Dewch i Adnabod ein Harwyr: Faiza a Llygoden (Faiza and Mouse)
Dewch i gwrdd â Faiza a’i ffrind gwych Llygoden!
Mae Faiza’n hoffi chwarae gemau electronaidd, codio a gwneud fideos am y materion sy’n effeithio ar ei chymdogaeth. Bydd ei chath hi, Llygoden, fel arfer yn serennu ynddyn nhw! Mae Faiza am helpu ei ffrindiau a’i hathrawon i gael hyd i ffyrdd eraill o gyrraedd yr ysgol heblaw gyrru.
Mae Faiza a Llygoden wrth eu bodd hefyd yn cwtsio i wrando ar lyfr llafar ffuglen wyddonol gyda’i gilydd.
Ymunwch â Faiza a Llygoden yn eich llyfrgell yr haf yma ar gyfer Arwyr y Byd Gwyllt!
Allwch chi eu helpu nhw i berswadio eu cyd-ddisgyblion a’u hathrawon i yrru’n llai a mynd yn arwr byd gwyllt eich hun?