Croeso i Sialens Fach y Gaeaf 2020!
Rydyn ni wedi ymuno â ‘Knights Of’ i ddod â gwobrau darllen arbennig ychwanegol i chi’r gaeaf hwn.
Eleni, “Mae pawb yn Arwr”! Mae Sialens Fach y Gaeaf yn ymwneud â darganfod arwyr mawr a bach, trwy ddarllen llyfrau gwych!
Bydd rhai o’n hoff arwyr yn ymuno â ni o lyfrau fel Knights and Bikes, High-Rise Mystery a’r gyfres Run.
Swnio’n wych! Sut mae cymryd rhan?
Mae cymryd rhan yn Sialens Fach y Gaeaf yn syml: y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw darllen o leiaf dri llyfr rhwng dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020 a dydd Gwener 15 Ionawr 2021.
Ar ôl i chi ddarllen llyfr, ychwanegwch ef at eich proffil ar y wefan ac ysgrifennwch adolygiad er mwyn gadael i bawb wybod beth oeddech chi’n ei feddwl.
Ychwanegwch 3 llyfr (neu fwy) i gwblhau Sialens Fach y Gaeaf a dod yn Arwr Darllen!
Mae yna dystysgrif newydd sbon A bathodyn rhithwir cyfyngedig i bob Arwr Darllen sy’n cwblhau’r Sialens Fach.
Pethau pwysig
Mae Sialens Fach y Gaeaf yn cychwyn ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020 ac yn gorffen ddydd Gwener 15 Ionawr 2021.
Gallwch ddewis unrhyw lyfrau yr ydych yn eu hoffi – llyfrau ffeithiol, ffuglen, llyfrau jôc, llyfrau lluniau, e-lyfrau, llyfrau llafar – chi sydd â’r dewis!
Bob tro y byddwch chi’n gorffen llyfr, ychwanegwch ef i’ch tudalen proffil personol ar y wefan hon. Ychwanegwch o leiaf dri llyfr i’ch proffil cyn i’r Sialens Fach ddod i ben er mwyn datgloi’ch gwobrau.
Ewch i’ch tudalen proffil a gwasgu’r botwm ‘Ychwanegu llyfr at eich proffil’ i gofnodi’ch llyfrau. Gallwch chi roi sgôr hyd at 5 ac ysgrifennu adolygiad er mwyn gadael i bawb wybod beth oeddech chi’n ei feddwl.
Dechrau arni
Os nad oes gennych broffil eto, mae cael un yn hawdd: gwasgwch y botwm ‘Ymuno’ ar frig y dudalen hon i arwyddo.
Os ydych chi’n ymuno â ni am y tro cyntaf, bydd angen rhiant neu ofalwr arnoch chi i’ch helpu chi.
Eisoes wedi arwyddo? Mewngofnodwch a gwasgu’r botwm ‘Fy Sialens’ i ymweld â’ch tudalen proffil personol.
Defnyddiwch eich tudalen proffil i raddio ac adolygu’ch llyfrau, cadw golwg ar lyfrau rydych chi am eu darllen yn y dyfodol, a gweld eich holl fathodynnau a’ch gwobrau.
Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif trwy gydol y flwyddyn i gofnodi’ch gweithgaredd darllen a chymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf a Sialens Fach y Gaeaf!
h3. Dod o hyd i lyfrau i’w darllen
Gallwch ddefnyddio unrhyw lyfrau yr ydych yn eu hoffi i gwblhau Sialens Fach y Gaeaf.
Ewch i’ch llyfrgell gyhoeddus leol neu lyfrgell eich ysgol i fenthyg llyfrau am ddim.
Gallwch hefyd fenthyg llyfrau ar-lein – ewch i wefan eich llyfrgell leol i ddod o hyd i e-lyfrau a llyfrau llafar.
Edrychwch ar ein tudalen Dod o Hyd i Lyfr i gael mwy o awgrymiadau.
Lawrlwytho’ch tystysgrif
Ar ôl i chi gwblhau Sialens Fach y Gaeaf, ewch i’ch proffil a gwasgwch y botwm ‘Fy Ngwobrau’.
Gwasgwch ar y bathodyn Arwr i weld eich tystysgrif. Gallwch lawrlwytho copi i’w gadw a’i argraffu.
h3. Stwff hwyl
Postiwch neges yn Sgwrsio a rhannwch eich awgrymiadau Sialens Fach y Gaeaf. Pwy yw eich Arwr Darllen?
Edrychwch ar y Llwythwr Llyfrau i weld pa lyfrau mae darllenwyr eraill yn eu caru.
Darllen Difyr, Arwyr!