Skip to content

1,046,182 Llyfr wedi’u Darllen

Anfon Llythyr Ar Gyfer Diwrnod Y Byd

Annwyl Fyd...

Petaech chi’n gallu anfon llythyr at y Byd, beth fasech chi’n ei ddweud?

Llyfr darluniadol newydd ydy Dear Earth, gan Isabel Otter a Clara Anganuzzi

Pan fo Tessa’n sgwennu llythyr serch at y Byd, dyna gychwyn antur fendigedig.

Mae hi’n chwythu swigod gyda morfilod, yn hedfan fry gyda’r adar ac yn ymuno â dwndwr swnllyd y goedwig drofannol!

Mae Tessa am i bawb wybod pa mor arbennig ydy’n daear ni. Mae hi’n credu bod modd achub y Byd os oes digon ohonon ni’n rhannu’r neges…

Anfonwch eich neges eich hunan at ein planed ar gyfer Diwrnod y Byd!

Sgwennwch lythyr neu dynnu llun i rannu eich hoff beth am ein Byd a bywyd ar y ddaear

Pwyswch yma i lawrlwytho patrymlun – does ond angen pwyso’r botwm gwyrdd i ddechrau

Fasen ni wrth ein bodd cael gweld eich llythyrau!

Cymerwch lun a’i rannu gyda ni ar-lein gan ddefnyddio’r hashnod #DearEarthBook. Cewch ein tagio yn readingagency a LittleTigerUK

Fe ellwch hyd yn oed defnyddio eich llythyr i wneud poster neu arddangosfa’n seiliedig ar y Byd ar gyfer eich wal neu ffenest gartref!

A wnewch chi ddathlu Diwrnod y Byd ar Ebrill 22? Gadewch inni wybod beth rydych chi’n ei wneud ar Sgwrs

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy