Llun a Stori 2024
ABC Byd Natur Luned Aaron
Ail argraffiad o gyfrol hardd, llawn lliw sy’n cyflwyno’r Wyddor Gymraeg i blant blwydd i oedran cynradd, wedi’i chynllunio a’i darlunio gan yr artist Luned Aaron.
Yr Ardd Anweledig Valérie Picard
Y trydydd teitl yn y gyfres o lyfrau llun-a-stori bywiog, dwyieithog am Sara Jones. Y tro hwn, mae Sara yn serennu ym myd y campau, wrth iddi ymarfer ar gyfer ras farathon. Addasiad Cymraeg Elin Meek o Sara Jones, Sports Superstar.
Yr Arth a’i Llyfr Arbennig Frances Tosdevin
Dyma stori am arth sy’n caru llyfrau. Un diwrnod, wedi iddi benderfynu mynd i weld y byd, mae’n cymryd un peth arbennig gyda hi – sef Llyfr Pob Arth Am Bopeth sy’n Bwysig. Addasiad Cymraeg gan Mererid Hopwood.
Artist Ydw I Kertu Sillaste
Gall celf fod yn gêm, yn benbleth, neu weithiaun syrpréis fydd yn ein synnu! Ymunwch â Gwyn wrth iddo gyhoeddi ‘Artist Ydw I’ a dod i wybod beth mae hynnyn ei olygu. Addasiad Cymraeg Mary Jones o fersiwn Saesneg Adam Cullen o deitl a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Estonia.
Bach a Mawr Luned Aaron
Cyfrol hardd a hwyliog, llawn amrywiaeth, sy’n gyflwyniad i’r llu o gyferbyniadau sydd ym myd yr anifeiliaid. Anrheg delfrydol i blant bach sy’n dechrau dod i adnabod y byd.
Byd Bach dy Hun Sioned Medi Evans
Llyfr llun a stori syml, mewn mydr ac odl, gan yr awdur a’r artist Sioned Medi Evans. Mae Byd Bach Dy Hun yn holi’r darllenwyr am ryfeddodau eu byd. Beth sydd i’w weld, pa lefydd arbennig sy’n bodoli, a pha fath o bobol a chreaduriaid sy’n byw yno?
Cer Amdani / All the Things You Will Do! Lucy Rowland
Weithiau yn y bore, rwy’n edrych arnat ti a meddwl am y pethau sy’n disgwyl amdanat ti. Dyma lyfr darluniadol hyfryd sy’n llawn gobaith a llawenydd ac sy’n dangos bod yna haul ar fryn. Gyda neges ysbrydoledig a chalonogol i helpu plant trwy helbulon bywyd. Mae’n anrheg berffaith i bob plentyn!
Diwrnod Prysur Huw Aaron
Llyfr gair a llun syml sy’n cyflwyno berfau i blant ifanc, ac yn adlewyrchu beth fyddai ‘diwrnod prysur’ i blentyn bach.
Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor Luned Aaron.
Llyfr stori-a-llun gwreiddiol, sy’n archwilio dyheadau a dychymyg plentyn. Ar bob tudalen mae’r prif gymeriad yn archwilio’r profiad o fod yn wahanol fathau o greaduriaid megis ddeinosor, pengwin, octopus neu grocodeil… ond yn fuan mae’n sylweddoli ei fod yn unigryw ac nad oes unrhyw un arall yn debyg iddo. Mae hyn yn anhygoel o arbennig!
Dwylo’n Dawnsio Elin Meek
Cyfrol i gael hwyl gyda’r plentyn bach mewn côl yw Dwylo’n Dawnsio. Mae’n cyfuno symudiadau, geiriau a chân er mwyn tanio diddordeb y plentyn bach mewn iaith. Drwy ddarluniau hyfryd Sioned Medi, mae’r cyfan yn dod yn fyw. Bydd y cyfieithiadau i’r Saesneg yn gymorth i siaradwyr newydd y Gymraeg.
Enfysawrws / Rainbowsaurus Steve Antony
Llyfr llun LGBTQ+. Dyma stori dau dad a’u tri o blant ar eu hantur i ddod o hyd i’r Enfysawrws. Maent yn cwrdd ag anifeiliaid o bob lliw a llun ar hyd y ffordd. Dyma stori berffaith o falchder a chariad i deuluoedd o bob math a maint gan yr awdur llyfrau lluniau poblogaidd Steve Antony.
Gardd Gwenno Isla McGuckin
Mae Gwenno’n byw mewn stafell lwyd, ddiflas, mewn tŷ sydd ddim yn gartref, ond mae’n breuddwydio am fywyd gwell… yn llawn mannau hapus, tawel… a rhywle i chwarae. Ond mae pob hedyn mae Gwenno’n ei blannu yn gwrthod gwreiddio, ac mae ei breuddwydion yn mynd yn bellach o’i chyrraedd.
Y Lleidr Lliwiau Nia Morgan
Mae Y Lleidr Lliwiau yn stori hwyliog ar fydr ac odl gan yr awdur a’r cerddor Nia Morgan, gyda’r arlunwaith wedi’i baratoi gan Helen Flook.
Mi Wnei Di Lwyddo, Tyrone! / You Can Do Anything, Tyrone! Sir Lenny Henry
Mae Tyrone am adeiladu roced wych a mynd i’r Lleuad! Ond mae un broblem fach mae’n anoddach na’r disgwyl. Diolch byth, mae Taid wrth law i ddweud wrtho y gall LWYDDO, gydag ychydig o ddewrder a dychymyg. Dyma antur hwyliog mewn mydr ac odl gan y comedïwr, actor ac awdur penigamp, Lenny Henry.
Shwshaswyn Nia Jewell, Sïan Angharad
Dewch i gwrdd â Fflwff, Seren a Capten wrth iddyn nhw ymlacio yn yr ardd. Llyfr lliwgar gyda stori sy’n dysgu plant bach am yr ardd, am anadlu ac ymlacio, ac am ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’n dilyn patrwm y gyfres deledu Shwshaswyn sy’n rhan o arlwy Cyw ar S4C.
Supertaten yn Cyflwyno Jac A’r Goeden Ffa Sue Hendra a Paul Linnet
Mae’n amser sioe yn yr archfarchnad wrth i Supertaten a’r llysiau lwyfannu eu cynhyrchiad eu hunain o ‘Jac a’r Goeden Ffa’, gyda’r Bysen Gas yn serennu fel Jac a Supertaten fel mam Jac! Fydd ffa Jac yn dod â chyfoeth anhygoel iddo? Fydd Jac a Supermam yn gallu dianc rhag y cawr dychrynllyd? Rhaid i ti ddarllen y stori…
Sut Wyt Ti, Bwci Bo? / How Are You, Bwci Bo? Joanna Davies
Yn y stori newydd hon mae’r bwystfilod bach drygionus, y Bwci Bo, yn ymdopi â gwahanol emosiynau bywyd bob dydd yn eu ffordd unigryw eu hunain. Beth sy’n peri ofn iddynt? Beth sy’n eu gwneud yn hapus? Beth sy’n digwydd pan nad oes un lolipop ar ôl? Yn llawn dop o odlau a hwyl a sbri. Dyma ganllaw lliwgar i blant bach, i’w helpu i ddeall a rheoli’u teimladau yng nghwmni’r Bwci Bo.
Twm y Llew: Y Diwrnod Perffaith John Likeman
Mae Siôn a Cadi’n galw heibio cartref Twm. Mae Cadi wedi derbyn bocs paent ar ei phen-blwydd ac mae Siôn yn ei dysgu sut i beintio. Mae’r gyfres hon yn hybu llythrennedd, lles ac iechyd meddwl da, gan ddilyn y model Pum Ffordd at Les. Llyfr llafar a gweithgareddau ar gael ar lein am ddim.
Tymhorau Byd Natur Luned Aaron
Mae byd natur yn newid wrth i wanwyn droi’n haf, ac wrth i haf droi’n hydref. Pa greaduriaid a phlanhigion sydd i’w gweld ar adegau gwahanol o’r flwyddyn? Tro’r tudalennau i ddarganfod, cyn mentro allan am dro i weld mwy!
Yn Debyg Ond Gwahanol / The Same but Different Too Karl Newson
Fi yw fi, a ti wyt ti. Ond er mor debyg, nid ti ydw i. Dyma ddathliad o’r holl bethau doniol a hyfryd sy’n gwneud pob un ohonon ni yn ‘ni’.