Darllenwyr Cynnar 2024
ABC yr Opera: Academi Benwan y Cyfansoddwyr – Clasurol Mark Llewelyn Evans
Ar drip ysgol i’r Amgueddfa Hanes Cenedlaethol yn Llundain, mae Jac a Megan yn cyfarfod eu hen ffrind, Cist. Mae’r tri yn mynd ar wib yn ôl i Academi Benwan y Cyfansoddwyr ac i ddinasoedd Salzburg, Fienna a Pharis, gan fentro ar antur arall i fyd yr opera – i’r Cyfnod Clasurol (1750-1820).
Yr Allwedd Amser Ben Hillman
Mae Nefyn a Trefor yn darganfod allwedd sy’n agor drysau i lefydd anhygoel, ac yn camu i antur fwyaf eu bywydau. Mae’r bydysawd ac amser ei hun yn y fantol – a Nefyn a Trefor ydi’r arwyr lleiaf addas i’r dasg! Ydy’r ffrindiau dewr yn gallu atal y byd rhag cael ei rwygo’n ddarnau? Mae’r cloc yn tician… Nofel graffig llawn antur, hiwmor a gwaith celf anhygoel.
Cant a Mil o Freuddwydion Rhiannon Lloyd Williams
Cyfrol wreiddiol Gymraeg, llawn lliw, yn cynnwys 10 stori amrywiol gan gynnwys parot sy’n methu chwibanu, llyfr sy’n llyncu athrawes, merch sy’n trio achub y byd yn erbyn plastig, bachgen sy’n gwneud ffrind anarferol iawn ar drip ysgol… a llawer mwy!
Celt y Ci Rhiannon Wyn Salisbury
Mae Celt y Ci yn byw yn Fferm y Ffridd. Mae e’n hoffi chwarae gyda’r gath a’r iâr ar glos y fferm. Llyfr 1 mewn cyfres o straeon digri a hwyliog i blant sy’n dechrau darllen wedi eu gosod ar fferm ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru.
Cyfres Lego: Lego 100 Ffordd i Adeiladu Byd Gwell Helen Murray
Dydych chi byth yn rhy ifanc i newid y byd! Darganfyddwch 100 syniad hwyliog i fod yn garedig ac i rannu llawenydd yn y byd o’ch cwmpas. Byddwch yn greadigol gyda briciau LEGO® a chewch eich ysbrydoli i ofalu am eraill, eich hunan a’r blaned. Cynlluniwch gerdyn diolch i gymydog neu ras lego, emoji LEGO i wneud i ffrind wenu, plannwch flodau sy’n garedig i wenyn a llawer, llawer mwy!
Cymry o Fri! Jon Gower
Cyfrol sy’n cloriannu hanes 50 o enwogion o Gymru, sy’n dod o wahanol gyfnodau mewn hanes. Yn ogystal â lluniau Efa Lois, bydd ffotograffau, yn ogystal ag ambell gwestiwn ar ffurf cwis, a chyfle i’r plant wneud gwaith ymchwil ar y we.
Cynffonnau Cadno a’i Fab Paddy Donnelly
Teiliwr cynffonau yw tad Caio’r Cadno. Y GORAU yn y busnes. Daw anifeiliaid o bob cwr ato er mwyn cael cynffon ganddo. Mae Caio’n helpu yn y siop ond mae’n diflasu ar greu yr un hen gynffonau. Mae ganddo’i syniadau ei hun ar sut i wneud cynffonau mwy cyffrous…
Dere i Dyfu Adam Jones
Llyfr lliwgar, llawn ffeithiau a lluniau i helpu plant dan 7 oed i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau. Dangosir hefyd sut i ofalu am yr ardd, yng nghwmni dau gymeriad bach hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga. Mae Adam Jones yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae’n postio cynghorion garddio dan yr enw @adamynyrardd. Llyfr arbennig i bob plentyn.
Enwogion o Fri: Ann – Bywyd Disglair Ann Griffiths Menna Machreth
Cyfrol yng nghyfres ‘Enwogion o Fri’ am y bardd o emynydd Ann Griffiths (Nansi Dolwar). Pwrpas y gyfres yw goleuo plant Cymru am gyfraniad unigolion o Gymru i’n diwylliant, a hynny mewn nifer o feysydd amrywiol. Dyma gyflwyniad clir am gyfraniad gwerthfawr Ann Griffiths i’n diwylliant fel bardd ac emynydd.
Enwogion o Fri: Gwen – Bywyd Lliwgar Gwen John Casia Wiliam
Dyma hanes merch ifanc oedd wrth ei bodd yn peintio’r byd o’i chwmpas. Er llawer o rwystrau, llwyddodd i wireddu ei breuddwyd i fod yn artist, ac erbyn hyn, caiff ei hystyried yn un o artistiaid pennaf Cymru. Cyflwynir stori ysbrydoledig Gwen John gyda thestun clir a delweddau prydferth a thyner. Stori berffaith i’w darllen yn uchel neu ar gyfer darllenwyr newydd.
Genod Gwych a Merched Medrus 2 Medi Jones-Jackson
Ail gyfrol am fwy o ferched sy’n ysbrydoli merched a bechgyn Cymru. Dyma arwresau o Gymru, sydd wedi llwyddo yn eu meysydd arbenigol: Vulcana, Ann Pettitt, Cranogwen, Lowri Morgan, Mary Vaughan Jones, Rachel Rowlands, Margaret Haig Thomas, Annie Atkins, Mary Quant, Shirley Bassey, Lucy Thomas a Meena Upadhyaya. Cyfrol llawn hwyl, yn lliwgar ac yn ddeniadol i’r llygad.
Guto a Dreigiau’r Nos Caryl Lewis
Mae Guto’n breuddwydio am ddreigiau. Mae rhai yn ffyrnig ac yn llachar a rhai yn addfwyn ac yn dawel, ac maent oll yn cadw cwmni iddo drwy’r nos a’r diwrnod wedyn. Ond y broblem yw, does neb arall yn gallu gweld dreigiau Guto. Oes e? Llyfr lluniau hardd sydd â stori’n cyfleu neges annwyl, lawn cysur, ac yn dathlu’r dychymyg, a’r ymdeimlad o fod yn wahanol.
Gwil Garw a’r Carchar Crisial Huw Aaron
Cyn hanes, cyn y chwedlau, roedd…GWIL GARW! Ei swydd: i gadw trefn ar greaduriaid hudolus y Sw Angenfilod. Y broblem: Does dim diddordeb o gwbl gyda Gwil mewn heddwch. Wedi i’w dymer a’i chwilfrydedd roi’r byd mewn perygl, mae’n rhaid i Gwil, rywsut, ffeindio ffordd i wella pethau, mewn antur epig, llawn hiwmor a rhyfeddodau.
Llanddafad Gareth Evans-Jones
Dewch i gwrdd â Bet, brenhines y defaid, Enfys, y ddafad amryliw, Seren, y ddafad lawn steil, Tomos Tatws, Mari fach, a llawer mwy! Mae 12 stori yn y gyfrol hon, pob un yn canolbwyntio ar fis o’r flwyddyn, ac felly mae digon o amrywiaeth pynciau sy’n mynd â‘r plentyn drwy’r flwyddyn ym myd fferm o ddefaid.
Merch y Mêl Caryl Lewis
Dyma gyfrol hardd arall gan Caryl Lewis a Valériane Leblond, yn dilyn llwyddiant Sgleinio’r Lleuad a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Tir na n-Og 2015. Mae Elsi’n byw gyda’i mam-gu, sy’n gofalu ar ôl gwenyn. Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy’n digwydd yn yr ardd yn ystod y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.
Mira a’r Trip Ysgol Luned Aaron
Yr ail yn y gyfres newydd sbon gan yr awdur Luned Aaron. Y tro hwn, mae Mira yn gorfod ymdopi â sefyllfa hollol newydd yn yr ysgol – treulio noson i ffwrdd o gartref wrth iddi hi a’i chyd-ddisgyblion fynd ar drip deuddydd! Mae’r stori hon wedi’i hanelu at blant 7 oed a throsodd.
Mynydd i’w Ddringo Myrddin ap Dafydd, Huw Aaron
Dyma ni, trip yr Adran Iau. Mae bag ar bob cefn, cap neu ddau, mynydd o’n blaenau a’r gair mawr ydi MWYNHAU! Ie, taith gerdded Dosbarth Dau, ond ydyn nhw’n mwynhau? Cyfrol o ddarluniau gan Huw Aaron yn seiliedig ar gerdd ddigri gan Myrddin ap Dafydd.
Na, Nel! yn Achub y Byd! Meleri Wyn James
Sut all merch ysgol ddireidus fel Nel achub y byd? Mae Nel yn llawn syniadau fel arfer, a phan mae’n deall bod yna gynllun dieflig ar droed, mae’n mynd ar antur i ddod o hyd i’r bwystfil sy’n benderfynol o ddinistrio’r blaned. Yn ogystal â stori, a lluniau lliw gan yr artist John Lund, mae’r llyfr yn llawn cyngor a syniadau am sut y gall plant wneud eu gorau i ofalu am y blaned.
Nos Da, Fferm y Ffridd Rhiannon Wyn Salisbury
Mae’n nos yn Fferm y Ffridd. Ond dydy pawb ddim yn cysgu. Beth yw’r sŵn mawr? Llyfr 5 mewn cyfres o straeon digri a hwyliog i blant sy’n dechrau darllen wedi eu gosod ar fferm ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru.
Tricsi a Dicsi Gwyn Morgan
Daw pob math o helyntion a throeon trwstan i ran Ow a Dicsi a Bopa Tricsi wrth iddyn nhw deithio o Decsas bell i Gaerdydd am wythnos o wyliau. Mae Sharon wrth eu bodd yn cael cwmni ei modryb a’i hewythr hynod,ond a fydd Dad yn medru cadw ei dymer am wythnos gyfan, tybed?
Y Wariar Bach Leisa Mererid
Mae dilyn ioga ac ymarferion anadlu yn mynd â Miri ar antur i ymweld ag anifeiliaid o bob math o gwmpas y byd. Dyma ddilyniant i Y Goeden Ioga, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn mewn ysgolion cynradd.