Gradd Canol 2024
Ac Rwy’n Clywed Dreigiau
Blodeugerdd arloesol o gerddi wedi’i golygu gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae’r casgliad yn rhoi sylw i ystod eang o brofiadau ar draws Cymru, gan ganolbwyntio ar hunaniaeth, a dreigiau!
Antur yr Eisteddfod Manon Steffan Ros
Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres o dri sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd. Y tro hwn maen nhw’n ceisio datrys dirgelwch diflaniad Cadair yr Eisteddfod, oriau’n unig cyn y seremoni!
Y Bachgen a’r Adenydd Sir Lenny Henry
Mae bachgen cyffredin ar fin dod yn ARWR ARBENNIG! Wrth i Tunde dyfu adenydd a dysgu mai fe yn unig all amddiffyn y byd rhag dinistr llwyr, dydy’r ysgol ddim yn broblem fawr bellach. Diolch byth, mae ei ffrindiau gwych yno i’w helpu, a chyda’i bwerau newydd, mae Tunde yn barod i hedfan i ganol y perygl.
Cadi Goch a’r Ysgol Swynion Simon Rodway
Dyma nofel gyffrous am Cadi, sy’n cael ei dewis i fynd i ysgol arbennig i ddysgu hud a lledrith. Ond pwy yw’r bobl ddrwg go iawn? Mae Cadi a’i ffrindiau yn defnyddio pob math o driciau i ddod o hyd i atebion. Nofel addas i bob oed (yn enwedig darllenwyr 9-12 oed)!
Camau Corsiog Meilyr Siôn
Pwy sy’n byw yn Y Gors? Mae yno sioncyn y gwair sy’n rapio, pysgod sy’n herio’i gilydd o dan y dŵr, gwas y neidr sy’n ofni uchder, a llwyth o greaduriaid difyr eraill. Dewch am dro i’r Gors yn y casgliad hwyliog hwn o straeon byrion.
Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn Seren y Sioe Harriet Muncaster
Mae Annalisa Swyn yn arbennig – oherwydd ei bod hi’n wahanol. Tylwythen deg yw ei mam, a fampir yw ei thad, ac mae hithau’n gyfuniad o’r ddau. Mae hi bron yn amser am Ddawns y Fampirod, ac mae Annalisa ar bigau’r drain! Does ond un broblem . . . rhaid iddi gystadlu mewn sioe dalent gyda’r fampirod bach eraill! A fydd Annalisa’n ddigon dewr i berfformio, tybed? Bydd angen dewrder…
Cyfres Twm Clwyd: 10. Cŵn Sombi Ydi’r Gorau Liz Pichon
Degfed teitl y gyfres boblogaidd am Twm Clwyd. Y tro hwn mae gan Twm GYNLLUN GWYCH i sicrhau mai ei FAND fydd y GORAU yn y BYD. Pa mor anodd gall hynny fod? (Anodd iawn.) Mae Twm yn mynd i: 1. Ysgrifennu rhagor o ganeuon. (Ddim am athrawon.) 2. Creu fidio cerddorol ANHYGOEL. (Hawdd.) 3. Ceisio cysgu. (Anodd pan gewch eich cadw ar ddihun gan SYNAU MAWR.)
Cyfres yr Onnen: Y Bancsi Bach Tudur Dylan Jones
Mae Owen yn artist dawnus, sy’n creu lluniau graffiti ar un o waliau’r dre yn y dirgel, ganol nos. Ond mae ‘na gysylltiad rhwng y lluniau â phobl ddieithr sy’n cyrraedd yr ysgol … Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2013.
Dreigio: 3. Elis a Llwybryn Alastair Chisholm
Y trydydd teitl yn y gyfres ffantasi gyffrous, hudolus, ‘Dreigio’ sy’n berffaith ar gyfer darllenwyr 7-9 oed. Y tro hwn, mae’r dewin-ddraig Elis a’i gyfaill Llwybryn yn benderfynol o fod y cyntaf i gwblhau’r tair drysfa ar dir palas y brenin er mwyn ennill twrnameint y flwyddyn.
Dyddiadur Dripsyn 12: Dianc Jeff Kinney
Y 12fed llyfr, llawn chwerthin, wedi ei ddarlunio’n llawn am Greg Heffley a’i deulu. Mae’n oer adref ac mae Greg a’i rieni o dan straen ynghylch y Nadolig, felly maen nhw’n penderfynu bod y teulu cyfan am ddianc i ynys drofannol! DYLAI ychydig ddyddiau ym mharadwys wneud rhyfeddodau i Greg a’i deulu o dan bwysau. A ellir arbed y daith, neu ai trychineb ddaw i’w rhan?
Fi Ydy Fi Sian Eirian Lewis
Llyfr gwybodaeth i ferched 8+ oed am dyfu i fyny. Bydd pob pennod yn trafod agwedd benodol o’r profiad o dyfu i fyny, yn cynnwys: Pam mae fy nghorff yn aeddfedu?, Hormonau, Bronnau, Blew, Chwysu, Croen, Mislif, Deall fy emosiynau, Fy Nghorff, Ffrindiau.
Y Frân Glocwaith Catherine Fisher
Pan roddir parsel papur newydd i Seren Rhys gan ddieithryn mewn gorsaf drenau Fictoraidd yn hwyr un noson rewllyd, does dim syniad ganddi o’r trwbwl sydd ynddo. Mae hi ar ei ffordd i fywyd newydd yn nhŷ gwledig anghysbell Plas-y-Frân. Ond pan gyrhaedda yno, daw’n amlwg nad yw’r Nadolig llawen y gobeithiodd amdano yn ddim ond rhith. Addasiad Cymraeg o The Clockwork Crow.
Fy Anturiaethau Pwysig Iawn DK
Cyfrol ddifyr ar gyfer dysgwyr ifanc sy’n caru teithiau cyffrous a darganfyddiadau anhygoel. Mae’n bwysig i bob person pwysig wybod am gampau gwych anturiaethwyr arbennig, a dyma gyfle! Cyfle i ddysgu am hynt a helynt anturiaethwyr, arloeswyr, ac unigolion blaengar a mentrus, a darganfod y storïau sy’n gefndir i rai o ddigwyddiadau mwyaf hanesyddol y byd… a llawer llawer mwy.
Hedyn Caryl Lewis
Dyma nofel gyntaf yr awdures doreithiog ar gyfer yr oed yma. Ar ei ben-blwydd mae Marty yn derbyn hedyn gan ei dad-cu – hedyn hudol. Nofel ddoniol, anghyffredin, sy’n ysbrydoli ac yn codi pynciau dwys. Mae <i>Hedyn</i> yn stori am wireddu breuddwydion. Addas ar gyfer plant 9-12 oed.
Y Llwynog Tân Olaf Lee Newbery
Daw Charlie yn warcheidwad cenau llwynog tân, a rhaid iddo ei amddiffyn yn ddewr rhag heliwr arallfydol… Stori dwymgalon am deulu, cyfeillgarwch a chanfod eich egni mewnol. Addasiad Cymraeg gan Siân Northey o The Last Firefox.
Pwyll a Rhiannon Aidan Saunders
Daw stori Pwyll a Rhiannon o gainc gyntaf y Mabinogi. Gyda’i helfa gyffrous, rhamant, twyll a dewiniaeth, cawn gipolwg ar fyd llawn antur, serch a brad. Mae’r chwedl hynafol hon wedi ei hadrodd a’i hailadrodd ar hyd y canrifoedd, mae ei gwreiddiau’n ddwfn yng ngorffennol pell y Celtiaid Cymreig ac mae wedi ysbrydoli sawl chwedl newydd. Testun dwyieithog.
Stori Bloeuwedd Siân Lewis
Y Mabinogi yw chwedlau hynaf ac enwocaf Cymru, a’r Pedair Cainc yw straeon craidd y chwedlau hyn. Er iddyn nhw gael eu hysgrifennu ar femrwn tua wyth canrif yn ôl, bu storïwyr yn eu hadrodd ar lafar sawl canrif cyn hynny. Mae’r chwedlau wedi para cyhyd am eu bod yn dal i allu cydio yn y dychmyg â‘u hud a’u lledrith, eu hantur, eu rhamant a’u rhyfeddodau unigryw. Dyma stori Blodeuwedd.
Trwy’r Darlun Manon Steffan Ros
Nofel ffantasi ddarllenadwy i blant 10-13 oed am fachgen sy’n cael ei ddenu i wlad o hud a lledrith. Awn gyda Cledwyn a Siân drwy’r darlun ac ar hyd twnnel i wlad Crug. Yno cawn gwrdd â Gili Dŵ caredig – cymeriad rhychiog a moel, byr ond hynod o gryf.