Dewch i Adnabod ein Harwyr: Marcus a Jac (Marcus and Charlie)
Dyma gyflwyno Marcus a Jac!
Mae Marcus yn byw ar fferm ei deulu ac yn helpu yn eu caffi. Mae e wrth ei fodd yn coginio a gallwch chi bob amser ddibynnu arno i wneud teisenni pen-blwydd hyfrydol i’w ffrindiau i gyd.
Bydd e’n treulio llawer o amser yn yr awyr agored gyda’i ffrind Jac y ji-binc. Maen nhw’n hoffi darllen dan gysgod y coed ffrwythau sy’n tyfu ar y fferm. Mae Marcus a Jac yn gwybod bod angen i’r coed gael eu peillio er mwyn i’r ffrwythau dyfu, ac i wneud hynny mae eisiau gwenyn! Y cwbl y mae angen iddyn nhw ei ddyfeisio nawr yw ffordd o ddenu mwy o wenyn i’r ardal…
Ymunwch â Marcus a Jac yn eich llyfrgell yr haf yma ar gyfer Arwyr y Byd Gwyllt!
Allwch chi eu helpu nhw i blannu blodau sy’n denu gwenyn a mynd yn arwr byd gwyllt eich hun?