Skip to content

1,046,182 Llyfr wedi’u Darllen

Llyfrau Darllen Cynnar


Tylwythen deg gyfeillgar iawn yw Siriol Swyn. Ar ôl gweld hysbyseb mewn cylchgrawn ar gyfer cael ffrind drwy’r post, mae Siriol Swyn yn ysgrifennu llythyr at ei ffrind newydd. Cyn hir, mae’n darganfod bod gwyliau gwefreiddiol o’i blaen hi a’i ffrindiau gorau. Addasiad Cymraeg o Enchanted Escape.



Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five: Five To The Rescue. Stori fer gyda lluniau lliw newydd sbon. Pan mae’r Pump Prysur yn cael picnic ar lan y môr, maen nhw’n gweld oen mewn trafferth. Gyda neb arall wrth law i helpu, rhaid i’r Pump fynd ati i’w achub o’r tonnau. A fyddan nhw’n cyrraedd mewn pryd?



Mae Sara Mai yn ei hôl! Mae pob math o anifeiliaid diddorol yn sw Sara Mai, gan gynnwys neidr brin iawn. Ond pwy fyddai eisiau dwyn neidr? Stori ar gyfer darllenwyr 7-11 oed gan gyn-Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam, sy’n cynnwys 6 llun arbennig gan Gwen Millward.



Mentrwch gyda Miss Prydderch a’i dosbarth o ddisgyblion ar y carped hud i Goedwig y Tylluanod lle cewch weld rhyfeddodau, ond peidiwch, da chi, ag edrych i fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma’r teitl cyntaf mewn cyfres o dair nofel am yr athrawes anghyffredin, Miss Prydderch. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2018.



Stori am TRIO, grwp o ffrindiau sy’n caru antur ac sy’n benderfynol o achub y byd – wel, Cymru o leia’! Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!


Addewid, Yr

Nicola Davies, Laura Carlin, Mererid Hopwood

  1. star 1
  2. star 2
  3. star 3


Mae lleidr ifanc yn cipio bag hen wraig, a chaiff ei gorfodi i wneud addewid. Dyma ddechrau taith a fydd yn newid popeth am byth. Wedi’i ysbrydoli gan y gred bod perthynas â natur yn hanfodol i bob bod dynol, a bod angen i ni nawr, yn fwy nag erioed, adnewyddu’r berthynas honno, stori darganfyddiad hudolus yw Yr Addewid i gyffwrdd â chalon a dychymyg pob darllenydd.



Gwyddoniadur PWYSIG iawn ar gyfer ymchwilwyr ifanc sydd eisiau plymio i’n moroedd rhyfeddol. Dylai pob person pwysig ddysgu am ein moroedd a darganfod y creaduriaid hynod sy’n byw yno. Darllena gannoedd o ffeithiau cyffrous am anifeiliaid y môr; dysga sut y gallwn warchod ein moroedd pwysig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a darganfydda gartrefi tanddwr rhyfeddol a llawer, llawer mwy.



Cyfrol ddifyr ar gyfer dysgwyr ifanc sy’n caru teithiau cyffrous a darganfyddiadau anhygoel. Mae’n bwysig i bob person pwysig wybod am gampau gwych anturiaethwyr arbennig, a dyma gyfle! Cyfle i ddysgu am hynt a helynt anturiaethwyr, arloeswyr, ac unigolion blaengar a mentrus, a darganfod y storïau sy’n gefndir i rai o ddigwyddiadau mwyaf hanesyddol y byd… a llawer llawer mwy.



Mae tîm ysgrifennu The Story of Space, The Story of Life a The Story of People yn cyflwyno’r llyfr cyntaf am ddyfeisiadau dynol ar gyfer plant ifanc, o ddyfeisio’r olwyn hyd at y we fyd eang! Addasiad Cymraeg gan Siân Lewis o The Story of Inventions gan Catherine Barr a Steve Williams.



Ewch ar daith rhwng y sêr i ddarganfod dirgelion y Bydysawd yn y llyfr cyffrous hwn. Yn llawn o ffeithiau ardderchog a ffotograffau bendigedig, mae’n ddelfrydol ar gyfer prosiectau ysgol ac yn gyflwyniad perffaith i’r gofod. Argraffiad newydd.



Llyfr difyr i feithrin sgiliau iaith a llythrennedd plant ac ennyn eu diddordeb ym myd natur. Gyda phwnc gwahanol ar bob tudalen, o gylch bywyd planhigion ac anifeiliaid i gynefinoedd a dulliau cyfathrebu, yn ogystal â rhyn y gallwn ni ei wneud i warchod byd natur, gall plant fwynhau’r lluniau lliwgar a dysgu elfennau iaith ddefnyddiol wrth bori drwy’r llyfr.



Llyfr lliwgar, llawn ffeithiau a lluniau i helpu plant dan 7 oed i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau. Dangosir hefyd sut i ofalu am yr ardd, yng nghwmni dau gymeriad bach hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga. Mae Adam Jones yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae’n postio cynghorion garddio dan yr enw @adamynyrardd. Llyfr arbennig i bob plentyn.



Mae addasiad Cymraeg gwych Mari George o You are 25% Banana yn llawn ffeithiau difyr ac anhygoel am y modd yr ydym yn perthyn i bopeth byw ar y blaned. Dyma’r eglurhad symlaf erioed i fyd anghyffredin y genynnau a byddwch yn rhyfeddu at yr hyn sy’n eich gwneud chi yn CHI!



Darganfyddwch fyd natur drwy gyfrwng briciau LEGO®! Wyddech chi fod yna blanhigyn sy’n bwyta pryfed? A bod yna famal sy’n medru hedfan? Mae’r fersiwn Cymraeg hwn o LEGO® Super Nature yn llawn ffeithiau rhyfeddol am fyd natur, oll wedi’i atgynhyrchu mewn LEGO. Ac yn goron ar y cyfan, cynhwysir briciau LEGO er mwyn i chi greu’r creaduriaid!



Dydych chi byth yn rhy ifanc i newid y byd! Darganfyddwch 100 syniad hwyliog i fod yn garedig ac i rannu llawenydd yn y byd o’ch cwmpas. Byddwch yn greadigol gyda briciau LEGO® a chewch eich ysbrydoli i ofalu am eraill, eich hunan a’r blaned. Cynlluniwch gerdyn diolch i gymydog neu ras lego, emoji LEGO i wneud i ffrind wenu, plannwch flodau sy’n garedig i wenyn a llawer, llawer mwy!



Addasiad Cymraeg o Gross and Ghastly: Human Body - llyfr hwyliog, llawn ffeithiau a manylion rhyfeddol ac ofnadwy am natur, sydd hefyd yn cynnig ffeithiau hanfodol am y corff dynol y dylai pob plentyn eu gwybod. Wyddech chi fod tua 600 blewyn o wallt yn un o’ch aeliau? Neu fedrwch chi ddyfalu faint o amser y byddwch yn ei dreulio yn eistedd ar sedd y tŷ bach yn ystod eich bywyd?


 


Stori sy’n dilyn taith merch ifanc o Gylch yr Arctig wrth iddi fynd ati i ddarganfod tarddiad y gwrthrychau rhyfeddol sydd wedi cael eu golchi i fyny ar lannau ei chartref. Stori sy’n cyfuno hud a lledrith chwedl gyda phwnc llosg llygredd plastig. Addasiad Cymraeg gan Mari Huws.



Ail gyfrol am fwy o ferched sy’n ysbrydoli merched a bechgyn Cymru. Dyma arwresau o Gymru, sydd wedi llwyddo yn eu meysydd arbenigol: Vulcana, Ann Pettitt, Cranogwen, Lowri Morgan, Mary Vaughan Jones, Rachel Rowlands, Margaret Haig Thomas, Annie Atkins, Mary Quant, Shirley Bassey, Lucy Thomas a Meena Upadhyaya. Cyfrol llawn hwyl, yn lliwgar ac yn ddeniadol i’r llygad.


 

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy