Skip to content

1,046,182 books read so far

Gradd Canol 2023

Spark Series: Sports Stars  Jen Green

Llyfr i danio dychymyg darllenwyr o bob oed drwy gyflwyno ffeithiau am 12 o sêr cyfoes Cymru ym myd chwaraeon. Bydd darllen y ffeithiau amdanynt yn gymorth i werthfawrogi’r gwaith caled, yr ymdrech a’r heriau y mae pob un ohonynt wedi eu hwynebu er mwyn llwyddo, gan brofi bod popeth yn bosibl gydag ymroddiad.

 




Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a’r Cefnogwr Pêl-Droed  Francesca Simon

Addasiad o Horrid Henry and the Football Fiend.


 




Pump Prysur: Da Iawn, Pump Prysur  Enid Blyton

Dyma eich cyfle i fwynhau mwy o anturiaethau Siôn, Dic, Jo, Ani a Twm – y Pump Prysur. Un diwrnod, mae ceffyl rasio enwog yn diflannu a neb yn gwybod i ble mae’r ceffyl wedi mynd. Bydd rhaid wrth help y Pump Prysur i ddod o hyd iddo ac i wneud yn siŵr nad ydy’r ceffyl wedi’i anafu. Mae pawb yn dibynnu ar y Pump Prysur!


 




Pump Prysur: Antur y Pen-Blwydd  Enid Blyton


Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five: The Birthday Adventure. Stori fer gyda lluniau lliw newydd sbon. Mae Jo ar ei ffordd i barti pen-blwydd gydag anrheg arbennig iawn. Ond gwell iddi fod yn ofalus! Mae dau leidr yn dynn ar ei sodlau, ac maen nhw’n torri eu boliau i gael gafael ar yr anrheg…


 




Fi a Joe Allen  Manon Steffan Ros

Does gan Marc ddim perthynas dda iawn â‘i dad, ond mae’r ddau’n mynd efo’i gilydd bob dydd Sadwrn i weld tîm Dinas Bangor. Mae’r bachgen (Marc, ar ôl Mark Hughes) yn datblygu obsesiwn efo Joe Allen, sydd, ym meddwl Marc, yn debyg i’w dad. Mae Marc a’i dad yn mynd ar eu gwyliau cyntaf gyda’i gilydd i Ffrainc i weld Cymru’n chwarae, a dyma lle mae’r ddau yn dod i adnabod ei gilydd yn iawn.


 




Dirgelwch y Dieithryn  Elgan Philip Davies


Pan mae Iwan, Mair a’i ffrindiau’n gweld dyn dieithr, blin yn y tŷ gwag wrth y parc maen nhw’n gwybod yn syth beth yw e – lleidr! Eu tasg nhw dros wyliau’r haf yw ei ddal. Rhaid cael cynllun, a hynny ar unwaith – ymunwch â’r ffrindiau yn eu hantur gyffrous!


 




Hedyn  Caryl Lewis

Dyma nofel gyntaf yr awdures doreithiog ar gyfer yr oed yma. Ar ei ben-blwydd mae Marty yn derbyn hedyn gan ei dad-cu – hedyn hudol. Nofel ddoniol, anghyffredin, sy’n ysbrydoli ac yn codi pynciau dwys. Mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydion. Addas ar gyfer plant 9-12 oed.


 




Dyddiadur Dripsyn: Trwbwl Dwbwl  Jeff Kinney


Mae’r pwysau’n cynyddu ar Greg Heffley. Mae ei fam yn credu bod gemau cyfrifiadur yn troi ei frên yn sdwnsh. Felly mae hi am i’w mab roi’r gemau heibio a darganfod ei ochr greadigol. Ac os nad ydy hynny’n ddigon i godi braw ar rywun, mae hi bron yn Galan Gaeaf ac mae pethau’n dychryn Greg o bob cyfeiriad. Caiff syniad pan ddaw o hyd i fag o fferins siâp pryfed genwair.


 




Y Gêm  Gareth F. Williams

Nofel hanesyddol ar gyfer plant cynradd hŷn a phobl ifanc am ddau ffrind o Gymru a drodd yn ddau elyn ar gaeau pêl-droed eu hardal. Pan ddaeth y Rhyfel Mawr yn 1914, fe gymerodd un gêm bêl-droed arbennig yn erbyn gelynion go iawn – sef yr Almaenwyr – i’r ddau sylweddoli pa mor werthfawr yw cyfeillgarwch mewn gwirionedd. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2015.


 




Cyfres Rygbi: 2. Rhyfelwr Rygbi  Gerard Siggins


Ail deitl y gyfres rygbi am Owain yn ei ysgol newydd. Mae’n gapten ar y tîm dan 14 oed, a rhaid iddo geisio pontio’r tyndra rhwng dau chwaraewr sy’n brwydro am safle’r mewnwr. Yn ogystal, mae ei waith ymchwil ar brosiect am aelod o’r tîm rygbi cenedlaethol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei gysylltu ag ysbryd o’r gorffennol. Addasiad Cymraeg Gwenno Hughes o destun llawn cyffro.


 




Cyfres Rygbi: 3. Rebel Rygbi  Gerard Siggins


Mae’n ddechrau tymor arall yng Ngholeg Craig Wen ac mae Owain yn ei ôl. Bellach, mae’n ymarfer gyda thîm y Cwpan Iau sy’n waith caled. Ond, mae ysbryd arall yn cadw cwmni iddo. Doedd gan Owain ddim syniad am y cysylltiadau Cymreig rhwng Cymru a Rhyfel Cartref Sbaen nes cyfarfod Sam … Addasiad Cymraeg gan Gwenno Hughes.


 




Cyfres Rygbi: 4. Gwibiwr Rygbi  Gerard Siggins


Dyma’r bedwaredd yn y gyfres o nofelau rygbi. Mae Owain yn edrych ‘mlaen am flwyddyn arall llawn rygbi yng Nghraig-wen. Wrth gwrs, daw ysbryd arall i’w gynhyrfu. Addasiad Cymraeg gan Gwenno Hughes.


 




Academi’r Campau: Brwydr y Bêl  Gerard Siggins

Mae Jo wrth ei fodd â phêl-droed, ond mae’n gwybod nad oes gobaith caneri ganddo i gael ei ddewis gan y sgowt pêl-droed. Nid Gareth Bale mohono, o bell ffordd! Ond er syndod mawr iddo, caiff ei ddewis i fynychu academi chwaraeon gorau’r byd ar ynys yng nghanol y môr, a hynny gyda phedwar plentyn arall: Kim, Craig, Ajit a Jess. Addasiad Cymraeg gan Mari George.


 




Academi’r Campau: 2. Sôn am Sgarmes  Gerard Siggins


Mae Kim, Jo, Ajit, Jess a Craig yn ysu i fod yn sêr y byd chwaraeon. Mae Kim wastad wedi dwlu ar rygbi, ond doedd hi erioed wedi credu ei bod hi’n dda nes iddi gael ei dewis i fynychu Academi’r Campau. Ond bellach mae hynny wedi newid gyda chymorth ei chyfeillion newydd, ei hyfforddwyr gwych, a’r dechnoleg fwyaf blaengar. Addasiad Cymraeg Mari George o Rugby Redzone.


 




Sombis Rygbi: Bachwr  Dan Anthony

Peidiwch â chael ofn, ond mae’r Sombis Rygbi wedi dychwelyd! Maen nhw yn eu hôl ar ôl llwyddiant campus yn y gêm ddiwethaf, ond mae Arwel wedi anobeithio’n llwyr. Yn dilyn eu buddugoliaeth, mae aelodau rhyfedd y tîm ar wasgar yn rhywle, yn gwneud pob math o ddrygioni. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2011.


 




Sgramblo  Huw Davies

Mae’r ‘disgybl perffaith’ pedair ar ddeg mlwydd oed, Davidde (roedd ei rieni’n cael trafferth sillafu) yn byw gyda’i dad ar ôl i’w fam farw. Mae ei dad yn gwneud ei orau, ond pan fo prifathro newydd yn dechrau yn ei ysgol, mae Davidde yn cael enw annheg o fod yn un sy’n creu trwbl.


 




Gwag y Nos  Sioned Wyn Roberts


Dim ond un rebel sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.’ Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti’n dlawd mae’n uffern. Nofel ddirgelwch wedi’i gosod mewn wyrcws yn Oes Fictoria. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2022.


 




Hufen Afiach Dai  Meilyr Siôn

Llyfr ysgafn i blant 8-11 oed a dilyniant i Hufen Afiach. Mae’r stori’n dilyn helyntion y cawr, Dai Bola Bach, a’i wraig, Blodwen Bling, y cwpwl anghyffredin sy’n rheoli canolfan awyr agored i blant o’r enw Gwersyll Hyll Glan Llan.


 




Cyfres Pen Dafad: Ceri Grafu  Bethan Gwanas

Nofel gyfoes am ferch yn ei harddegau sy’n teimlo bod pawb a phopeth yn ei herbyn, a hynny’n bennaf am na chaiff chwarae i dîm pêl-droed yr ysgol am mai merch ydyw, ond a gaiff ei hannog i ddyfalbarhau gan gymdoges, gyda chanlyniadau ardderchog; i ddarllenwyr 11-13 oed. (ACCAC) Adargraffiad. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2003.


 




Sblash!  Branwen Davies

Dyma nofel ar gyfer darllenwyr rhwng 10 ac 13 oed. Mae’n ymdrin â pherthynas rhwng plant ysgol, bwlio, a’r syniad o gorff perffaith. Mae Beca’n cael ei bwlio, ond mae ganddi gyfrinach – mae’n gobeithio cael ei dewis i dîm nofio Cymru.


 




Chwedlau’r Copa Coch: Lladron y Deyrnas Goll  Elidir Jones

Lladron y Deyrnas Goll yw’r bedwaredd nofel yn y gyfres ffantasi epig, Chwedlau’r Copa Coch. Bydd yn apelio at ddarllenwyr hen ac ifanc sy’n hoff o antur, trysor a dyfeisiadau gwyllt.


 




Dros y Môr a’r Mynyddoedd: Straeon Merched Dewr y Celtiaid
 
Merched cryf a dewr yw’r prif gymeriadau yn chwedlau’r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy’n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i’r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.


 




Cyfres a Wyddoch chi: A Wyddoch Chi am Rygbi Cymru?  Alun Wyn Bevan

Ydych chi eisiau gwybod beth sy’n ddiddorol, anghyffredin ac anhygoel am rygbi Cymru? Wel, dyma’r llyfr i chi!


 




Rygbi  Sarah Larter

Y llyfr perffaith ar gyfer dathlu Cwpan Rygbi’r Byd! Cyflwyniad cyffrous i’r gêm er mwyn helpu plant i ddeall y rheolau, dysgu sgiliau rygbi a dysgu am recordiau byd yn y maes. Edrychir ar hanes y gêm, gan fanylu ar fathau gwahanol o rygbi, megis Rygbi’r Undeb, Rygbi’r Gynghrair, Rygbi Saith-bob-ochr a Rygbi Tag.


Rygbi

Sarah Larter, Laura Gilbert, Sioned Lleinau

  1. star 1
  2. star 2
  3. star 3
 




Pêl-Droed Penigamp Robin Bennett

Pêl-droed Penigamp yw’r ail lyfr yn y gyfres Campau Campus. Efallai mai’r disgrifiad gorau o’r gyfres yw math o ‘Horrible Histories’ neu ‘Hanesion Hyll’ ar gyfer campau gwahanol. Y tro hwn, pêl-droed gaiff y sylw. Addasiad Cymraeg gan Elinor Wyn Reynolds o Stupendous Sports: Fantastic Football.


 




Rygbi Rhempus  Robin Bennett


Mae Rygbi Rhempus yn llawn ffeithiau difyr a doniol am rygbi; yn rhoi cip ar hanes y gêm, a’i rheolau ac (yn bwysicaf oll) yn cyfleu ysbryd ac angerdd y gêm wych hon.


 




Cyfres Darllen Difyr: Gwahanol! – Chwaraeon gwahanol  Non ap Emlyn

Mae’r llyfr hwn yn cynnwys darnau difyr am chwaraeon gwahanol iawn, fel cŵn yn syrffio, nofio ar Ŵyl San Steffan, cystadleuaeth tynnu wyneb, beicio gwahanol, rasio mewn cychod gwahanol, chwilio am fwydod neu bryfed genwair a snorclo mewn mwd. Mae’r darnau’n ddifyr ac maen nhw wedi eu hysgrifennu mewn iaith sy’n addas ar gyfer dysgwyr ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 2.


 



Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy