Darllenwyr Cynnar 2023
Na, Nel! yn Achub y Byd! Meleri Wyn James
Sut all merch ysgol ddireidus fel Nel achub y byd? Mae Nel yn llawn syniadau fel arfer, a phan mae’n deall bod yna gynllun dieflig ar droed, mae’n mynd ar antur i ddod o hyd i’r bwystfil sy’n benderfynol o ddinistrio’r blaned. Yn ogystal â stori, a lluniau lliw gan yr artist John Lund, mae’r llyfr yn llawn cyngor a syniadau am sut y gall plant wneud eu gorau i ofalu am y blaned.
Cyfres Roli Poli: Siencyn a’r Gêm Rygbi Tanya L. James
Nofel fer gyda lluniau lliw llawn sy’n adrodd hanes Siencyn, y ci bach direidus, sy’n awyddus iawn i chwarae rygbi gyda’i berchnogion. Addasiad Cymraeg o Sid and the Rugby Match gan Ion Thomas.
Y Gwningen a’r Arth: Tamaid i Aros Pryd Julian Gough
Pan ddaw tylluan fechan i darfu ar Cwningen ac Arth pan maen nhw’n nofio, mae Arth am ddysgu rhagor, ond mae Cwningen yn adrodd straeon arswyd ac am garcharu’r aderyn cysglyd. Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam o Attack of the Snack.
Academi Pêl-Droed: Gyda’n Gilydd Tom Palmer
Mae Jake Oldfield yn bêl-droediwr dawnus sy’n chwarae i’r tîm lleol. Er ei fod yn fychan o gorff, mae’n breuddwydio y caiff, ryw ddydd, wireddu ei freuddwyd o chwarae i dîm o safon uwch. Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: Boys United, sy’n rhan o gyfres newydd am bêl-droedwyr addawol sy’n ysu am wireddu eu breuddwydion.
Academi Pêl-Droed: Taro Nôl Tom Palmer
Mae Yunis yn ymosodwr dawnus sydd am fod yn bel-droediwr llwyddiannus, ond mae ei dad am iddo roi’r gorau i bêl-droed a gweithio’n galed yn yr ysgol. Tybed a fydd Yunis yn medru perswadio ei dad ei fod yn gallu gwneud y ddau beth neu a fydd rhaid iddo dynnu ei ‘sgidiau pêl-droed am byth? Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: Striking Out.
’, Roboto, Oxygen, Ubuntu, Cantarell, ‘Open Sans’, ‘Helvetica Neue’, sans-serif;">
Academi Pêl-Droed: Dim Chwarae Tom Palmer
Mae Tomas y gôl-geidwad wrth ei fodd yn chwarae i dîm Caerdydd ond dydy e ddim mor hoff o Ryan, capten y tîm a bwli. Pan mae’r clwb yn ymweld â Gwlad Pwyl i chwarae mewn twrnameint Ewropeaidd, mae Tomas yn benderfynol na chaiff Ryan ddifetha’r profiad iddo, ond a fydd e’n llwyddo? Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: The Real Thing.
Camau Corsiog Meilyr Siôn
Pwy sy’n byw yn Y Gors? Mae yno sioncyn y gwair sy’n rapio, pysgod sy’n herio’i gilydd o dan y dwr, gwas y neidr sy’n ofn uchder, a llwyth o greaduriaid difyr eraill. o hwyl a sbri yn y casgliad hwyliog hwn o straeon byrion!
Cyfres Lolipop: Ti a dy Rygbi Sioned Lleinau
Wrth chwarae rygbi yn yr ardd, mae Rhys yn chwalu ffenestr yr hen dŷ drws nesaf yn ddamweiniol. Wrth fentro yno i ofyn i’w gymydog rhyfedd am gael ei bêl yn ôl, mae Rhys yn cael croeso annisgwyl ac yn cael cyfle i wella’i sgiliau rygbi!
Cyfres Clem: 2. Clem ar Wyliau Alex T. Smith
Nid ci cyffredin yw Clem! Pan aiff Mr a Mrs Sgidiesgleiniog i’r gwaith, mae Clem yn penderfynu ar antur y dydd. Yn yr ail stori yn y gyfres, mae Syr Boblihosan ac yntau yn mynd ar eu gwyliau. Maent yn mwynhau adeiladu cestyll tywod, bwyta hufen iâ a thorheulo, cyn profi antur go iawn wrth iddyn nhw gyfarfod â môr-ladron a darganfod trysor! Addasiad o Claude on Holiday.
Cyfres Clem: 5. Clem a’r Tlws Aur Anferthol Alex T Smith
Dyma Clem, ac nid ci cyffredin mohono! Mae Clem a Syr Boblihosan y n gyffro i gyd ynglŷn â Mabolgampau Hynod o Gyffrous y Ganolfan Hamdden leol ac maen nhw’n cael gwahoddiad i gystadlu. Ond dyw padlo-nofio Clem ddim yn ddigon cyflym a dyw safon ei gymnasteg ddim yn dda iawn chwaith. Pan mae lladron yn dwyn Cwpan Aur y Mabolgampau, tybed a all Clem redeg yn ddigon cyflym i’w dal?
Seren a Sbarc a’r Pei(riant) Amser Elidir Jones, Huw Aaron
200g o flawd. 50g o fenyn. 500g o siwgwr. 4 wy. Un cloc a dau arwr twp. Dyna i gyd sydd ei angen ar gyfer gwibdaith wyllt trwy hanes Cymru – a’r peiriant amser mwyaf blasus erioed! Deinosoriaid, môr-ladron, tywysogion ac arwyr lu… ond a fydd Seren a Sbarc yn cyrraedd adref mewn amser? Mae’r llyfr wedi ei gyflwyno mewn arddull comic sy’n berffaith i ddarllenwyr anfoddog neu ail-iaith.
Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd Huw Aaron, Elidir Jones
A fydd sgiliau rygbi yn ddigon i drechu’r ROBO-ANGHENFIL sy’n ymosod ar ddinas Tokyo? Ymunwch â‘r arwyr Seren a Sbarc wrth iddyn nhw ddilyn tîm rygbi Cymru i Siapan, a cheisio ennill CWPAN Y BYDYSAWD gan osgoi y NINJAS… a’r ROBOTS… a’r ROBO-NINJAS! Mae’r llyfr wedi ei gyflwyno mewn arddull comic hawdd i’w ddarllen, yn berffaith i ddarllenwyr anfoddog neu ail-iaith.
Asterix yn y Gemau Olympaidd Rene Goscinny, Albert Uderzo
Mae Asterix a’i ffrindiau yn penderfynu newid ochr a throi’n Rufeiniaid er mwyn cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Wedi’r cyfan, gyda’r ddiod hud i’w hatgyfnerthu, sut allan nhw beidio ag ennill? Ond ar ôl cyrraedd Groeg mae gan swyddogion y gemau newyddion syfrdanol i’r garfan Gâl Rufeinig, ac mae’n rhaid i’r Galiaid feddwl am syniad arall.
Cnwcyn a’i Ffrindiau Meinir Pierce Jones
Cnocell y coed yw Cnwcyn sy’n byw mewn coedlan hyfryd. Mae bywyd yn braf i Cnwcyn a’i ffrindiau hyd nes bod ymwelwyr â‘r ardal yn newid eu bywyd yn llwyr! Stori hyfryd sy’n ymwneud â chyfeillgarwch a sut mae pawb, drwy gydweithio â‘i gilydd, yn ennill y dydd.
Enwogion o Fri: Cranogwen – Bywyd Arloesol Sarah Jane Rees, Anni Llŷn
Dyma stori am ferch benderfynol wnaeth ddarganfod bod unrhyw beth yn bosib, a hynny mewn cyfnod lle nad oedd cyfleoedd cyfartal i ferched. O hwylio llongau i ennill gwobrau fel bardd, roedd bywyd Cranogwen yn llawn amrywiaeth a chyffro. Dyma stori ysbrydoledig Cranogwen, gyda thestun clir a delweddau prydferth a thyner; llyfr perffaith i’w ddarllen yn uchel neu ar gyfer darllenwyr newydd.
Enwogion o Fri: Gwen – Bywyd Lliwgar Gwen John Casia Wiliam
Dyma hanes merch ifanc oedd wrth ei bodd yn peintio’r byd o’i chwmpas. Er llawer o rwystrau, llwyddodd i wireddu ei breuddwyd i fod yn artist, ac erbyn hyn, caiff ei hystyried yn un o artistiaid pennaf Cymru. Cyflwynir stori ysbrydoledig Gwen John gyda thestun clir a delweddau prydferth a thyner. Stori berffaith i’w darllen yn uchel neu ar gyfer darllenwyr newydd.
Enwogion o Fri: Shirley – Bywyd Byrlymus Shirley Bassey Bethan Gwanas
Dyma stori merch fach swil o Gaerdydd ddaeth yn seren fyd-enwog. Roedd llais Shirley Bassey yn rhy gryf i gôr yr ysgol, ond erbyn hyn mae ei llais anhygoel hi wedi codi’r to dros y byd i gyd, o Las Vegas i Stadiwm y Mileniwm, ac wedi’i glywed ar ffilmiau James Bond. Shirley yw un o’r perfformwyr mwyaf llwyddiannus erioed, ond dydy ei bywyd ddim wedi bod yn fêl i gyd o bell ffordd.
Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan Manon Steffan Ros
Dyma stori ysbrydoledig y bachgen swil o Dredegar a ddaeth yn un o wleidyddion pwysicaf Prydain. Dilynwn ei siwrne o’r pwll glo i Dŷ’r Cyffredin, ynghyd â sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (NHS). Cyflwynir y stori mewn iaith syml a chlir, gyda darluniau hyfryd. Perffaith i’w ddarllen gyda phlentyn, neu ar gyfer darllenwyr newydd.
Enwogion o Fri: Orig – Bywyd Beiddgar Orig Williams Ioan Morris
Hanes bywyd y reslwr poblogaidd anghymharol – Orig Williams neu ‘El Bandito’. O’i ddechreuadau fel chwaraewr pêl-droed talentog, i’w anturiaethau rhyngwladol ac ar y sgrîn, roedd Orig Williams yn arwr gyda chalon fawr.
Y Goeden Ioga Leisa Mererid
Llyfr stori a llun sy’n cyflwyno symudiadau ioga syml i blant ac oedolion. Mae’r llyfr annwyl hwn yn mynd â ni i fyd natur a chylch bywyd yr hedyn wrth iddo egino a thyfu’n goeden fawr gryf a thyfu dail. Buan iawn daw’r Hydref a’i wynt i chwythu’r hadau ac ailgychwyn ar gylch bywyd natur unwaith eto.
Cyfres Darllen Difyr: Cyffrous! – Chwaraeon pêl gwahanol Non ap Emlyn
Dewch i ddarganfod mwy am chwaraeon pêl gwahanol. Mae darnau difyr am sorbio, pêl-droed tair ochr, pêl-droed mewn mwd, hoci a rygbi o dan y dŵr, tennis dwy raced a thennis bwrdd sy’n cael ei chwarae heb y bat. Mae’r llyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a darnau difyr iawn sydd wedi eu hysgrifennu mewn iaith sy’n addas ar gyfer dysgwyr ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 2. Yn cynnwys geirfa.
Cyfres Wyt Ti’n Gwybod?: Chwaraeon ar Draws y Byd Non ap Emlyn
Llyfr i gyflwyno plant 5-7 mlwydd oed i ystod o ffeithiau diddorol er mwyn ysgogi eu chwilfrydedd ynghylch y byd o’u cwmpas yn ogystal â hyrwyddo eu hawydd i chwilota am bob math o wybodaeth. Y thema yw chwaraeon o bob math.
Cyfres Wyt Ti’n Gwybod?: Hwyl! Non ap Emlyn
Llyfr i gyflwyno plant 3-5 mlwydd oed i ystod o ffeithiau diddorol er mwyn ysgogi eu chwilfrydedd ynghylch y byd o’u cwmpas yn ogystal â hyrwyddo eu hawydd i chwilota am bob math o wybodaeth. Thema’r gyfrol hon yw chwaraeon o bob math ar draws y byd.