star 1
  2. star 2
  3. star 3
 




Mae Rita Eisiau Ninja  Máire Zepf


Dyma Rita. Mae Rita’n ferch fach â syniadau mawr. Mae Rita’n hoffi chwarae cuddio. Byddai’n hoffi cael Ninja a fyddai’n ei dysgu sut mae bod yn dawel, cyflym ac anweledig. Ond pan mae’r Ninja’n dwyn rhywbeth sy’n bwysig iawn iddi, mae Rita’n ailfeddwl.


 




Mae Rita Eisiau Jîni  Máire Zepf


Dyma Rita. Mae Rita’n ferch fach â syniadau mawr. Hoffai Rita gael jîni fyddai’n gwrando arni bob tro ac yn gwireddu pob dymuniad. Alakazam! Alakazee! Zim Zam Alakazoo! Ond beth os bydd rhywun arall yn dwyn jîni Rita? Addasiad Cymraeg gan Anwen Pierce o Rita Wants a Genie.


 




 Drwy ein Llygaid Ni  Jon Roberts


 Mae Kya a Martha yn ffrindiau pennaf. Mae’r ddwy ar y sbectrwm awtistig ond yn mynegi eu hunain yn wahanol iawn. Yn yr ysgol mae Kya yn dawel yn y dosbarth, ond mae Martha yn siaradus ac yn gofyn llawer o gwestiynau. Amser gwely mae Kya yn hoffi cadw ar ddihun, ond mae Martha yn mynd i’r gwely pan fydd hi wedi blino. Addasiad Cymraeg o Through the Eyes of Us.


 




Mali a’r Dolffiniaid  Malachy Doyle


Pysgotwr yw tad Mali, ac mae’n creu cwch bach iddi ac yn ei dysgu sut i’w hwylio. Mewn dim o dro mae Mali a’r cwch allan yn y tonnau, gyda haid o ddolffiniaid yn cadw cwmni iddi. Mae Mali’n helpu un dolffin bach wrth iddo fynd yn sownd mewn rhwyd. Ond pwy fydd yn helpu Mali pan fydd hi mewn trafferth ar y môr?


 




Dyfais Ffion   Julia Hubery


Mae Fili, merch y gofalwr, yn teimlo’n drist nad oes gan ei chymdogion yn y ddinas amser i siarad â hi ynghanol eu bywydau prysur. Ond yn lle teimlo’n drist, mae Fili yn sylweddoli bod angen iddi ddefnyddio ei dychymyg yn greadigol er mwyn creu rhywbeth fydd yn codi pontydd rhwng pawb.


 




Broga Bach Heglog   Marielle Bayliss


Mae Broga wedi digalonni – mae Llwynog yn ei wlychu, mae Gwas y neidr yn dwyn ei ginio, mae Cnocell yn tasgu brigau ato, ac nid yw ei grawc yn swynol. Ond mae’r gwenyn a gweddill ei ffrindiau wrth y pwll corsiog am wneud eu gorau i godi calon Broga bach.


 




Cyfres Anturiaeth Eifion a Sboncyn: Coedwig / Forest  Brendan Kearney


Antur Eifion a Sboncyn yn y goedwig law. Mae Eifion a’i gi, Sboncyn, yn archwilio’r goedwig law. Ond pam bod y tapir yn unig? A pham bod yr holl goed wedi diflannu? Ymunwch â Eifion a Sboncyn wrth iddynt ddysgu eu bod nhw’n gallu helpu achub y goedwig a’r anifeiliaid sy’n byw ynddi…


 




Y Noson Ddiflannodd y Lleuad / The Night the Moon Went Missing  Brendan Kearney


Mae’r gofod yn gallu bod yn lle unig. Dyna pam mae’r Lleuad yn hoffi gwylio’r bobl sy’n byw ar y Ddaear yn mynd a dod. Pan mae’r Haul allan, mae pawb yn hapus i’w weld, sy’n creu problem i’r Lleuad, achos mae pawb yn mynd i gysgu wrth iddi hi godi.


 




Y Dyn Dweud Drefn yn Chwarae Pêl-Droed  Lleucu Lynch


Y drydedd gyfrol yn dilyn helyntion Y Dyn Dweud Drefn. Mae’r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae’n benderfynol o sgorio’r gôl orau erioed. Ond tydi o’n cael fawr o hwyl arni … Tybed all y Ci Bach helpu’r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?


 




Ffan Bach Rygbi Cymru  Mark Williams 


Mae Gareth yn hoff iawn o rygbi a thîm Cymru, ond mae’n drist. Nid yw’n gallu mynd i wylio’r gemau oherwydd fod ei dad yn gweithio i ffwrdd. Yna, un dydd yn y parc … Stori i blant 3-5 oed. Addasiad Cymraeg o The Little Welsh Rugby Fan.


 




Dau Mewn Cae  Ceri Wyn Jones


 Llyfr stori-a-llun hwyliog mewn mydr ac odl am ddau frawd sy’n chwarae rygbi gan freuddwydio am gynrychioli eu gwlad. Yn eu dychymyg, y cae ger eu cartref yw Stadiwm y Mileniwm, cân y fwyalchen yw chwiban y dyfarnwr i ddechrau’r gêm a rhaid gosod y bêl ar gyfer y trosiad tyngedfennol ar dwmpath y wahadden.


 




Syr Deilen Lili  Anna Kemp


Y broga beiddgar, mor ddoeth, mor gryf, gelyn brawychus pob un… pryf! Cwyd, Syr Deilen Lili, yn ddi-oed, y broga dewraf a welwyd erioed! Addasiad Cymraeg o Sir Lilypad gan Aneirin Karadog.


 




Douglas yn Chwarae Cuddio David Melling


Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling. Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gêm – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?


 




Mali a’r Morfil  Malachy Doyle

Dilyniant i’r stori ganmoladwy Mali a’r Môr Stormus, sef stori emosiynol gan y meistri storïol a darluniadol Malachy Doyle ac Andrew Whitson am weithio gyda’n gilydd i gynorthwyo creadur i ddychwelyd i’w gynefin.


 




Y Côr Creaduriaid / The Creature Choir,  David Walliams


Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o The Creature Choir gan David Walliams. Stori ryfeddol am Walrws sydd wrth ei bodd yn canu. Yn anffodus, nid yw hi’n dda iawn! A phan mae ei chanu erchyll yn achosi eirlithriad mae’r morfilod eraill yn troi eu cefnau arni. Ond pan fyddwch chi’n canu fel pe na bai unrhyw un yn gwrando, weithiau maen nhw’n dechrau eich clywed chi…


 




1, 2, 3, Dawnsio Dawns y Deinosor  Michelle Robinson

Tyrd i ddysgu sut i fod yn ddeinosor gyda Tomi! Stompia dy draed a sigla dy gynffon – tyrd i gael hwyl yn y llyfr lluniau lliwgar hwn a’i stori sy’n odli gan awdur byd-enwog y gyfres Goodnight, Michelle Robinson, a’r artist anhygoel Rosalind Beardshaw. Addasiad Cymraeg gan Eurig Salisbury.


 



Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy