Dewch i Adnabod ein Harwyr: Callum a Siwan (Callum and Shelby)
Dyma gyflwyno Callum a Siwan!
Ym Mae Caerwyllt gyda Siwan y cranc meudwy y bydd Callum i’w gael fel arfer. Mae’n mwynhau unrhyw beth sy’n ymwneud â’r traeth, boed hynny’n frigdonni, nofio neu chwilota mewn pyllau trai!
Mae Callum a Siwan hefyd yn frwd iawn dros amddiffyn y traeth. Maen nhw’n hoffi trefnu criwiau codi sbwriel yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod yr arfordir yn lân ac yn ddiblastig. Pan nad yw Callum ar y traeth, mae’n hoffi ymgolli mewn stori antur dda.
Ymunwch â Callum a Siwan yn eich llyfrgell yr haf yma ar gyfer Arwyr y Byd Gwyllt!
Allwch chi eu helpu nhw i lanhau’r traeth a mynd yn arwr byd gwyllt eich hun?