Skip to content

1,046,224 books read so far

Barod i fynd yn WIRION!

Posted by: parents-and-carers

Barod i fynd yn WIRION!

Mae Sialens Darllen yr Haf yn ôl gyda’r Sgwad Gwirion!

Mae hi bron yn amser ar gyfer Sialens Darllen yr Haf eleni ac ar gyfer 2020, mae popeth yn ymwneud â llyfrau doniol, hapusrwydd a chwerthin!

Criw o anifeiliaid ydy’r Sgwad Gwirion, yn ffrindiau sy’n mwynhau anturiaethau ac yn canfod eu ffordd trwy bob math o lyfrau doniol. Eleni, mae ein Sialens yn cynnwys cymeriadau arbennig iawn a ddyluniwyd gan yr awdur a’r darlunydd arobryn, Laura Ellen Anderson – fe fyddwch yn ei adnobod am rhai o’i llyfrau megis Amelia Fang ac Evil Emperor Penguin!

Fe gewch ymuno â’r Sgwad Gwirion ar antur newydd trwy osod eich sialens darllen personol i’w gwblhau’r haf hwn. Bydd ein llwyfan ar-lein newydd yn eich helpu i gadw cofnod o’ch llyfrau, adolygiadau a’r gwobrwyon fyddwch yn eu datgloi ar hyd y ffordd.

Fel arfer, fe fydd ganddon ni lwyth o awgrymiadau am lyfrau gwych ichi gael dechrau, a syniadau am sut i ddal ati i ddarllen hyd yn oed pan fo ysgolion a llyfrgelloedd ar gau. Fe fydd ganddon ni hefyd lwyth o weithgareddau, cwisiau, fideos, gemau gwirioneddol wirion a mwy i’ch difyrru chi gartref!

Mae’r Sgwad Gwirion yn dechrau’n swyddogol ar Fehefin 5, 2020.

Cadwch olwg allan ar y wefan hon am newyddion diweddaraf Sialens Darllen yr Haf, gan gynnwys manylion ein parti lansio llawn hwyl anhygoel!

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy