Sgrambl Caerwyllt
Ydych chi’n feistr posau?
I ddathlu thema Arwyr y Byd Gwyllt eleni, rydyn ni’n rhyddhau gêm newydd sbon – Sgrambl Caerwyllt!
I chwarae, mae angen i chi gwblhau tri phos gwahanol o’r arwyr. Tapiwch unrhyw deilsen i’w symud i’r lle gwag i weld a allwch ddadsgramblo’r llun. Po gyflymaf y byddwch chi’n cwblhau’r posau, yr uchaf fydd eich sgôr.
Mae pob pos ychydig yn wahanol bob tro rydych chi’n chwarae, sy’n golygu y gallwch chi chwarae dro ar ôl tro.
Oes gennych yr hyn sydd ei angen i gyrraedd y bwrdd arweinwyr?