Skip to content

1,046,415 books read so far

Croeso i’r pac

Viper's Daughter

Viper's Daughter

Bachgen. Blaidd. Mae’r chwedl dal yn fyw.

Viper’s Daughter ydy’r seithfed llyfr yn y gyfres wobrwyedig a ddechreuodd gyda Wolf Brother, yn gwerthu dros 3 miliwn o gopïau mewn 36 tiriogaeth. Gellir ei ddarllen fel stori unigol.


Am ddau haf, mae Torak a Renn wedi bod yn byw yn y Goedwig gyda’u brawd ffyddlon yn y pac, Wolf. Ond mae ei hapusrwydd yn cael ei chwalu pan fo Renn yn sylweddoli fod Torak mewn peryg – a hi ydy’r peryg.

Pan fo hithau’n diflannu’n anesboniadwy, mae Torak a Wolf yn mentro am y Gogledd Pell i chwilio amdani. Ar drugaredd y Fam Fôr a’u dilyn yn fygythiol gan eirth iâ rheibus, mae eu hantur yn eu harwain at Erchwyn y

Byd. Yno, mae’n rhaid wynebu gelyn sy’n fwy arswydus nag unrhyw beth a brofwyd ganddyn nhw hyd hynny…

Mae Viper’s Daughter yn eich hyrddio’n ôl at fyd Oes Cerrig Torak, Renn a Wolf: byd o ddemoniaid, Pobl Gudd ac anturiaethau cyffrous sydd wedi dal dychymyg miliynau o ddarllenwyr.

Pwyswch ar glawr y llyfr isod i ychwanegu Viper’s Daughter at eich rhestr-awydd-darllen


Diolch i Zephyr Books, mae ganddon ni weithgareddau chwedlonol ichi eu mwynhau hefyd!

Chwiliwch am eich llwyth, profwch eich sgiliau goroesi Oes y Cerrig, a theithio trwy fyd gwyllt Torak a Wolf gyda phecyn gweithgareddau Viper’s Daughter.

Pwyswch yma i gael eich gweithgareddau rhad ac am ddim – dim ond angen pwyso’r botwm gwyrdd i ddechrau lawrlwytho

A ydych chi wedi darllen unrhyw un o lyfrau cyfres Wolf Brother? Ychwanegwch eich llyfrau at eich proffil a gadael adolygiad er mwyn gadael i bawb wybod eich barn

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy