Skip to content

1,046,415 Llyfr wedi’u Darllen

Cyflwyno Arwyr y Byd Gwyllt

Cyflwyno Arwyr y Byd Gwyllt

Byddwch yn barod ar gyfer Arwyr y Byd Gwyllt, a fydd ar gael ar-lein ac yn eich llyfrgell leol yr haf hwn.

Paciwch eich bagiau, rydyn ni’n mynd i Gaerwyllt!

Mae’n lle eitha’ cŵl, ond mae ‘na lawer o bethau y gall Arwyr y Byd Gwyllt eu gwneud i wneud eu tref hyd yn oed yn well i’r bobl a’r anifeiliaid sy’n byw yno.

Ymunwch ag Arwyr y Byd Gwyllt ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf a darganfyddwch sut allwch chi wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd hefyd.

Rydym am weithio mewn partneriaeth â WWF ar gyfer Sialens natur arbennig iawn a fydd yn eich ysbrydoli i wneud safiad dros y blaned!

Bydd Arwyr y Byd Gwyllt yn cynnwys llyfrau anhygoel, gwobrau gwych, a digon o syniadau ar sut i ofalu am ein hamgylchedd.

Ydych chi’n teimlo’n gyffrous am ymuno ag #ArwyryBydGwyllt yr haf hwn?