Skip to content

1,046,415 books read so far

Llyfrau Lefel Ganolradd


Mae’r ddifa opera, Bianca Castafiore, yn ymweld â‘r Capten Hadog yn ei blasty yn y wlad. Y sôn yw bod y ddau am briodi, ac mae hynny’n denu’r wasg ar drywydd y stori. Wrth berfformio i’r camerâu, mae gemwaith drudfawr Castafiore yn diflannu, a phawb yn cael y bai nes i Tintin daro ar gliw mewn cantata sy’n ei arwain at y lleidr.



Mae Tintin a’i gyfeillion yn ymuno â‘r Athro Ephraim R Efflwfia yng ngwlad Syldafia. Yno mae’r Athro yn paratoi roced i deithio i’r Lleuad, ond mae grymoedd tywyll yn y cysgodion yn ceisio rheoli’r roced. Heb wybod dim am y peryglon, mae Tintin a’i ffrindiau yn paratoi ar gyfer yr antur fawr wrth i’r roced godi i lonyddwch y nos. Addasiad Cymraeg o Destination Moon.



Mae’r bradwr Dwishobodynsaix yn dipyn o ben mawr sy’n bleidiol i’r Rhufeiniaid, ac yn troi at hen ddefod y Cur Pen i drio ennill rheolaeth dros bentre Asterix. Gyda’r derwydd Gwyddoniadix wedi cael cnoc ar ei ben gan un o feini hirion Obelix, a dim diferyn ar ôl o’r ddiod hud, mae’r cyfan yn dipyn o ben tost i’r pennaeth Pwyllpendefix!



Yng nghanol storm o fellt a tharanau, mae proffwyd dirgel yn cyrraedd pentre Asterix. Gan honni y gall ddarogan y dyfodol, mae’r Galiaid yn coelio pob dim mae’n ei ddweud, ac mae ymdrechion Asterix i ddarbwyllo’i ffrindiau i weld drwy’r twyll yn ofer.



Mae Damelsa wrth ei bodd yn creu dyfeisiadau rhyfeddol. Mae hi hefyd wedi etifeddu dawn ei Nain i Ysbrydoli Ysbrydion. Ond pan fo rhyw ddihiryn yn cipio Nain, mae Damelsa’n gwybod bod gan ysbrydoli ysbrydion ran fawr i’w chwarae yn y mater. Tybed all hi ddatrys y dirgelwch hwn, ac achub Nain? Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam o Demelza and the Spectre Detectors.



Dewch yn ôl mewn amser i Gymru’r bymthegfed ganrif – cyfnod ymdrechion Glyn Dŵr i sicrhau rhyddid i Gymru. Mae Rhys a Luned am ymuno â’i ymgyrch, ond daw’r ddau wyneb yn wyneb â pheryglon. Mae Luned yn gymeriad penderfynol, ond mae ganddi ei brwydau mewnol ei hun i’w hymladd. Clasur o nofel i bob oedran.



Mae tîm ysgrifennu The Story of Space, The Story of Life a The Story of People yn cyflwyno’r llyfr cyntaf am ddyfeisiadau dynol ar gyfer plant ifanc, o ddyfeisio’r olwyn hyd at y we fyd eang! Addasiad Cymraeg gan Siân Lewis o The Story of Inventions gan Catherine Barr a Steve Williams.



Gan gyfuno hanes a gwyddoniaeth, mae’r llyfr hwn yn darlunio’r newidiadau yn hinsawdd y Ddaear, o ddechreuadau’r blaned a’i atmosffer, hyd at y chwyldro diwydiannol a gwawr peirianwaith. Caiff darllenwyr ifanc ddysgu am achosion newid hinsawdd megis ffermio ffatri a llygredd, ynghyd â‘r effeithiau y caiff newid hinsawdd ar ddynoliaeth ac anifeiliaid ar draws y byd.



Mae yn llawn o bethau anhygoel y gallwch chi eu darganfod, o arbrofion ffrwydrol i losgfynyddoedd ffyrnig, a’r cyfan yn cael ei ddatgelu mewn ffordd ddiddorol, gyffrous a wahanol iawn: mae’r llyfr hwn fel amgueddfa wyddoniaeth, cyfrifiadur a labordy fwyaf cyffrous y byd rhwng dau glawr!



Cyn y Glec Fawr doedd DIM BYD O GWBL. Dim galaethau, dim sêr, dim planedau a dim bywyd. Dim amser, dim gofod, dim golau a dim sŵn. Yna’n sydyn, 13.8 biliwn o flynyddoedd yn ôl, DECHREUODD POPETH… Mae’r stori hon am ein bydysawd wedi’i darlunio’n hyfryd ar gyfer plant iau. Addasiad Cymraeg Siân Lewis o The Story of Space.



Darganfyddwch eiriau gwyddonol pwysig yn y gwyddoniadur STEM darluniadol hwn. Wedi’i drefnu yn nhrefn yr wyddor, a phob tymor wedi’i ddarlunio gyda hiwmor a swyn, mae’r 100 cysyniad hanfodol yn siŵr o swyno darllenwyr ifanc wrth egluro diffiniadau gwyddonol, o’r Yangchuanosaurus arswydus a hyd yn oed y gwir ddiffiniad o Sero!


Stori Bywyd

Catherine Barr, Steve Williams, Siân Lewis, Amy Husband

  1. star 1
  2. star 2
  3. star 3
  4. star 4
  5. star 5


Ar y dechrau, doedd DIM BYD yn byw ar y Ddaear. Roedd yn lle poeth a swnllyd. Roedd nwy myglyd yn ffrwydro o losgfynyddoedd, a moroedd o lafa’n byrlymu dros y glob… Yna, yn nyfnder tywyll y môr, digwyddodd RHYWBETH RHYFEDDOL. Addasiad Cymraeg Siân Lewis o The Story of Life yn adrodd am ddechreuadau cyffrous bywyd ar y ddaear.



Newid Hinsawdd. Wyt ti’n gwybod beth sy’n achosi i’n planed ni gynhesu mor sydyn? Neu sut all cynhesu byd-eang arwain at dywydd eithafol? Mae Darganfod! Newid Hinsawdd yn orlawn o ffeithiau diddorol a lluniau anhygoel o’n planed sydd mewn perygl.



Cyfrol sy’n cloriannu hanes 50 o enwogion o Gymru, sy’n dod o wahanol gyfnodau mewn hanes. Yn ogystal â lluniau Efa Lois, bydd ffotograffau, yn ogystal ag ambell gwestiwn ar ffurf cwis, a chyfle i’r plant wneud gwaith ymchwil ar y we.



Nofel antur i’r arddegau cynnar – y nofel gyntaf ar gyfer yr oed yma gan awdur straeon y ditectif poblogaidd Taliesin MacLeavy. Y canolbwynt ydi bachgen mud 15 oed, Manawydan Jones, sy’n darganfod taw ei gyn-daid ydi Manawydan fab Llŷr o’r Mabinogi. Nofel hawdd i’w darllen gyda themâu dwys, yn rhoi gwedd newydd ar rai o straeon y Mabinogi i gynulleidfa ifanc.


 

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy