Croeso i Holl Arwyr y Byd Gwyllt!
Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2021 bellach wedi cyrraedd! Rydym yn ysu am eich cyflwyno chi i’n harwyr gwych a’ch rhoi chi ar ben ffordd ar gyfer eich taith ddarllen!
Dewch i adnabod yr Arwyr
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu rhagor am gymeriadau’r flwyddyn hon a’u cynlluniau i sicrhau mai Caerwyllt yw’r lle gorau i fyw erioed!
Helyg a Heledd
Dafydd a Gwenallt
Faiza a Llygoden
Callum a Siwan
Carys a Caio
Marcus a Jac
Cymryd Rhan yn y Sialens
Gallwch chi gymryd rhan yn y Sialens drwy gofrestru yn eich llyfrgell leol. Fe gewch chi eich map Poster Casglu o Gaerwyllt a gallwch chi ddechrau derbyn sticeri am bob llyfr a ddarllenwch chi! Eisiau cael gwybod pa lyfrgelloedd yn eich ardal chi sy’n rhedeg y Sialens? Defnyddiwch ein Parth Llyfrgelloeddnewydd sbon.
Neu gallwch chi gymryd rhan yn y Sialens yma ar ein gwefan! Gwnewch gyfrif a dechreuwch gofnodi ac adolygu’r llyfrau yr ydych chi wedi’u darllen. Mwya’n y byd a ddarllenwch chi, mwya’n y byd o fathodynnau a gweithgareddau a ddatglowch chi!
Mae digon i’w wneud ar ein gwefan, o gemau i weithgareddau a chystadlaethau. Gallwch chi hyd yn oed siarad am eich hoff lyfrau a chymeriadau yn y lle Sgwrs.
Felly, ewch ati i ddarllen a pharatowch eich hun i fynd yn Arwr Byd Gwyllt!