Skip to content

1,046,182 books read so far

Croeso i Sialens Fach y Gaeaf 2022!

Croeso i Sialens Fach y Gaeaf 2022!

Croeso i Sialens Fach y Gaeaf 2022! image

Croeso i Sialens Fach y Gaeaf 2022!

Eleni, ymunodd yr Asiantaeth Ddarllen â Grŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf wych gyda’r Teclynwyr.

Nawr rydyn ni’n ôl ar gyfer Sialens Fach y Gaeaf!

Ymunwch â’r Teclynwyr wrth iddynt ddefnyddio eu dyfeisgarwch a’u creadigrwydd i ddiddanu pawb yn ystod storm eira.

Paratowch ar gyfer arbrofion cŵl gallwch wneud adref a’r gweithgareddau darllen gorau o gwmpas wrth i chi gwblhau eich Sialens Fach Gaeaf eich hun.

Swnio’n wych! Sut ydw i’n cymryd rhan?

Mae cymryd rhan yn Sialens Fach y Gaeaf yn syml: y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw darllen o leiaf tri llyfr rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 20 Chwefror 2023.

Gallwch ddewis unrhyw lyfrau rydych chi’n eu hoffi – llyfrau ffeithiol, ffuglen, llyfrau jôcs, llyfrau lluniau, e-lyfrau, llyfrau sain – chi biau’r dewis!

Unwaith y byddwch wedi darllen llyfr, ychwanegwch ef at broffil eich gwefan ac ysgrifennwch adolygiad i roi gwybod i bawb beth oedd eich barn.

Ychwanegwch 3 llyfr neu fwy i gwblhau Sialens Fach y Gaeaf a datgloi tystysgrif newydd sbon A bathodyn rhithwir cyfyngedig!

Mae gennym Gofnod Darllen hwyliog i chi ei argraffu a nodi eich hoff ddarlleniadau gaeafol. Cofiwch cofnodi eich llyfrau ar-lein i ddatgloi gwobrau rhithwir hefyd!

CLICIWCH YMA i gael eich un chi!

Dechrau arni

Os nad oes gennych broffil eto, mae’n hawdd cael un: tapiwch y botwm ‘Ymuno’ ar frig y dudalen hon i gofrestru.

Os ydych yn ymuno â ni am y tro cyntaf, bydd angen rhiant neu ofalwr arnoch i’ch helpu.

Eisoes wedi cofrestru? Mewngofnodwch a tapiwch y botwm ‘Fy Sialens’ i ymweld â’ch tudalen proffil personol.

Defnyddiwch eich tudalen broffil i raddio ac adolygu eich llyfrau, cadwch olwg ar lyfrau rydych chi am eu darllen yn y dyfodol, a gweld eich holl fathodynnau a gwobrau.

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif trwy gydol y flwyddyn i gofnodi’ch gweithgaredd darllen a chymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf a Sialens Fach y Gaeaf!

Dod o hyd i lyfrau i’w darllen

Gallwch ddefnyddio unrhyw lyfrau yr hoffech chi i gwblhau Sialens Fach y Gaeaf.

Dyma’ch cyfle i blymio yn ôl i’n Casgliad Llyfrau Teclynwyr anhygoel – paratowch i gael eich diddori gan ffeithiau hwyliog a chael eich ysbrydoli gan chwedlau dyfeisgar gyda’r ystod enfawr hon o argymhellion. Mae’n siŵr bod yna lyfr perffaith i chi!

Ewch i’ch llyfrgell gyhoeddus leol neu lyfrgell eich ysgol i fenthyg llyfrau am ddim. Gallwch hefyd fenthyg llyfrau ar-lein – ewch i wefan eich llyfrgell leol i ddod o hyd i eLyfrau a llyfrau sain.

Edrychwch ar Chwiliwch am Lyfr am ragor o awgrymiadau.

Sut i lawrlwytho’ch tystysgrif

Unwaith y byddwch wedi cwblhau Sialens Fach y Gaeaf, ewch i’ch proffil a thapio’r botwm pinc ‘Fy Ngwobrau’.

Tapiwch ar y bathodyn Arwr i weld eich tystysgrif. Gallwch lawrlwytho copi i’w gadw a’i argraffu.

Stwff hwyl

Postiwch neges yn Sgwrsio a rhannwch eich awgrymiadau Sialens Fach y Gaeaf. Oes gennych chi hoff awdur newydd? Ydych chi eisiau i rywun rannu eu hoff lyfr?

Edrychwch ar y Llwythwr Llyfrau i weld pa lyfrau y mae darllenwyr eraill yn eu caru.

GWYLIWCH fideos gan awduron a darlunwyr – dysgwch am lyfrau newydd a chael yr hwb hwnnw o anogaeth i ddal ati i ddarllen!

Beth am gwblhau Gweithgareddau gyda’ch ffrindiau neu deulu a darganfod cystadlaethau newydd.

Chwarae Gemau o heriau’r gorffennol.

Dilynwch Sialens Ddarllen yr Haf Facebook am fwy o ddiweddariadau – cadwch lygad am arbrofion Grŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth a llawer mwy.

Darllen hapus!

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy