Skip to content

1,046,182 Llyfr wedi’u Darllen

Llyfrau Lefel Ganolradd

Cyfres Maes y Mes: Briallen a Brech y Mêl
Nia Gruffydd, Lisa Fox
 
Mae parti mawr ar Wyl Ifan ac mae’r tylwyth teg yn cael ffrogiau newydd. Ond mae brech y mêl ar Briallen!

Sw Sara Mai
Casia Wiliam, Gwen Millward
 
Croeso i fyd Sara Mai, lle mae glanhau pw eliffant yn apelio lot mwy na mynd i’r ysgol, a ble mae’n llawer haws deall ymddygiad arth o Dde America na merched eraill Blwyddyn 5. Bydd yn barod i chwerthin a chrio wrth i Sara Mai rannu hanes ei bywyd gyda ni; o’r jiraff sydd ofn uchder, i eiriau sbeitlyd amser chwarae, a’r frwydr anferth i achub y peth pwysicaf yn ei bywyd.

Chwedlau’r Ddraig: Cwm y Wrach
Meilyr Siôn, Philip Huckin
 
Daw hen chwedl yn fyw yn y stori antur fodern hon. Lleolir y nofel ger Aberaeron, a dilynwn Daisy, merch 11 oed, a’i theulu ar ôl iddynt symud i’r ardal o’r gogledd i gadw canolfan arddio.

Achub Anifail: Antur Arctig
J. Burchett, S. Vogler
 
Mae arth wen wedi’i darganfod yn farw mewn pentref yn Alasga. Mae’n anarferol iawn i arth wen ddod i blith pobl, ac felly mae rhywbeth mawr o’i le. Unwaith eto, caiff yr efeilliaid Ben a Sara eu gyrru i archwilio’r achos.

Achub Anifail: Llosgi Lloches
J. Burchett, S Vogler
 
Y diweddaraf mewn cyfres o straeon antur cyffrous am frawd a chwaer sy’n gwneud eu gorau glas i warchod anifeiliad prin sydd dan fygythiad ledled y byd.

Achub Anifail: Dilyn Dolffin
J. Burchett, S Vogler
 
Ar gyfer eu tasg ddiweddaraf, mae Ben a Sara ar eu ffordd i Fecsico. Yno mae perchennog parc môr wedi dympio dolffin ifanc ym Môr y Caribî. Dyw’r dolffin bach ddim yn gyfarwydd â byw yn y gwyllt. Rhaid i Ben a Sara fynd i chwilio amdano, cyn iddo gael niwed. Ond mae storm ar y ffordd ac mae’r môr yn beryglus iawn…

Chwedlau’r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd
Elidir Jones, Huw Aaron
 
Mae cyfres Chwedlau’r Copa Coch yn parhau, ac ar ôl trechu bwystfil hunllefus yn, mae arwyr y Copa Coch bellach yn wynebu perygl llawer mwy – melltith yn y mynydd.

Tintin: Trysor Rhaca Goch
Hergé
 
Mae Tintin a’i ffrindiau ar eu ffordd i’r Caribî i chwilio am drysor coll y môr-leidr Rhaca Goch, a llong yr Uncorn. Er dod o hyd i weddillion y llong, does dim golwg o drysor Rhaca Goch. Y cyfan sydd ar wely’r môr yw hen gist yn llawn dogfennau – dogfennau sy’n datgelu newyddion syfrdanol!

Asterix a’r Pwt Bach Twt
Albert Uderzo, R Goscinny
 
Mae babi yn glanio ar stepen drws Asterix… ond o ble ddaeth y pwt? Does gan Asterix ac Obelix ddim profiad o fagu babi, felly mae croeso i bawb sy’n cynnig carco, neu sydd am gychwyn cylch Tibiet Mihi. Ond daw’n amlwg bod angen gofal wrth ddewis pwy sy’n cael gwarchod y pwt bach twt!

Cadi Goch a’r Ysgol Swynion
Simon Rodway
 
Dyma nofel gyffrous am Cadi, sy’n cael ei dewis i fynd i ysgol arbennig i ddysgu hud a lledrith. Ond pwy yw’r bobl ddrwg go iawn? Mae Cadi a’i ffrindiau yn defnyddio pob math o driciau i ddod o hyd i atebion.

Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
 
Yn gefnlen i’r stori mae hanes cymuned o deithwyr sy’n symud eu carafannau i Gae Rhianfa. Dyma stori gref am ragfarnau, cyfeillgarwch a brawdoliaeth rhwng dynion ifanc.

Mis yr Yd

Manon Steffan Ros, Delyth Ifan, Richard Huw Pritchard

  1. star 1
  2. star 2
  3. star 3

Fi ac Aaron Ramsey
Manon Steffan Ros
 
Mae’r stori’n ymwneud â Dan a Deio, gyda’r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae perthynas y ddau fel gêm bêl-droed – yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae’r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy’n creu tîm go iawn.

Taith Ryfeddol a Gwyrthiol Ffredi Yates
Jenny Pearson, Rob Biddulph
 
Ffeithiau yw popeth i Ffredi Yates, bachgen 11 oed. Ar ôl i’w fam-gu farw ac iddo ddarganfod bod ei dad biolegol yn parhau i fyw yn ne Cymru, mae’n penderfynu dilyn y ffeithiau. Ynghyd â’i ffrindiau gorau Ben a Ianto, mae’n sleifio i ffwrdd ar antur oes (neu o leiaf, gwyliau’r haf) i chwilio am ei dad.

Yr Hudlath a’r Haearn – Curo Deirgwaith
Cressida Cowell
 
Tyrd i wlad o ddewiniaid, rhyfelwyr, creaduriaid mytholegol a lledrith grymus mewn antur ffantasi. Dyma’r trydydd teitl mewn cyfres afaelgar wedi’i chyfieithu gan Ifan Morgan Jones. Bellach mae Llŷr a Dôn r ar ffo, yn cael eu herlid gan y Rhyfelwyr, y Dewiniaid a’r Gwrachod. Tybed a fedran nhw ganfod y swyn i ddifa’r Gwrachod cyn y bydd hi’n rhy hwyr?

Angylion Pryder
Sita Brahmachari
 
Dyma nofel sensitif a hwyliog, yn dangos merch yn delio â gorbryder, perthynas ei rhieni’n chwalu a symud tŷ. Mae byd Mia Mai wedi newid yn llwyr, ond mae Tŷ Celf Grace Nuala a’i ffrind newydd o Syria, Rima, yn ei helpu hi i fagu hyder a wynebu’r ysgol uwchradd.

Yr Allwedd Amser
Ben Hillman
 
Mae Nefyn a Trefor yn darganfod allwedd sy’n agor drysau i lefydd anhygoel, ac yn camu i antur fwyaf eu bywydau. Mae’r bydysawd ac amser ei hun yn y fantol – a Nefyn a Trefor ydi’r arwyr lleiaf addas i’r dasg! Ydy’r ffrindiau dewr yn gallu atal y byd rhag cael ei rwygo’n ddarnau? Mae’r cloc yn tician… Nofel graffig llawn antur, hiwmor a gwaith celf anhygoel.

Rali’r Gofod 4002
Joe Watson
 
Ymunwch â Iola a’i chriw o robotiaid ac estronwyr wrth iddyn nhw gystadlu yn ras fwyaf peryglus y bydysawd. Nofel graffig wreiddiol Gymraeg a gyflwynwyd gyntaf fel cyfres yn nhudalennau’r comic Mellten.

Pawen Lawen!
Casia Wiliam
 
Casgliad o farddoniaeth am fyd natur gan fardd plant presennol Cymru, Casia Wiliam a beirdd plant y blynyddoedd a fu.

Byd Gwyrdd
Gol. Myrddin ap Dafydd
 
Blodeugerdd o farddoniaeth gan amryw o feirdd ar bynciau ‘gwyrdd’ megis ailgylchu, a gwarchod yr amgylchfyd.

Llyfr Adar Mawr y Plant
Onwy Gower, Ffion Gwyn
 
Llyfr ffeithiol am 50 o adar sydd i’w gweld yng Nghymru, wedi ei ddylunio’n ddeniadol, gyda tudalen ddwbl i bob aderyn, yn cynnwys ffeithiau, ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu’n arbennig ar gyfer y gyfrol. Cynhwysir ffeithiau megis maint, cynefin a bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau Ffab ynghyd â geirfa ddefnyddiol.

Llyfr yr Awyr Agored
Alice James, Emily Bone, Briony May Smith
 
Mae pob math o bethau i ddod o hyd iddyn nhw a’u gweld pan fyddwch chi’n mynd allan, yng nghefn gwlad neu mewn parc yn y dref. Mae’r llyfr hwn yn llawn syniadau i chi cael hwyl yn yr awyr agored, ble bynnag rydych chi a sut bynnag mae’r tywydd. Addasiad Elin Meek o The Outdoor Book.

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy