Casgliad Iau
Dewch ar daith hudol o ryfeddod a darganfod o draethau tawchaidd hyd foroedd rhewllyd. Mae’r stori brydferth hon am gyfeillgarwch rhwng plentyn a morfil yn ein gwahodd i ystyried ein cyfrifoldeb tuag at yr amgylchfyd, a cheir ynddi ble uniongyrchol am weld diwedd ar lygredd plastig.
Mae’r hadau yn barod i’w hau o’r pecynnau, bydd heulwen a glaw yn eu troi yn ffrwythau! Wrth wthio, tynnu, troi a llithro, daw’r planhigion prysur yn fyw.
Fe awn ni â‘n plastig, bin cardfwrdd a’n tuniau a’u hailgylchu bob tro yn y biniau. Wrth wrthio, tynnu, troi a llithro daw’r stori yn fyw.
Beth am fynd ar daith i’r gofod! Defnyddia’r llabedi gwthio, tynnu a llithro er mwyn tanio roced i’r awyr, trwsio’r Orsaf Ofod Rhyngwladol, a darganfod sut yn y byd mae gofodwyr yn mynd i gysgu. Gyda ffeithiau cryno ar bob tudalen, a phethau difyr i’w gweld, dyma gyfrol hwyliog i helpu plant bach i ddod i wybod am waith gofodwr. Addasiad Cymraeg gan Non Tudur.
Bydd archwilwyr bychain wrth eu bodd yn darganfod rhyfeddodau’r byd o’u cwmpas. Dewch o hyd i’r creaduriaid, y blodau, y coed a’r bobl sy’n mwynhau yn eu parc lleol!
Addasiad Gruffudd Antur o un o lyfrau stori David Walliams. Mae Heulwen eisiau bod yr Hipo cyntaf ar y Lleuad. Ond tybed pwy fydd yn cyrraedd gyntaf? Heulwen neu Caswallon ap Cynfelyn ap Cadwaladr? Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2015.
Blodwen yw’r ddafad fwyaf poblogaidd yn y praidd … ond mae rhywbeth amdani sydd ychydig bach yn wahanol. Stori ddoniol iawn am gamadnabod a derbyn. Addasiad Cymraeg gan Elin Meek ynghyd â‘r testun Saesneg gwreiddiol.
Ydy draig wir yn gallu dysgu rhannu? Mae Cochen yn ddraig dda iawn. Mae hin dilyn pob un o Reolaur Dreigiau: mae hin dwyn oddi wrth BAWB, ac mae hin gwrthod rhannu ei thrysor â NEB. Maer anifeiliaid eraill yn dechrau cael llond bol go iawn. Petaen nhw ond yn gallu newid Rheolaur Dreigiau. Stori wych am bwysigrwydd rhannu ac am werth cyfeillgarwch.
Mae’r llyfr hwn yn arbennig oherwydd mae’n sbarduno diddordeb mewn gwyddoniaeth, trwy gyfrwng y darluniau a’r ffeithiau am y gofod. Datblygir sgiliau cynnar mewn mathemateg drwy’r ymarferion cymharu a chysylltu, a gwneir darllen yn antur, gyda Peppa Pinc a’i ffrindiau. Addasiad Cymraeg gan Lowri Head o Peppa in Space.
Mae Owain yn fachgen sy’n colli popeth. Mae Hefin yn eliffant sy’n cofio popeth. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffrindiau gorau, tan i Owain, un diwrnod, golli rhywbeth pwysig iawn … ei dymer. Stori dwymgalon am gyfeillgarwch, anghytuno a chymodi. Testun dwyieithog gyda’r cyfieithad Cymraeg gan Elin Meek.
Gwenni ydy’r iac lleiaf yn yn y byd efo carnau bach sy’n glynu pan fydd hi yn dringo yn uchel i fyny. Ydy hi’n hapus? Na! Mae hi ishio bod yn fawr a hynny ar unwaith – Ddim fory, Ond NAWR! Ond mae rhywbeth does neb ond Gwenni’n gallu ei wneud.
Stori hyfryd, newydd, addas i blant hyd at 7 oed, am ddiwrnod ym mywyd teulu’r Tedis annwyl. Roedd hi wedi bod yn noson hir … felly dihunodd Mr a Mrs Tedi yn hwyr. Mae Hen Ddiwrnod Bach Diflas yn stori ysgafn am ddiwrnod teuluol y bydd rhieni a phlant ymhobman yn ei adnabod.
Os bydd unrhyw drychfilyn mewn helynt neu drwbwl daw Lifia Ann O’Hwligan i’w helpu ar y dwbwl! A nawr mae’r gwenyn mewn perygl o golli eu cartref! Gyda dim ond ei chwyddwydr hud, a fydd Lifia yn llwyddo i helpu ei ffrindie rhag colli eu cartref? Dewch i weld! Ar dudalennau blaen a chefn y llyfr hwn, fe ddewch chi ar draws ffeithiau syfrdanol am drychfilod o bob lliw a llun.
Dim slefren fôr yw Llŷr o gwbwl. Dydych chi rioed wedi gweld slefren fôr fel Llŷr. Addasiad Cymraeg gan Gwynne Williams o Somebody Swallowed Stanley gan Sarah Roberts.
Stori am ferch sy’n tyfu i fyny mewn dinas o dyrau â phawb yn treulio pob dydd yn adeiladu eu tyrau yn uwch ac yn UWCH. Ond mae’r ferch fach yn cwestiynu’r drefn ac yn dyheu am rywbeth mwy. Stori gyda neges bositif, gadarnhaol wedi ei dweud mewn ffordd dyner gyda lluniau ysgafn a hiwmor arferol Huw Aaron.
Mae Albert y crwban anwes yn cael antur. Rhaid iddo herio deinosoriaid enfawr a llosgfynydd tanllyd. Yna, yn ôl yn yr ardd, rhaid iddo helpu ei ffrindiau bach sydd â‘u trafferthion eu hunain.
Dydyr Smis coch ar Smws glas byth, byth yn cael bod yn ffrindiau … ond beth wnân nhw pan fydd un Smi ac un Smw yn syrthio mewn cariad? Addasiad Cymraeg gan Gwynne Williams o The Smeds and the Smoos.
Un tro, roedd hwyaden nad oedd yn hoffi dŵr. Ond yna, dyma’r hwyaden yn cwrdd â broga a oedd yn hoffi dŵr. Beth ddylai’r hwyaden ei wneud? Stori annwyl, hyfryd o sylwgar am ddod o hyd i gyfaill, hyd yn oed os oes rhaid wynebu ofnau wrth wneud hynny. (Ac mae’n stori am drwsio twll yn y to.)
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n nabod pob uncorn rydych chi ar fin cael sioc! DYDW I DDIM YN DEBYG I UNRHYW UNCORN ARALL. Ydw i’n hoffi gwenu’n dlws? Nac ydw. Actio’n neis? Pwy fi? Pethe pinc? Ych a fi! A PHEIDIWCH Â SÔN AM BW POB LLIW Rydyn ni i gyd yn hoff i pethe gwahanol, Ond does dim ots, nag oes? Rydyn ni’n dal yn gallu bod yn ffrindie!
Ymuna â Hwyaden a Ceffyl Pitw i chwilio am y pasta mwyaf lletchwith ohonyn nhw i gyd . . . Sbageti! Testun dwyieithog gyda’r addasiad Cymraeg gan Elin Meek.
Croeso i siop lyfrau HYNOD IAWN! Mae’n lle llawn straeon, sawl antur ac, wrth gwrs, dyma gartref cath go arbennig. Mae’n stori am sut y daeth y Siop Llyfrau Plant yn lle prysur, llawn egni, diolch i deulu o gathod, cynllun gwych, a silffoedd di-rif o lyfrau. Dewch i mewn! Addasiad Cymraeg o The Bookshop Cat.
Beth sy’n byw yn yr ardd lysiau? Rho olau y tu ôl i’r dudalen, a dod o hyd i fyd bach yn llawn o ryfeddodau mawr! O godau pys sy’n agor i fwydod gwinglyd, bydd rhyfeddodau cudd y byd prysur hwn yn dod i’r golwg.
Rhan o gyfres hwyliog i’r cyfnod sylfaen am y byd gwyrdd ac ailgylchu yn greadigol. Mae hi’n haf ar bawb yn Wenfro ac mae’n amser i Glanwen y ddafad gael ei chneifio!