Skip to content

1,046,182 Llyfr wedi’u Darllen

Casgliad Iau

Lliwiau Byd Natur
Luned Aaron
 
Mae saith lliw yn yr enfys. Ond yng nghist ei thrysor mae lliwiau lu! Faint o’r lliwiau hyn wyt ti’n eu hadnabod? Tyrd i ddysgu am liwiau wrth fynd am dro lliwgar gyda Mam a Dad drwy luniau hardd y llyfr hwn.

Dysgu gyda Cyw: Antur Wyllt Bolgi / Bolgi’s Wild Adventure
Anni Llŷn, Bait & Debbie Thomas
 
Mae Bolgi a chriw Cyw yn mynd ar daith gerdded yn y goedwig ac yn dod o hyd i gliwiau sy’n eu harwain at anifeiliaid o bob math. Llyfr dwyieithog ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen.

Cyfres Cyw: Ailgylchu gyda Cyw / Recycling with Cyw
Anni Llŷn, Bait & Debbie Thomas
 
Llyfrau perffaith i blant bach i ddysgu geirfa sy’n gysylltiedig â’r cymeriadau poblogaidd sydd ar S4C ac ailadrodd patrymau iaith syml. Mae’r llyfr hwn yn dysgu enwau lliwiau’r biniau penodol i roi gwahanol ddeunyddiau – papur, tuniau, gwydr, plastig…

Shwshaswyn
Nia Jewell, Sïan Angharad
 
Dewch i gwrdd â Fflwff, Seren a Capten wrth iddyn nhw ymlacio yn yr ardd. Llyfr lliwgar gyda stori sy’n dysgu plant bach am yr ardd, am anadlu ac ymlacio, ac am ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’n dilyn patrwm y gyfres deledu Shwshaswyn sy’n rhan o arlwy Cyw ar S4C.

Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll
Carys Glyn, Ruth Jên
 
Mae’r wenynen yn drist. Mae hi wedi colli ei ffrindiau i gyd, felly mae’n gofyn i Griw’r Coed – Gwdi-Hw, Carwww, Mwyalchen, Eryr a Chwim yr Eog – am eu help. Llyfr lliwgar a thestun hwyliog sy’n dysgu gwers bwysig am yr amgylchedd.

Sgleinio’r Lleuad
Caryl Lewis, Valerianne Leblond
 
Cyfrol hardd, clawr caled, yn adrodd hanes Byrti a Bwbw sy’n sgleinio’r lleuad. Ond beth sy’n digwydd pan mae’r ddau’n penderfynu peidio rhoi sglein arno? Llyfr anrheg delfrydol gan Hoff Awdur Cymru ac arlunydd poblogaidd.

Merch y Mêl
Caryl Lewis, Valerianne Leblond
 
Mae Elsi’n byw gyda’i mam-gu, sy’n gofalu ar ôl gwenyn. Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy’n digwydd yn yr ardd yn ystod y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.

Y Soddgarŵ
Manon Steffan Ros, Lily Myrennyn
 
Paid â mynd i’r goedwig! dywedodd pawb. Yn fan’na mae’r Soddgarŵ yn byw! Ro’n i’n gwybod y ffordd drwy’r caeau, felly i ffwrdd â fi.

Ceri a Deri: Ceri a Deri – Adeiladu Tŷ i Aderyn
Max Low
 
Pan ddaw Ceri a Deri ar draws aderyn digartref, maen nhw’n penderfynu gwneud tŷ iddo. Maen nhw’n cael llawer o hwyl yn cynllunio’r tŷ perffaith, ond a fyddan nhw’n gallu ei adeiladu?

Mali – Storiau am Gi Bach ar y Fferm
Gwawr Edwards, Ali Liodge
 
Llyfr hardd, llawn lliw yn cynnwys 4 stori am Mali’r ci sy’n byw ar fferm. Mae pob stori yn canolbwyntio ar un tymor a dilynwn y tymhorau trwy galendr y byd amaethyddol. Mae’n Gymreig ei naws, gan gyflwyno dywediadau a chwpledi: ‘Ebrill, tywydd teg a ddaw, gydag ambell gawod law’.

Dihangfa Lwcus Duffy!
Ellie Jackson, Liz Oldmeadow
 
Stori wir am broblemau plastig yn ein moroedd. Mae Dihangfa Lwcus Duffy yn stori afaelgar am blastig yn y môr, sydd yn broblem fyd-eang. Mae’n pwysleisio, ar gyfer plant, y berthynas rhwng pobl a bywyd gwyllt, a’r peryglon sy’n wynebu môr-grwbanod yn eu cynefinoedd naturiol eu hunain.

Mae Ein Tŷ Ni ar Dân – Cri Greta Thunberg i Achub y Blaned
Jeanette Winter, Greta Thunberg
 
Dyma alwad Greta Thunberg i achub y blaned. Dydych chi byth yn rhy ifanc i wneud gwahaniaeth. Gyda darluniau gan Jeanette Winter, dyma stori bwerus a phwysig Greta Thunberg, yr ymgyrchydd un ar bymtheg oed a daniodd symudiad byd-eang gan fynnu bod arweinwyr byd yn gweithredu ar fyrder i ddelio gyda phroblemau newid hinsawdd.

Mae’r Cyfan i Ti
Luned Aaron
 
Cyfrol annwyl a theimladwy i’w darllen cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau’r byd i’w plentyn. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud wrth i ni ddarllen am ryfeddodau’r byd sydd ar gael i’r plentyn. Digwydd hyn trwy ddefnyddio’r pum synnwyr fel modd o ddangos yr ystod o brofiadau sydd i’w cael ynghanol byd natur. Cyfieithiad Saesneg o’r testun yng nghefn y llyfr.

Beth Grëwn Ni / What We’ll Build
Oliver Jeffers
 
Beth grëwn ni, ti a fi? Fe wna i dy ddyfodol di, a tithau f’un i. Gwnawn oriawr i gadw’n holl amser ni.

Dyma Ni – Sut i Fyw ar y Ddaear / Here We Are – Notes for Living
Oliver Jeffers
 
Gall y byd hwn fod yn lle dryslyd iawn weithiau, yn enwedig os wyt ti newydd gyrraedd. Tyrd i weld y blaned lle ry’n ni’n byw, er mwyn ateb rhai o’r cwestiynau sy’n berwi yn dy ben. O’r tir a’r môr i bobl ac amser, gall y llyfr hwn dy roi ar ben ffordd. Byddi di’n dod i ddeall rhai pethau ar dy ben dy hun hefyd. Ond cofia adael nodiadau ar gyfer pawb arall…

Gormod o Bopeth! / Too Much Stuff!
Emily Gravett
 
Awn yn ôl i’r goedwig i gwrdd â chymeriadau adnabyddus stori Taclus/Tidy, ond y tro hwn, y piod yw’r prif gymeriadau. Mae’r llyfr yn dangos pa mor hawdd y cawn ein hudo gan eiddo, cyn lleied o bethau sydd angen arnom go iawn, a sut mae ailgylchu yr hyn y gallwn fyw hebddo. Addasiad Cymraeg o stori amserol, gyda darluniau moethus, gan enillydd dwy Fedal CILIP Kate Greenaway.

Sut Alla i Greu Enfys? / How Do You Make a Rainbow?
Caroline Crowe, Cally Johnson-Isaacs
 
Sut alla i wneud enfys? Mae’r stori lawen hon, a ysgrifennwyd gan Caroline Crowe ac a ddarluniwyd gan Cally Johnson-Isaacs, yn dangos sut i ddod o hyd i liw a gobaith pan fydd dyddiau’n ymddangos yn dywyll a llwyd. Mae’n dathlu cariad, positifrwydd a’r berthynas werthfawr rhwng plentyn a’i thad-cu.

Cyfres Wyt Ti’n Gwybod?: Adar Bach
Non ap Emlyn, Rhiannon Spark
 
Llyfr i gyflwyno plant 3-5 mlwydd oed i ystod o ffeithiau diddorol er mwyn ysgogi eu chwilfrydedd ynghylch y byd o’u cwmpas yn ogystal â hyrwyddo eu hawydd i chwilota am bob math o wybodaeth. Y thema yw adar bychain.

Cyfres Wyt Ti’n Gwybod?: Trychfilod
Bethan Clement, Rhiannon Spark
 
Llyfr i gyflwyno plant 3-5 mlwydd oed i ystod o ffeithiau diddorol am drychfilod er mwyn ysgogi eu chwilfrydedd ynghylch y byd o’u cwmpas yn ogystal â hyrwyddo eu hawydd i chwilota am bob math o wybodaeth am un pwnc penodol.

Cyfres Wyt Ti’n Gwybod?: Tywod
Non ap Emlyn, Rhiannon Spark
 
Llyfr i gyflwyno plant 3-5 mlwydd oed i ystod o ffeithiau diddorol er mwyn ysgogi eu chwilfrydedd ynghylch y byd o’u cwmpas yn ogystal â hyrwyddo eu hawydd i chwilota am bob math o wybodaeth. Y testun penodol y tro hwn yw Tywod.

Cyfres Wyt Ti’n Gwybod?: yn y Parc
Bethan Clement, Rhiannon Spark
 
Llyfr i gyflwyno plant 3-5 mlwydd oed i ystod o ffeithiau diddorol er mwyn ysgogi eu chwilfrydedd ynghylch y byd sydd o’u cwmpas yn ogystal ag hyrwyddo eu hawydd i chwilota am bob math o wybodaeth. Y tro hwn awn am dro i’r parc drwy’r tymhorau.

Cyfres am Dro: 3. Adar
Angharad Tomos
 
Adar o bob lliw a llun a geir yn y llyfr deniadol hwn gan Angharad Tomos. Llyfr llawn ffeithiau a darluniau mewn iaith syml a lluniau clir. Pa un yw hoff aderyn Rwdlan tybed?

Cyfres am Dro: 4. Creaduriaid Bach
Angharad Tomos
 
Cewch ddarganfod byd y creaduriaid bach a dod i wybod mwy amdanynt yn y llyfrau bach deniadol newydd hyn.

Llyfrau Goleuo’r Dudalen: Ar y Fferm
Susie Behar, Essi Kimpimäki
 
Beth sydd i’w weld ar y fferm heddiw? Gyda chymorth y llyfr goleuo’r dudalen hwn, sy’n cynnwys gwaith celf hyfryd, cewch ddysgu am ffermio drwy’r tymhorau, yn cynnwys magu cywion anifeiliaid a thyfu a chynaeafu cnydau. Cewch hefyd ddarganfod delweddau ‘cudd’ wrth ddal y tudalennau i’r golau! Cyfrol lliwgar, llawn hwyl ac addysg!

Llyfrau Goleuo’r Dudalen: Byd Glan Môr
Carron Brown
 
Cyfrol ddarluniadol hardd yn cyflwyno cyfrinachau a llawenydd byd natur i blant, wrth iddynt ddysgu am y creaduriaid a’r planhigion sy’n byw ar lan y môr.

Llyfrau Goleuo’r Dudalen: Byd yr Ardd Lysiau
Carron Brown
 
Beth sy’n byw yn yr ardd lysiau? Rho olau y tu ôl i’r dudalen, a dod o hyd i fyd bach yn llawn o ryfeddodau mawr! O godau pys sy’n agor i fwydod gwinglyd, bydd rhyfeddodau cudd y byd prysur hwn yn dod i’r golwg.

Stori Newid Hinsawdd
Catherine Barr, Steve Williams
 
Gan gyfuno hanes a gwyddoniaeth, mae’r llyfr hwn yn darlunio’r newidiadau yn hinsawdd y Ddaear, o ddechreuadau’r blaned a’i atmosffer, hyd at y chwyldro diwydiannol a gwawr peirianwaith. Caiff darllenwyr ifanc ddysgu am achosion newid hinsawdd megis ffermio ffatri a llygredd, ynghyd â’r effeithiau y caiff newid hinsawdd ar ddynoliaeth ac anifeiliaid ar draws y byd.

Gwybodaeth i oedolion

Parth Ysgol

Ewch i’n Parth Ysgol i gael adnoddau am ddim a syniadau Sialens ar gyfer eich dosbarth

Darllenwch fwy

Parth Cartref

Ewch i’n Parth Cartref, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i rieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, a gofalwyr.

Darllenwch fwy

Parth Llyfrgell

Ewch i’n Parth Llyfrgell i ddod o hyd i lyfrgelloedd yn eich ymyl chi sy’n rhedeg y Sialens.

Darllenwch fwy